(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Iechyd Meddwl
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
10 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’n bosibl ein bod ni nawr yn fwy nag erioed, angen meddwl beth sy’n ein cadw yn feddyliol iach. Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i gynorthwyo â datblygu eich dealltwriaeth am iechyd meddwl a lles meddyliol. Bydd y cwrs yn archwilio effaith problemau iechyd meddwl ar bobl a’r hyn y gallwn ei wneud i gynorthwyo unigolion a chymunedau i deimlo’n well
Prif nodweddion y cwrs
- Cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddulliau dysgu diddorol, megis gwylio clipiau fideo, gwneud cwisiau, ystyried astudiaethau achos, a chymryd rhan mewn trafodaethau ar-lein.
- Cewch anogaeth i ddatblygu’ch hunanymwybyddiaeth, a chyfle i ganolbwyntio ar faterion o ddiddordeb personol i chi.
- Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd am wybod mwy am salwch meddwl, yn enwedig os ydych wrthi’n gweithio gyda phobl ar hyn o bryd, neu am wneud hynny yn y dyfodol.
Beth fyddwch chin ei astudio
- Problemau iechyd meddwl cyffredin
- Lles meddyliol
- Adferiad
- Iechyd meddwl plant ac arddegwyr
- Iechyd meddwl oedolion hŷn
- Cyfraith iechyd meddwl
- Iechyd meddwl a chreadigrwydd
Bydd y cwrs ar-lein hwn yn cael ei gyflwyno mewn ffordd hyblyg, er mwyn caniatáu i bobl â gofynion cystadleuol ar eu hamser dysgu ar yr amser sydd fwyaf cyfleus iddynt. Bydd deunyddiau'n mynd yn fyw ar yr ystafell ddosbarth rithwir ar ddydd Llun, ac yna gall cyfranogwyr weithio trwy'r rhain yn ystod yr wythnos ar adegau a fydd fwyaf addas iddynt.
Bydd cyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn pedair sesiwn ‘fyw’ ar draws y cwrs, a gynhelir ar nosweithiau Iau am 6pm - 7.30pm ar y campws:
- 26/1/23
- 16/02/23
- 09/03/23
- 30/03/23
Nid oes rheidrwydd i fynychu fodd bynnag, a chaiff y sesiynau eu recordio ar gyfer unrhyw un sydd ddim yn gallu cymryd rhan yn y sesiynau byw.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Y dyddiad cau ar gyfer cadw lle ar y cwrs hwn yw wythnos cyn y dyddiad dechrau.
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.
Addysgu ac Asesu
Bydd myfyrwyr yn creu portffolio gwaith yn ystod y modiwl. Cynnwys y portffolio fydd:
- Fforwm Moodle yn ymwneud â modelau iechyd meddwl.
-
Dyddiadur myfyriol (100 gair bob wythnos) lle bydd y myfyriwr yn ystyried ei agwedd ei hun tuag at bobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl o safbwynt personol neu broffesiynol.
- Taflen cyhoeddusrwydd sydd yn targedu rhan benodol o’r boblogaeth sydd â risg o iechyd feddwl gwael, a rhesymwaith cysylltiedig 750 o eiriau dros ddewis y gynulleidfa targed.
- Cwis amlddewis ar-lein.
Ffioedd a chyllid
£95
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon
Dyddiadau'r Cwrs
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb