(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Reoli Busnes
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2024, 2025
Hyd y cwrs
4 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y cwrs byr hwn yn eich cynorthwyo i ddeall a datblygu rhai o’r sgiliau allweddol angenrheidiol i ddod yn arweinydd busnes effeithiol a’ch galluogi i ddeall y gwahaniaeth rhwng rheoli da ac arwain effeithiol. Mae datblygu sgiliau arwain a rheoli yn allweddol er mwyn parhau’n gynhyrchiol a chymell eich hun a’ch tîm.
Prif nodweddion y cwrs
- Mae’r cwrs wedi’i gynnal ar-lein er hyblygrwydd i chi, cewch fewngofnodi i’r cynnwys yn ôl yr angen a rhyngweithio yn y fforymau wythnosol.
- Mae’r asesu yn cael ei wneud fel rhan o drafodaethau ar-lein felly nid oes traethodau nac aseiniadau ffurfiol.
Beth fyddwch chin ei astudio
Wythnos 1 Cyflwyniad (3 awr o gyswllt)
- Mewngofnodwch i'r ddarlith i ddysgu am Strwythur Sefydliadol a Swyddogaethau rheoli.
- Dewch o hyd i ddarnau darllen yr wythnos hon - 'Strwythur Sefydliadol' a gwnewch y cwis ar-lein.
- Gwyliwch fideo'r wythnos hon am swyddogaethau rheoli a rhyngweithiwch ar y fforwm i drafod eich safbwyntiau.
- Ymgysylltwch yn y pwynt dysgu allweddol rhyngweithiol ar gyfer yr wythnos hon ac ymatebwch yn y fforwm.
Wythnos 2 Rydym oll yn wahanol (3 awr o gyswllt)
- Mewngofnodwch i'r ddarlith am Y Sgiliau a nodweddion rheolwr.
- Dysgwch fwy am sut mae personoliaeth taith yn dylanwadu ar eich arddull rheoli a rhyngweithiwch ar y fforwm i ymchwilio.
- Darllenwch erthygl yr wythnos hon a gwyliwch y clip - ymatebwch i'r fforwm a phwyntiau trafod yr wythnos hon.
Wythnos 3 Deallusrwydd Emosiynol (3 awr o gyswllt)
- Mewngofnodwch i'r ddarlith - Fforwm Economaidd y Byd Sgiliau'r Dyfodol, a Deallusrwydd Emosiynol i Reolwyr.
- Ewch i'r afael â'ch pwyntiau gweithredu ar gyfer yr wythnos.
- Darllenwch yr astudiaeth achos diweddaraf a dechreuwch ystyried sut mae hyn yn gymwys i chi.
- Gwyliwch y clip am arweinyddiaeth ac ymatebwch i'r fforwm ar-lein.
Wythnos 4 - Rheolwr v Arweinwyr (3 awr o gyswllt)
- Mewngofnodwch i'r ddarlith - am y gwahaniaethau rhwng arweinyddiaeth a rheolaeth.
- Darllenwch yr erthygl ac atebwch y cwestiynau.
- Gwrandewch ar y podlediad sydd wedi ei bostio ac ymatebwch ar y fforwm.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Mae'r cwrs byr hwn yn gofyn bod y myfyriwr yn gallu ddyrannu 3 awr yr wythnos i'w hastudiaeth, ond nid oes unrhyw ofyniad i fod ar gael ar adeg benodol.
Addysgu ac Asesu
Mae asesiad yn cynnwys y trafodaethau rhyngweithiol ac ymgysylltiad fforwm.
Ffioedd a chyllid
£45
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau'r cwrs
Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.
Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.
Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.