Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

2.5 diwrnod

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae poblogrwydd cŵn chwilio ac achub wedi’i gofnodi’n eang, ac mae’r galw am rolau sy’n cefnogi hyn yn cynyddu. Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i bobl sydd â diddordeb mewn gweithio gyda chŵn gweithio i gwblhau peth hyfforddiant ymarferol, ond nid o reidrwydd y bobl sydd eisiau dod yn hyfforddwyr cŵn chwilio.

Prif nodweddion y cwrs

  • Datblygwyd ar y cyd agUK-K9 Training for Excellence
  • Wedi’i gymeradwyo gan NASDU (Cymdeithas Genedlaethol ar gyfer Defnyddwyr Cŵn Diogelwch) 
  • Dysgu cyfunol ar-lein ac mewn person 

Beth fyddwch chin ei astudio

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn astudio:

  • Rolau a Chyfrifoldebau mewn Cymorth Cŵn
  • Dulliau Cyfathrebu
  • Iechyd, Diogelwch a Deddfwriaeth
  • Rheoli a Llesiant Cŵn
  • Offer ac Adnoddau
  • Llywio a chrefft Maes

Addysgu ac Asesu

Byddwch angen cwblhau dau asesiad:

1. Bydd y cyntaf yn gwis byr yn cynnwys cyfres o gwestiynau amlddewis a bydd ar gael ar ein Hamgylchedd Dysgu Rhithiwr - Moodle

2. Bydd yr ail yn gofnod dysgu o weithdai a gweithgareddau ymarferol a wneir ar draws y modiwl ac mae angen ei gyflwyno bythefnos ar ôl gorffen y ddarpariaeth, i ganiatáu amser i roi cadarnhad i'r dysgu.

Ffioedd a chyllid

£95

Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau cyrsiau

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.