(Cwrs Byr) Gwella Cynhyrchiant a Phroffidioldeb
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
8 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i gefnogi unigolion sy’n ymwneud â rheoli ac arwain busnes. Byddwch yn elwa o rwydweithio â chydweithwyr proffesiynol a dysgu ar y cyd.
Prif nodweddion y cwrs
- Astudio ar-lein yn eich amser eich hun.
- Dod i ddeall y ffactorau sy’n effeithio ar gynhyrchiant a phroffidioldeb.
- Cael gwybod am ddulliau i dyfu a gwella eich sefydliad.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd cynnwys y modiwl yn cael ei gyflwyno yn dros gyfnod o 8 wythnos a bydd yn mynd i'r afael yn fras â'r canlynol:
- Cyflwyniad i Wella Cynhyrchiant a Phroffidioldeb
- Datguddio a rheoli costau cyflenwyr, cyllid, safleoedd a chynhyrchu
- Adolygu beth mae'r sefydliad yn ei werthu ac am ba bris
- Cynyddu proffidioldeb drwy brynu'n fwy effeithiol a lleihau gwastraff drwy'r busnes
- Canolbwyntio ymdrechion gwerthiant ar werthu mwy i gwsmeriaid proffidiol cyfredol a dod o hyd i gwsmeriaid tebyg i werthu iddynt
- Pecynnau cymorth a thechnegau ar gyfer ehangu eich marchnad a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd
- Rhoi hwb i gynhyrchiant, lleihau costau a pharhau'n gystadleuol
- Cynllunio ar gyfer newid a thwf i wella proffidioldeb y sefydliad
Bydd y ddarpariaeth ar gyfer y cwrs byr wyth wythnos yn cynnwys:
- 1 x darlith wedi'i recordio bob wythnos
- Cefnogi atgyfeiriadau i ddeunydd dysgu ar Moodle, dolenni i fideos (e.e. sgyrsiau TED), llyfr Moodle os yw'n briodol a darllen pellach
- Deunydd i gefnogi darpariaeth 6 x tiwtorial anghydamserol
- Darpariaeth 2 x fforwm deialogaidd 2 awr o hyd
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae’r cyfle i gofrestru ar gyfer y cwrs yn cau wythnos cyn dyddiad cychwyn y cwrs. Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk
Addysgu ac Asesu
Portffolio - Cofnod dysgu a Dyddlyfr
Ffioedd a chyllid
£50
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau'r Cwrs
Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.
Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.
Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.