Photography student

Manylion cwrs

Côd UCAS

W990

Blwyddyn mynediad

2023, 2024

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Cysylltiadau diwydiant cryf

gan gynnwys siaradwyr gwadd proffesiynol

Cyfleoedd

i astudio dramor neu gymryd rhan mewn prosiectau sydd â dimensiwn rhyngwladol

Arddangoswch eich gwaith

mewn sioe radd diwedd blwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

Datblygwyd ar gyfer myfyrwyr sydd ag angerdd am ffotograffiaeth annibynnol, ffilm, mae'r rhaglen aml-genre arloesol hon yn cyfuno ymarfer, theori a phroffesiynoldeb. Pun ai well gennych weithio gyda'r ddelwedd lonydd neu symudol, gallech archwilio ffilm a ffotograffiaeth yn greadigol a chydsyniol ar ein gradd sy'n ysbrydoli, herio a gwobrwyo.

Bydd myfyrwyr yn:

  • Darganfod ystod o sgiliau megis sut gall y lens gael ei ddefnyddio'n greadigol fel dull o ddweud stori, technegau camera arbrofol ac arbenigol, goleuo ar gyfer gwaith stiwdio a lleoliad, golygu ac ôl gynhyrchiad.
  • Cael eu hannog i ddatblygu dulliau unigryw i ddisgyblaethau ffotograffiaeth a ffilm.
  • Datblygu ac ymchwilio eu syniadau eu hunain mewn cysylltiad â briffiau prosiect gan ddysgu'r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i weithio fel gweithiwr proffesiynol dychmygol.
  • Cynhyrchu a gweithredu syniadau trwy waith ar leoliad a stiwdio.
  • Cael eu tywys wrth wneud cyflwyniadau ar gyfer orielau, dangosiadau, gwyliau, drama, dogfen, hysbysebu, cyfryngau cerddoriaeth a ffurfiau eraill o ddelweddau digidol ac effeithiau gweledol.
  • *Astudio cwrs sy'n rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 5ed yn y Nghymru am ansawdd addysgu yn nhablau cynghrair pwnc Dylunio a Chelfyddydau, The Times and The Sunday Times Good University Guide 2023.

 

Visual effects student working

Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Wrecsam

Darganfod mwy am astudio celf a dylunio ym Mhrifysgol Wrecsam gan ein myfyrwyr presennol

Prif nodweddion y cwrs

  • Mynediad at  stiwdio deledu eglurder uchel arloesol a stiwdio ffotograffig ar y safle.
  • Cyfleusterau ôl-gynhyrchu, gweithdai 3D, hyfforddiant yn y cyfryngau a golygu cyfrifiadurol gan ddefnyddio'r offer diweddaraf mewn technoleg HD a golygu aflinol.
  • Labordai cyfrifiadurol llawn offer gyda systemau PC wedi'u llwytho â dewis eang o feddalwedd sy'n gysylltiedig â diwydiant.
  • Byddwch yn rhan o'n gymuned fywiog o artistiaid a dylunwyr.
  • Byddwch yn rhan o arddangosfa sioe radd diwedd blwyddyn - edrychwch ar e-gylchgrawn Sioe Radd 2022, Unjammed.
  • Mae'r tîm addysgu yn ymarferwyr ymchwil-weithredol.
  • Cyfleoedd i astudio dramor neu gymryd rhan mewn prosiectau sydd â dimensiwn rhyngwladol.

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd blwyddyn gyntaf y rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio sylfaen eang o Ffotograffiaeth a Ffilm. Byddwch yn archwilio sut mae artistiaid yn prosesu syniadau trwy gyfuniad o wneud a gwerthuso beirniadol wrth ddysgu cysylltu'ch profiadau â phrofiadau ffotograffwyr a gwneuthurwyr ffilm eraill.

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

MODIWLAU

  • Hanes a Chyd-destun
  • Dyfodol Creadigol 1
  • Cyfathrebu Gweledol
  • Cyfryngau Creadigol yn Seiliedig ar Lensys
  • Themâu Cyfoes 
  • Amser ac Iaith

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5) 

Drwy fynychu i mewn i'ch ail flwyddyn mae'r modiwlau'n galluogi myfyrwyr i gydgrynhoi ac ymestyn eu profiadau dysgu. Trwy dechnegau a phrosesau mwy datblygedig, herir myfyrwyr i arbrofi gydag amrywiaeth o gyfryngau a dulliau cyfathrebu. Hefyd, gennych gyfle i archwilio meysydd ymarfer Ffotograffiaeth a Ffilm. Yn ogystal a datblygu yn bellach na eich darlithoedd, seminarau a gweithdai dan arweiniad ymarferwyr medrus yn y maes perthnasol. Gan adeiladu ar ymwybyddiaeth o'r posibiliadau o fewn y disgyblaethau cyfoes hyn, yna gallwch ddewis arbenigo yn un o'r meysydd ymarfer sefydledig neu fabwysiadu dull rhyngddisgyblaethol.

