(Cwrs Byr) Rheoli perfformiad
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
4 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae deall y defnydd strategol o reoli perfformiad i hyrwyddo a gwella effeithiolrwydd gweithiwr yn faes sgil a gwybodaeth allweddol mewn oes lle mae sefydliadau yn wynebu newidiadau mawr, cymhleth a rhyngddibynnol lle mae'r hyn oedd yn sicr yn nhermau modelau busnes, grymoedd y farchnad a galluoedd sy'n ofynnol gan ddoniau bellach yn ofer.
Prif nodweddion y cwrs
- Mae'r cwrs hwn yn cynnig dull strwythuredig o gefnogi unigolion wrth iddynt hwy a'u sefydliadau groesi'r heriau presennol i alluogi sefydliad i ryddhau ei bŵer a'i berfformiad trwy ryddhau potensial llawn ei weithwyr unigol.
- Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau i adolygu, asesu, dadfriffio a datblygu gweithwyr.
- Bydd myfyrwyr yn cynyddu eu gallu i ddarparu rheolaeth tîm effeithiol, a darparu eu sefydliad â'r offer a'r technegau sydd eu hangen i ymateb yn fwy effeithiol i hwyluso lefelau uchel o effeithiolrwydd gweithwyr.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â'r canlynol:
- Cyflwyniad i Ddadansoddi Perfformiad
- Gwerthfawrogi pobl trwy’r broses rheoli perfformiad
- Ymarfer rheoli perfformiad
- Sut i gynnal sgyrsiau anodd a delio â thanberfformio
Bydd dilyn y cwrs hwn yn golygu:
- 16 awr o Oriau Dysgu ac Addysgu wedi’u hamserlennu
- 2 awr o ddosbarthiadau Ymarferol
- 82 awr o Astudiaeth Annibynnol dan Arweiniad
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Addysgu ac Asesu
Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau fforwm trafod ar-lein ar bob pwnc a gyflwynir yn wythnosol. Bydd y fforymau yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio a dangos yr hyn a ddysgwyd. Bydd log dysgu a myfyrdodau myfyrwyr ar drafodaethau am y pynciau gwahanol bob wythnos yn cyfuno i greu’r asesiad. Y lleiafswm ar gyfer cyfanswm y nifer geiriau yw 2,000 o eiriau.
Ffioedd a chyllid
£50
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau'r cwrs
Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.
Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.
Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.