BA (Anrh) Celfyddyd Gymhwysol

Manylion cwrs
Côd UCAS
W201
Blwyddyn mynediad
2023, 2024
Hyd y cwrs
3 BL (llawn-amser)
Tariff UCAS
80-112
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Cysylltiadau cryf
ag orielau a sefydliadau masnachol
1af yn y DU
ar gyfer yr addysgu ar fy nghwrs (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022)*
Y 10 uchaf yn y DU
a 1af allan o brifysgolion Cymru am foddhad cyffredinol (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022)*
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae'r cwrs Celfyddydau Cymhwysol hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau crefft ansawdd uchel sydd eu hangen i fod yn wneuthurwr proffesiynol. Datblygwch eich sgiliau deunydd a dylunio trwy Cerameg, Metel, Gemwaith a chyfryngau cymysg.
Bydd myfyrwyr yn:
- Gallu ddeall pwysigrwydd creu gweithiau o ansawdd uchel, gwreiddioldeb a sut i gynhyrchu ymatebion personol i ddeunyddiau a phrosesau
- Datblygu creadigrwydd, arloesedd a sgiliau entrepreneuraidd
- Gallu cyfuno eu sgiliau cysyniadol a thechnegol mewn celfyddydau cymhwysol gyda'r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i fod yn wneuthurwr llwyddiannus.
- Datblygu sgiliau rhyngbersonol trwy brosiectau cydweithredol a gwaith tîm.
- *Astudiwch gwrs sy’n rhan o grŵp pwnc CHA3 sydd yn safle 1af yn y DU am addysgu ar fy nghwrs ac yn 6ed yn y DU ac yn 1af allan o brifysgolion Cymru am boddhad cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.
Gallwch chi hefyd ddewis astudio'r cwrs hwn fel rhaglen dros pedair blynedd gyda blwyddyn sylfaen BA (Anrh) Celfyddydau Cymhwysol (gyda blwyddyn sylfaen) Cod UCAS: W202

Celf & Dylunio yn Prifysgol Wrecsam
Prif nodweddion y cwrs
- Cysylltiadau masnachol da a chysylltiadau gwych gydag orielau, gyda'r ffocws ar sgiliau crefft i'ch galluogi i ddod yn wneuthurwyr o'r radd flaenaf.
- Mae’r ffocws ar ddatblygu eich sgiliau busnes mewn meysydd megis prisio, cyhoeddusrwydd a marchnata; mae arholwyr allanol yn ein canmol yn gyson am ba mor dda y mae ein myfyrwyr wedi cael eu paratoi ar gyfer bywyd proffesiynol.
- Cewch eich addysgu gan dîm ymroddedig o ymarferwyr ymchwil-weithredol sy’n arddangos eu gwaith eu hunain yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
- Gweithio ar brosiectau byw, arddangosfeydd, cystadleuthau a chomisiynau ar gyfer cleientiaid cyhoeddus a phreifat; bydd hyn yn rhoi’r hyder i chi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol, er enghraifft, wrth fynd â’ch gwaith i orielau a llefydd manwerthu.
- Byddwch yn rhan o arddangosfa sioe radd diwedd blwyddyn - edrychwch ar e-gylchgrawn Sioe Radd 2022, Unjammed.
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
Yn eich cyflwyno i'r ystod eang o ddeunyddiau a thechnegau mewn Celfyddydau Cymhwysol, lle cewch y cyfle i weithio ar draws yr holl feysydd deunyddiau, gan arbrofi gyda gwydr, cerameg, metel a chyfryngau cymysg.
MODIWLAU
- Hanes a Chyd-destun
- Dyfodol Creadigol 1
- Cyfathrebu Gweledol
- Archwilio Deunyddiau
- Proses Crefft
- Deunydd ac Iaith
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
Ehangu'ch sgiliau creu yn eich prif ddewis deunyddiau, gan ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn am ddeunyddiau a sgiliau crefft sy'n eich galluogi i ddatblygu eich arddull creadigol eich hunan. Datblygir hefyd y prif sgiliau proffesiynol o ddeall marchnadoedd, cyhoeddusrwydd a phrisio trwy brosiectau ymarferol.
MODIWLAU
- Meddwl yn Feirniadol
- Dyfodol Creadigol: Gwneud Bywoliaeth
- Ymarfer Estynedig (Celfyddydau Cymhwysol)
- Ymarfer Celf
- Ymarfer mewn Cyd-destun
- Astudiaeth Arbenigol (Celfyddydau Cymhwysol)
BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)
Yn eich galluogi i wireddu'ch syniadau yn y cyfeiriad o'ch dewis, gyda myfyrwyr yn datblygu eu themâu unigol eu hunain i gynhyrchu casgliadau, gan ddangos sgiliau gwneud a datrysiadau dylunio arloesol o ansawdd uchel.
