Lady holding a book

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

5 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Cynlluniwyd y cwrs hwn i’ch galluogi i gynyddu’ch hyder wrth gymryd y cam nesaf i addysg israddedig – boed chi’n dychwelyd i astudio ar ôl cyfnod i ffwrdd, ar fin cychwyn yn y brifysgol neu’n meddwl gwneud cwrs proffesiynol neu ran amser.

Prif nodweddion y cwrs

  • Ymchwilio a chael gafael ar wybodaeth o amryw o ffynonellau
  • Paratoi at astudio ar lefel uwch
  • Cyfle i wella a chryfhau eich sgiliau TG
  • Meithrin eich hyder er mwyn i chi gyflawni eich potensial

“Dwi’n mwynhau yn fawr iawn ac yn teimlo’n gymaint mwy ymlacedig am yr holl beth erbyn rŵan.  Mae’r gwersi yn addysgiadol iawn ac mae’r pryderon mawr am y ‘cyfeirnodi’ dryslyd yn dechrau diflannu. Ni allaf argymell y cwrs ddigon. Dwi eisoes yn teimlo fy mod wedi ymgartrefu ym mywyd y brifysgol, er mai dim ond ym mis Medi wnes i ddechrau.”

Helen Anderson, myfyrwraig Dysgwr Hyderus, wedi ymuno â BA (Anrh) Busnes (gyda blwyddyn sylfaen)

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Lleoli, gwerthuso a defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau
  • Dangos yr angen am eglurder a chydlyniad wrth gyflwyno safbwyntiau
  • Mabwysiadu arddulliau ysgrifennu a chyflwyno academaidd ar lefel AU
  • Nodi confensiynau priodol ar gyfer nodi a chyfeirio ffynonellau

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy'n:

  • Pontio rhwng lefel 3 a 4
  • Cychwyn yn y Brifysgol ym Medi (waeth beth fo'r Brifysgol)
  • Meddwl am ddechrau cwrs Rhan Amser neu broffesiynol ond nad yw'n 100% yn siŵr oherwydd cymwysterau isel
  • Unrhyw un sydd eisoes wedi gwneud cais i'r Brifysgol ond y mae angen iddyn nhw gynyddu eu graddau mynediad

Addysgu ac Asesu

Asesiad Un (Gwaith Cwrs 50%): Yn ystod y modiwl bydd myfyrwyr yn dangos eu cymhwysedd wrth leoli, gwerthuso a defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o gyrsiau. Bydd disgwyl iddynt ysgrifennu darn byr o waith (750 o eiriau) sy'n eu galluogi i gyflwyno eu barn mewn ffordd glir a chydlynol, yn unol â chonfensiynau academaidd.

Asesiad Dau (Cwis Ar-lein MCQ 50%): Bydd myfyrwyr yn cynnal cwis MCQ ar-lein er mwyn dangos eu sgiliau wrth ddefnyddio confensiynau priodol ar gyfer nodi a chyfeirio ffynonellau.

Ffioedd a chyllid

Mae bwrsariaeth ar gael i ymgeisio amdano, ar gyfer myfyrwyr sydd am wneud y cwrs yma. Llenwch y ffurflen hon er mwyn penderfynu beth yw eich cymhwysedd: cliciwch yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â shortcourses@glyndwr.ac.uk

Dyddiadau cyrsiau

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.

Cyflwynir y cwrs dros 5 wythnos. Mae darlithoedd wedi eu recordio ymlaen llaw, sy'n golygu y gallwch gael mynediad at y deunydd ar ddiwrnod ar y pryd i'ch siwtio drwy gydol yr wythnos. Nid oes darlithoedd byw i'w mynychu.  

*Noder* Dim ond unwaith mae unigolion angen archebu’r cwrs, mae gan bob cwrs ddyddiad cychwyn gwahanol ond mae gan bob un yr un cynnwys.