(Cwrs Byr) Cymorth Gweithredol Cwn

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
2.5 diwrnod
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae poblogrwydd cŵn chwilio ac achub wedi’i gofnodi’n eang, ac mae’r galw am rolau sy’n cefnogi hyn yn cynyddu. Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i bobl sydd â diddordeb mewn gweithio gyda chŵn gweithio i gwblhau peth hyfforddiant ymarferol, ond nid o reidrwydd y bobl sydd eisiau dod yn hyfforddwyr cŵn chwilio.
Prif nodweddion y cwrs
- Datblygwyd ar y cyd ag UK-K9 Training for Excellence
- Wedi’i gymeradwyo gan NASDU (Cymdeithas Genedlaethol ar gyfer Defnyddwyr Cŵn Diogelwch)
- Dysgu cyfunol ar-lein ac mewn person
Beth fyddwch chin ei astudio
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn astudio:
- Rolau a Chyfrifoldebau mewn Cymorth Cŵn
- Dulliau Cyfathrebu
- Iechyd, Diogelwch a Deddfwriaeth
- Rheoli a Llesiant Cŵn
- Offer ac Adnoddau
- Llywio a chrefft Maes
Addysgu ac Asesu
Byddwch angen cwblhau dau asesiad:
1. Bydd y cyntaf yn gwis byr yn cynnwys cyfres o gwestiynau amlddewis a bydd ar gael ar ein Hamgylchedd Dysgu Rhithiwr - Moodle
2. Bydd yr ail yn gofnod dysgu o weithdai a gweithgareddau ymarferol a wneir ar draws y modiwl ac mae angen ei gyflwyno bythefnos ar ôl gorffen y ddarpariaeth, i ganiatáu amser i roi cadarnhad i'r dysgu.
Ffioedd a chyllid
I ddarganfod y ffioedd mwyaf diweddar ar gyfer y cwrs hwn, anfonwch e-bost at shortcourses@wrexham.ac.uk.
Os ydych chi'n staff neu'n fyfyriwr yn prifysgol wrecsam presennol neu'n byw yng Nghymru, efallai y byddwch chi'n gymwys i gael gostyngiad neu hepgoriad ffi ar gyrsiau cymwys.
Cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk am fanylion pellach.
Dyddiadau cyrsiau
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.