Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2025

Hyd y cwrs

8 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Glossophobia, neu'r ofn o siarad cyhoeddus, yw un o'r ffobias mwyaf cyffredin a deimlir gan bobl ledled y blaned. Fodd bynnag, siarad cyhoeddus yw asgwrn cefn unrhyw gyfnewid llwyddiannus. Heb y gallu i siarad yn glir ac yn hyderus o flaen cynulleidfa, fyddi di ddim yn cyfleu dy syniadau a dy farn mor effeithiol.

Prif nodweddion y cwrs

Gall y gallu i siarad yn hyderus yn gyhoeddus (a'i fwynhau!) fod yn drawsnewidiol. Yn y cwrs rhagarweiniol hwn, byddwn yn archwilio'r 'pileri allweddol' sy'n gorwedd y tu ôl i siarad cyhoeddus effeithiol ac yn darparu offer a thechnegau ymarferol a fydd yn caniatáu ichi sefyll i fyny o flaen torf – gan gyfleu eich hun a'ch syniadau’n hyderus.

Wrth gwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn:

  • Deall yr elfennau craidd sy'n gorwedd y tu ôl i gyflwyniad effeithiol
  • Gallu adnabod yr offer a'r technegau syml sy'n gallu gwneud eich cyflwyniadau yn haws eu cyflawni, ac yn fwy effeithiol
  • Mynd i'r afael â'ch hunllefau siarad cyhoeddus gydag atebion ymarferol

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno ar-lein, ac yn hunangyfeiriedig. Bydd yn cynnwys:

  • Seminarau wythnosol byw: lle fyddwch yn archwilio, trafod a myfyrio ar themâu allweddol y cwrs.
  • Podlediadau dyddiol: gydag arbenigwyr siarad cyhoeddus yn rhannu eu cyngor a’u profiadau.
  • Heriau dyddiol: cyfle i chi roi theori ar waith trwy gwblhau tasgau syml.
  • Darllen argymelledig: ystod eang o erthyglau, astudiaethau achos a chlipiau cyfryngau yn ymwneud â phob agwedd ar siarad cyhoeddus.
  • Sesiynau 'Gofynnwch Unrhyw Beth i Mi’: lle gallwch drefnu sesiwn 1:1 gyda thiwtor y cwrs.
  • Fforwm trafod: lle gallwch gyfnewid syniadau gyda myfyrwyr eraill.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk

Addysgu ac Asesu

Asesir y cwrs hwn trwy gyflwyniad wedi'i recordio, lle byddwch yn cyflwyno eich cynllun gweithredu personol ar gyfer adeiladu a chymhwyso eich sgiliau siarad cyhoeddus yn y dyfodol.

Ffioedd a chyllid

£45

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Dydd Llun 8 Ebrill 2024