MODIWLAU
- Traethawd hir
- Dyfodol Creadigol: Ymarfer Proffesiynol
- Ymarfer Drafodedig
- Prosiect Gradd Celf Gymhwysol
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid
Gofynion mynediad a gwneud cais
Côd UCAS: W201
Y gofynion academaidd ar gyfer BA (Anrh) Celfyddydau Cymhwysol yw 80-112 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol.
Mae tîm y rhaglen Celfyddydau Cymhwysol yn croesawu ceisiadau gan unrhywun a all ddangos ymroddiad i'r pwnc a'r potensial i gwblhau eu rhaglen yn llwyddiannus. Gall hyn gael ei gadarnhau drwy ddangos cyflawniadau academaidd priodol neu drwy ddangos bod yr unigolyn yn meddu ar yr wybodaeth a'r gallu sy'n gyfateb i'r cymwysterau academaidd.
Caiff pob ymgeisydd naill ai ei gyfweld yn unigol neu ei wahodd i ddiwrnod ymgeiswyr lle cânt y cyfle i ddangos portffolio o'u gwaith, Mae'n bosibl y caiff profiad ei ystyried hefyd, yn enwedig yn achos yr ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod, yn dibynnu ar faint a dyfnder eu gwybodaeth pwnc.
Os byddwch chi wedi astudio mewn gwlad Ewropeaidd arall, edrychwch ar y Gofynion Mynediad ar gyfer eich cymhwyster.
Addysgu ac Asesu
Asesir yn bennaf trwy waith ymarferol a gwaith dylunio megis maquettes, llyfrau braslunio, samplau, a gwrthrychau gorffenedig. Cyflwynir y gwaith i diwtoriaid, a rhoddir adborth llafar ar unwaith, wedi’i ddilyn gan adborth ysgrifenedig mwy eang.
Fe’ch asesir ar gyfer pob modiwl. Defnyddir asesiadau ffurfiannol i fonitro cynnydd a gellir eu cynnal unrhyw adeg. Mae’r rhain yn cynnwys graddoli band, ynghyd â sylwadau arfarnol a thiwtorial atborth os yn briodol. Ni chwblheir y graddoli tan ddiwedd y flwyddyn, pan fydd gwaith yn cael ei adolygu a’i safoni gan arholwr allanol.
DYSGU AG ADDYSGU
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Yr oriau cyswllt yw 16 awr yr wythnos yn Lefel 4, 14 awr yr wythnos yn Lefel 5, a 12 awr yr wythnos yn Lefel 6. Mae cyfleusterau'r gweithdai ar agor ac wedi eu staffio 5 niwrnod yr wythnos ac mae gan fyfyrwyr fynediad parhaus.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae galw mawr o hyd am ddylunwyr a all ymateb yn greadigol i broblemau celf a dylunio cymhwysol.
Mae gan ein graddedigion yrfaoedd mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys addysg, gwaith adfer, amgueddfeydd a manwerthu. Mae cyfran uchel yn mynd ymlaen i weithio mewn neu sefydlu eu horielau eu hunain.
Mae'r radd hon yn eich dysgu i fod yn wneuthurwr dylunwyr medrus iawn, gan ddefnyddio sgiliau crefft traddodiadol i greu gwrthrychau i'w harddangos a'u gwerthu. Ochr yn ochr â'r sgiliau ymarferol y byddwch yn eu dysgu, bydd y cwrs yn datblygu eich dealltwriaeth o'r sgiliau busnes craidd sydd eu hangen fel gwneuthurwr proffesiynol, gyda chyfleoedd i ddangos eich gwaith mewn amrywiaeth o leoliadau a gwerthu i'r cyhoedd.
Mae gradd mewn Celf Gymhwysol yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i raddedigion yn y dyfodol. Mae swyddi'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Gwneuthurwr Annibynnol
- Perchennog Busnes Creadigol
- Gof Arian
- Gemydd
- Ceramegydd
- Gof
- Curadur Oriel
- Athro
Mae yna hefyd opsiynau ar gyfer astudio pellach gan gynnwys ein MA Ymarferydd Celf Broffesiynol, MA Ymarfer Celf Rhyngddisgyblaethol a chyrsiau TAR.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ffioedd dysgu Prifysgol Wrecsam 2023/24 ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.
Rhyngwladol
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.