childcare student

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2025

Hyd y cwrs

9 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Bwriad y modiwl yw hyrwyddo dealltwriaeth o sut gall storïau ac adrodd stori fod yn ffordd hanfodol o helpu pobl i wneud synnwyr o’u bywydau.

Y nod yw archwilio sut caiff storïau ac adrodd stori eu defnyddio at ddibenion therapiwtig. Mae felly’n ceisio hyrwyddo sgiliau ymarfer drwy ganolbwyntio ar storïau a gweithgareddau adrodd stori yn y maes gwaith therapiwtig gyda phlant. Mae’r modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu am dechnegau sy’n berthnasol i ymarfer mewn amgylchedd addysgu a dysgu cefnogol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Dysgu am dechnegau sy'n berthnasol i ymarfer mewn amgylchedd addysgu a dysgu â chefnogaeth dda
  • Dull dysgu cyfunol - ymunwch â sesiynau wyneb yn wyneb wythnosol ac astudio ar-lein o amgylch eich ymrwymiadau

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Cyflwyniad i'r modiwl
  • Cyflwyniad i storïau ac adrodd stori therapiwtig – moeseg a phroses
  • Materion ymarfer mewn gwaith therapiwtig gyda phlant bregus.
  • Sgiliau adrodd stori a chyfathrebu
  • Storïau yn y berthynas therapiwtig
  • Storïau aml haen a’r defnydd o bersbectif sy’n seiliedig ar gryfder.
  • Gweithgareddau storïau ac adrodd stori mewn gwaith therapiwtig gyda phlant
  • Adrodd stori mewn barddoniaeth, ffuglen, hunangofiant a pherfformiad
  • Stori fel trosiad
  • Ymchwilio storïau
  • Gwaith stori bywyd gyda phlant

Addysgu ac Asesu

Caiff y modiwl hwn ei gyflwyno drwy ddysgu cyfunol sy’n cynnwys 9 wythnos o addysgu. Golyga hyn y bydd y grŵp yn cyfarfod yn bennaf am sesiwn gydamserol ryngweithiol, 1 awr o hyd, ar foreau Iau, rhwng 9am a 10am drwy Teams. Bydd sesiwn addysgu anghydamserol, dwy awr o hyd, hefyd yn cael ei chynnal yn wythnosol, a fydd ar gael i’r myfyriwr pryd bynnag sy’n addas i’w amserlen wythnosol. Yr unig newid i’r patrwm hwn fydd y sesiwn olaf, a fydd yn cael ei chynnal dros dair awr yn y Brifysgol.

Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys asesiad gwaith cwrs a chyflwyniad deg munud, a fydd yn digwydd ar wythnos 9.

Ffioedd a chyllid

£95

Dyddiadau'r Cwrs

Sylwch na fydd y cwrs hwn yn rhedeg yn y cylch 2024 / 2025 

Os hoffech gael eich rhoi ar restr ymholiadau ar gyfer diweddariadau yn y dyfodol, cofrestrwch eich diddordeb.