(Cwrs Byr) Taflu Cerameg
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
8 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Ydych chi wastad wedi bod eisiau cael tro ar olwyn crochenwaith? Mae ein cwrs deg wythnos yn mynd â chi trwy hanfodion paratoi a chanoli’r clai i sut i daflu eich powlenni a’ch llestri eich hun. Dan arweiniad ceramegwyr proffesiynol, cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau a chynhyrchu gwrthrychau i’w defnyddio adref.
Prif nodweddion y cwrs
- Sesiynau ymarferol yn ein gweithdai yn Ysgol Gelf Stryt y Rhaglaw.
- Astudio amrywiaeth o dechnegau cerameg.
- Dylunio a chynhyrchu eich creadigaethau personol eich hun.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i rai o brosesau taflu cerameg ar olwyn crochenwaith. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu tywys trwy amrywiaeth o ddulliau cerameg, o baratoi’r clai amrwd i ddarnau wedi’u gwydro terfynedig.
Cewch arweiniad i gynhyrchu eich syniadau dylunio eich hun gan ddefnyddio dulliau arbrofol wedi’u harwain gan arddangosiadau.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae’r cwrs yn amodol ar isafswm o gyfranogwyr a bydd taliadau yn cael eu talu’n ôl yn llawn os na fydd y cwrs yn recriwtio’r isafswm yma.
Addysgu ac Asesu
Gall y portffolio o waith a gasglwyd yn ystod y cwrs byr gael ei gyflwyno i’w asesu, gan ddarparu 10 credyd AU.
Ffioedd a chyllid
£195
Mae’r ffi yn cynnwys mynychu a thiwtora, gan gynnwys asesu a deunyddiau sylfaenol. Mae’n bosib y codir ffioedd ychwanegol os bydd y cyfranogwyr yn dewis gweithio gyda deunyddiau ansafonol neu’n defnyddio llawer ohonynt neu mewn diwyg mawr.
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau cyrsiau
6yh-8:15yh unwaith yr wythnos am 8 wythnos - ARCHEBWCH NAWR
Ionawr 2025:
- Dydd Llun 27 Ionawr
- Dydd Mawrth 28 Ionawr
- Dydd Mercher 29 Ionawr
- Dydd Iau 30 Ionawr
Ebrill 2025:
- Dydd Llun 7 Ebrill
- Dydd Mawrth 8 Ebrill
- Dydd Mercher 9 Ebrill
- Dydd Iau 10 Ebrill