Nursing professional making a home visit to an elderly patient

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 mis

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Nod y modiwl yw addysgu eiriolwyr atal cwympiadau i ddefnyddio offer a phrosesau i atal cwympiadau rhag digwydd a’u rheoli o dderbyniad hyd at adael. Bydd y cwrs yn cyflwyno gwybodaeth allweddol a fydd yn helpu myfyrwyr i ddeall a lleihau’r risgiau o bobl yn cwympo yn yr ysbyty a gartref.

Bydd y cwrs hwn yn:

  • Cefnogi myfyrwyr yn eu darpariaeth o ofal, asesiad risg ac yn allweddol bwysig, lleihau risgiau cwympiadau
  • Cefnogi dysg myfyrwyr drwy gydol yr amser a’u hannog i gymhwyso eu dysg yn ymarferol
  • Galluogi myfyrwyr i ddod yn eiriolwyr atal cwympiadau yn eu hamgylchedd clinigol

Prif nodweddion y cwrs

  • Astudio yn rhad ac am ddim
  • Darperir mewn partneriaeth â’r Athro Anil Mane o’r BCUHB (Ymgynghorydd Gofal Henoed) a ddyluniodd y rhaglen hon
  • Bydd arbenigwyr yn y maes yn cyflwyno darlithoedd allweddol a rhoddir sylw arbennig i’r dull amlddisgyblaethol o atal cwympiadau.

Beth fyddwch chin ei astudio

• Maint cwympiadau a goblygiadau hynny
• Egwyddorion asesu a rheoli cleifion
• Achosion ffisegol a fferyllol cwympiadau
• Mecanweithiau cwympiadau
• Peryglon cartref, ac egwyddorion addasu
• Rôl y tîm cwympiadau
• Offer i gefnogi atal cwympiadau
• Arfer gorau a Chanllawiau

Bydd y myfyrwyr yn derbyn ystod o dasgau gwaith cartref drwy gydol yr wythnosau dysgu a byddant yn cyfrannu i fforymau ar-lein lle bydd disgwyl iddynt drafod cynnydd ac arferion arloesol yn eu maes. Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref am nifer o oriau bob wythnos rhwng eu dyddiau astudio er mwyn ategu at eu dysgu. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gynnal dadansoddiad cwympiadau dros amser yn eu gweithle.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Yr unig ofyniad mynediad yw eich bod yn teimlo'n gryf ynghylch lleihau'r risg o glaf yn cwympo yn eich amgylcheddau gwaith clinigol.

Addysgu ac Asesu

Bydd yr addysgu yn digwydd wyneb yn wyneb ac ar-lein, gyda darlithoedd arweiniol yn cael eu darparu gan arbenigwyr yn y maes.

Byddwch yn derbyn cymorth gan arweinydd y modiwl a rhwydweithiau cymorth ehangach y brifysgol gan gynnwys gwasanaethau llyfrgell a staff sgiliau astudio drwy gydol y cwrs. Byddwch yn cymhwyso'ch gwybodaeth yn ymarferol gan wneud asesiad ymarferol o'ch amgylchedd clinigol, gan asesu'r risg o gwympiadau cleifion.

Bydd yr arholiad aml ddewis ar-lein yn asesu eich dysgu.

Ffioedd a chyllid

Am ddim

Dyddiadau’r Cwrs

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.