(Cwrs Byr) Rheoli Gweithrediadau Busnes
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
8 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Ydych chi'n barod i roi hwb anferthol i'ch gyrfa a dod yn rym dirgel o fewn eich sefydliad? Mae ein cwrs byr ar Reoli Gweithrediadau Busnes ym Mhrifysgol Wrecsam yn mynd i fod yn hanfodol ar gyfer meistroli effeithlonrwydd ac arweinyddiaeth mewn byd sy'n newid yn gynt nag erioed o'r blaen.
P'un ai ydych chi ynghanol tro mewn proses neu gynnyrch neu efallai yn eiddgar i sicrhau bod eich sgiliau'n addas ar gyfer y dyfodol, bydd y cwrs hwn yn eich darparu gyda hanfodion ymarferol i fynd i'r afael â'r heriau gweithrediadol caletaf. Camwch i fyny a sefwch allan, i arwain y newid o ran creu gwerth sy'n gwneud i'ch busnes fod ben ag ysgwydd uwchben y gweddill.
Prif nodweddion y cwrs
• Rhwydweithio Cymheiriaid gyda Chydweithwyr Proffesiynol eraill: Cysylltu, rhannu a thyfu gyda chymuned fywiog o weithwyr proffesiynol o'r un meddylfryd. Nid dim ond dysgu sy'n bwysig am ein cwrs ni; mae'n eich galluogi i adeiladu perthnasoedd hirdymor a all agor drysau a sbarduno syniadau newydd.
• Dysgu ar y Cyd: Newidiwch i mewn i amgylchedd dysgu cydweithredol lle mae eich mewnwelediad yn cyfrif. Cewch gyfnewid safbwyntiau, mynd i'r afael â phroblemau'r byd go iawn, a gwella eich dealltwriaeth drwy brofiadau a rennir.
• Fforymau Deialogaidd Byw: Cymerwch ran mewn fforymau deinamig, rhyngweithiol lle gallwch ofyn cwestiynau, trafod syniadau a chael adborth yn syth. Bwriedir i'r sesiynau yma fod yn fywiog yn sbarduno meddyliau gan wneud dysgu yn hwyl ac yn llawn effaith.
Beth fyddwch chin ei astudio
Ymunwch â ni am daith 8 wythnos i galon Rheolaeth Gweithrediadau Busnes, sy'n cael ei gyflwyno ar-lein yn gyfan gwbl er cyfleustra i chi. Dyma gipolwg ar yr hyn fyddwch chi'n eu harchwilio:
• Cyflwyniad i Reoli Gweithrediadau Busnes: Dechreuwch gyda'r elfennau sylfaenol er mwyn cael sylfaen gadarn mewn rheoli gweithrediadau.
• Llif y Broses a Rheoli Capasiti: Dysgwch sut i greu llif prosesau a rheoli capasiti er mwyn sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.
• Dysgwch am Reoli Gweithrediadau ac Ansawdd: Darganfyddwch gyfrinachau gwaredu gwastraff a chynnal y safon gorau posib.
• Rheoli Cadwyn Gyflenwi: I ddeall yn iawn popeth am reoli eich cadwyn gyflenwi er mwyn sicrhau'r effeithlonrwydd gorau.
• Asesiad Risg a Lliniaru: Arfogwch eich hun â’r sgiliau i adnabod risgiau a datblygu strategaethau lliniaru.
• Pecynnau a Thechnegau ar gyfer Cynllunio Gweithrediadau Busnes: Cyfle i gael profiad ymarferol gyda dulliau a thechnegau ar gyfer cynllunio gweithrediadau yn effeithiol.
• Gweithredu Cynllun Busnes Gweithrediadol: Dysgwch sut i flaenoriaethu a dosrannu adnoddau er mwyn dod â'ch cynllun yn fyw.
• Addasu i Risgiau a Chyfleoedd sy'n Esblygu: Cadwch yn hyfyw ac yn ymatebol i'r dirwedd fusnes sy'n newid yn barhaus.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, presennol cysylltwch â enterprise@wrexham.ac.uk
Y dyddiad cau ar gyfer cadw lle ar y cwrs hwn yw wythnos cyn y dyddiad dechrau.
Addysgu ac Asesu
Mae ein dull cyflawni hyblyg ac apelgar yn cynnwys:
• 1 x Darlith wedi'i Recordio yr Wythnos: Cewch fynediad at y rhain ar unrhyw adeg sy'n gyfleus i chi a gallwch ailymweld â hwy unrhyw bryd rydych angen cae; eich atgoffa ohonynt.
• Deunyddiau Dysgu Cefnogol ar Moodle: Plymiwch yn ddyfnach gyda chynnwys wedi'i guradu, gan gynnwys sgyrsiau TED, canllawiau astudio a rhestr ddarllen wedi'i hargymell.
• 4 x Tiwtorial Anghydamseredig: Dysgwch yn eich amser eich hun gyda thiwtorialau sy'n cyd-fynd â'ch amserlen chi.
• 4 x Fforwm Deialogaidd 2 Awr: Cymerwch ran mewn trafodaethau bywiog i atgyfnerthu eich dysgu a chael atebion byw i'ch cwestiynau.
Portffolio - Log dysgu a Dyddlyfr
Ymunwch â ni ym Mhrifysgol Wrecsam er mwyn gallu cyfrannu at weithrediadau byd busnes mewn ffordd gofiadwy. Nid dim ond cwrs yw hwn - dyma ddechreuad ar ddod yn un o'r sêr disgleiriaf ym myd gweithrediadau. Dewch i ni fynd amdani!
Rhagolygon gyrfaol
Nac ydyw - ond bydd yn cefnogi unigolyn sydd ynghlwm wrth reolaeth Busnes ac arweinyddiaeth
Ffioedd a chyllid
£195
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau'r cwrs
Dyddiad Cychwyn: Dydd Llun Tachwedd 4 2024 - Archebwch nawr