MODIWLAU

  • Meddwl yn Creadigol
  • Dyfodol Creadigol 2
  • Technegau Ôl-gynhyrchu
  • Cyfathrebiadau Gweledol rhwng Ddiwylliannau
  • Astudiaethau Arbenigol (Ffotograffiaeth a Ffilm)

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6) 

Mae modiwlau'r flwyddyn olaf yn gofyn am astudiaethau mwy beirniadol, dadansoddol a hirach. Mae'r rhaglen wedi'u negodi lle gall myfyrwyr bennu eu llwybr gyrfa eu hunain a chael cyfle i drafod cynllun blwyddyn sy'n eu rhoi â mwy o gyfrifoldeb dros ba brosiectau y maent yn ymgymryd â hwy. Mae hyn yn cael ei fonitro'n agos trwy feirniadaeth, seminarau a thiwtorialau rheolaidd.

MODIWLAU

  • Trawethawd Hir
  • Dyfodol Creadigol 3
  • Astudiaeth Drafodedig 
  • Prosiect Gradd Ffotograffiaeth a Ffilm

 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol.

Caiff dawn a phrofiad eu hystyried hefyd. Caiff cymwysterau Lefel UG a Sgiliau Allweddol Lefel 3 priodol eu hystyried hefyd. Rhoddir y gofynion mynediad hyn fel canllaw ac maen nhw'n adlewyrchu lefel gyffredinol yr ymgeiswyr y cynigir lle iddyn nhw. Caiff pob ymgeisydd eu cyfweld a gofynnir iddynt ddangos portffolio o'u gwaith

Addysgu ac Asesu

Er mwyn galluogi myfyrwyr i ddatblygu'n greadigol, rhoddir adborth ffurfiannol a chrynodol.

Mae asesiad ffurfiannol sy'n cynnig cyngor ar sut i wella'ch gwaith yn digwydd ar adegau allweddol cyn y Nadolig a chyn y Pasg. Mae hyn yn rhoi amser i fyfyrwyr fyfyrio ar eu cynnydd cyn asesiad terfynol neu grynodol.

Dyluniwyd yr asesiad i alluogi myfyrwyr i gymryd rhan wrth fesur eu cynnydd eu hunain. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno amryw o waith cwrs gan gynnwys cyfnodolyn / blog myfyriol ar-lein, llyfrau braslunio, taflenni dylunio, gweithiau celf gorffenedig, gwaith ar y sgrin, gosodiadau, ffeiliau technegol / cynhyrchu, traethodau a chyflwyniadau clyweledol.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Bydd eich gradd yn eich paratoi i weithio yn y diwydiannau dylunio, ffilm a ffotograffiaeth.

Mae gan Ffotograffiaeth a Ffilm, fel pob un o'n rhaglenni israddedig Celf a Dylunio, ethos galwedigaethol ac academaidd cryf sy'n ceisio sicrhau bod graddedigion yn ennill amryw o sgiliau galwedigaethol perthnasol. Mae'r ethos hwn yn sicrhau bod gan ein graddedigion bortffolio o alluoedd a phriodoleddau a fydd yn caniatáu iddynt ffynnu yn y gweithle yn yr 21ain Ganrif. Mae'n ystyried y ffaith bod anghenion y diwydiannau creadigol yn y dyfodol yn debygol o fod yn wahanol iawn. Ei nod felly yw paratoi ‘dysgwyr annibynnol’ sydd, ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, yn gallu ffynnu o fewn cyd-destunau proffesiynol cynyddol amrywiol.

Byddwch yn ennill profiad realistig ac ymarferol o weithio yn yr amgylchedd creadigol proffesiynol tra byddwch chi ar y rhaglen. Anogir myfyrwyr i gychwyn, trefnu a chymryd rhan mewn prosiectau oddi ar y safle a chymryd rhan mewn cyfleoedd proffesiynol. Fel enghraifft, gweithgareddau masnachol sydd â'r potensial i lansio eu gyrfa mewn Ffotograffiaeth neu Ffilm a'r ffiniau sy'n pontio'r ddwy ddisgyblaeth hyn.

Mae llawer o raddedigion Ffotograffiaeth a Ffilm yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd fel:

• Gwneuthurwyr ffilm annibynnol, cyfarwyddwyr, ffotograffwyr mewn cwmnïau mawr neu fach,
• Llawrydd neu sefydlu busnes.
• Ymarfer celf annibynnol
• Addysgu mewn addysg bellach neu uwch neu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd
• Oriel neu fathau eraill o waith arddangos, neu fel swyddogion addysg.
• Ymchwilwyr
• Technegwyr.

Mae cyfleoedd astudio pellach hefyd ar gael ar lefel MA neu TAR.

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.

Ffioedd dysgu Prifysgol Wrecsam 2022/23 ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn.

Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Rhyngwladol

Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.

I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.