(Cwrs Byr) Rhifedd Hyderus
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
6 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i godi eich hyder wrth ddefnyddio mathemateg... boed chi’n dychwelyd i astudio ar ôl cyfnod i ffwrdd, neu eich bod ar fin dechrau yn y brifysgol neu’n ystyried gwneud cwrs proffesiynol neu ran amser.
Prif nodweddion y cwrs
- Paratoi ar gyfer pynciau sydd â chynnwys mathemategol
- Meithrin hyder mewn defnyddio mathemateg i ddatrys problemau
- Datblygu dealltwriaeth mewn sgiliau mathemategol allweddol
- Deall a datblygu datrys problem gymhwysol
- Cyfle i feithrin eich hyder er mwyn i chi gyflawni eich potensial
Beth fyddwch chin ei astudio
- Gweithdrefnau rhifyddeg sylfaenol
- Cyfrifianellau (Sut i ddefnyddio)
- Ffactorau a rhifau cysefin
- Pŵerau
- Esbonyddol a Logarithmau
- Cymarebau a chanrannau
- Ffracsiynau
- Ystadegau
- Graffiau
- Algebra
- Trigonomeg
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy'n:
- Eisiau datblygu eu hyder mewn defnyddio sgiliau mathemategol
- Yn dechrau yn y brifysgol ym mis Medi (waeth pa Brifysgol)
- Yn pontio rhwng astudiaeth prifysgol lefel 3 a 4
- Yn ystyried cychwyn cwrs rhan-amser neu broffesiynol ond ddim yn 100% oherwydd cymwysterau isel
- Unrhyw un sydd eisoes wedi gwneud cais o Brifysgol ond angen cynyddu eu graddau mynediad
Y dyddiad cau ar gyfer cadw lle ar y cwrs hwn yw wythnos cyn y dyddiad dechrau.
Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@wrexham.ac.uk
Addysgu ac Asesu
- Asesiad un: Cwis Ar-lein (pwysoli 10%)
- Asesiad dau: Portffolio (pwysoli 90%)
Ffioedd a chyllid
Am ddim
Dyddiadau cyrsiau
Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@wrexham.ac.uk