(Cwrs Byr) Gwaith Ieuenctid Digidol - Cyflwyniad i Egwyddorion ac Arferion

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
12 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r galw am weithwyr ieuenctid i ddylunio a darparu gwaith ieuenctid yn ddigidol wedi cynyddu ers Covid-19. Nod y modiwl hwn yw rhoi cyflwyniad i waith ieuenctid digidol; cyflwyno’r theori sylfaenol iddo ynghyd â rhai o’r cysyniadau allweddol yn ymwneud â’i ddatblygu a’i ddarparu.
Prif nodweddion y cwrs
- Astudio ar-lein i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau o ran teulu a gwaith.
- Caiff cynnwys a deunyddiau’r cwrs eu datblygu a’u cyflwyno gan ddarlithwyr a gweithwyr ieuenctid profiadol, proffesiynol sydd wedi’u cymhwyso gan JNC.
- Mae’n cysylltu’n ymarferol ag arferion gwaith ieuenctid cyfredol.
- Dyma gyfle i chi ganolbwyntio ar eich datblygiad proffesiynol parhaus.
Beth fyddwch chin ei astudio
- Beth yw Gwaith Ieuenctid Digidol a pham fod angen ei wneud?
- Ieuenctid yn yr oes ddigidol - Datblygiad gwaith ieuenctid digidol
- Rhwystrau a datrysiadau i Ddiogelu Ymgysylltiad Digidol pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid ar-lein
- Technolegau ar gyfer gwaith ieuenctid digidol
Er sylw, modiwl academaidd yw hwn ac mae disgwyl astudiaeth annibynnol o 2-3 awr yr wythnos. Mae yna elfennau ymarferol a bydd modd cymhwyso dysgu i ymarfer. Fodd bynnag, nid yw'n gwrs hyfforddi.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Profiad presennol o ymarfer a gwaith ieuenctid yn fantais er mwyn cwblhau gweithgareddau asesu.
Profiad blaenorol o astudio ar Lefel 4 yn fanteisiol.
Addysgu ac Asesu
- Cwblhau portffolio sy'n dadansoddi cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a gwleidyddol gwaith ieuenctid digidol, ac archwilio'r agweddau ymarferol hanfodol i sicrhau bod pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid yn cael eu diogelu ar-lein. Bydd hyn yn cynnwys: - Datganiad yn dadansoddi cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a gwleidyddol gwaith ieuenctid digidol; yn cynnwys beth yw gwaith ieuenctid digidol, rhwystrau i ymgysylltu ar-lein a chryfderau dull gwaith ieuenctid digidol. (1000 o eiriau) - Dadansoddiad SWOT o barodrwydd eu sefydliad ymarfer i ddarparu gwaith ieuenctid digidol (500 gair) - Asesiad risg ar gyfer darparu gwaith ieuenctid digidol (500 gair)
- Cofnodi a lanlwytho cyflwyniad 10 munud sy'n gwerthuso'r technolegau sydd ar gael ar gyfer gwaith ieuenctid digidol. Bydd hyn yn cynnwys: - disgrifiad o 2 dechnoleg y gellir eu defnyddio ar gyfer gwaith ieuenctid digidol - gwerthusiad o gryfderau a gwendidau'r technolegau hynny - argymhellion ar gyfer eu defnyddio mewn gwaith ieuenctid digidol. Gall y cyflwyniad gynnwys arddangosiad.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'r modiwl hwn yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr ieuenctid a chymunedol proffesiynol, gweithwyr cefnogi ieuenctid a gwirfoddolwyr yn y sector. Gall cwblhau'r modiwl arwain at astudiaeth bellach ar y llwybrau BA a MA mewn rhaglenni gwaith ieuenctid a chymunedol ym Mhrifysgol Wrecsam.
Ffioedd a chyllid
£95
Dyddiadau'r cwrs
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.