MSc Peirianneg Deunyddiau Cyfansawdd

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2026
Hyd y cwrs
1 Fl (LlA) 2 Fl (RhA)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Mynediad
i’r Ganolfan ar gyfer Hyfforddiant a Datblygiad ym maes Uwchgyfansoddion (ACT&DC) gydag Airbus
Rhaglen wedi’i
hachredu gydag IMechE, IET ac RAeS
Addysgir
gan ddarlithwyr sydd â chefndir diwydiannol ac ymchwilio
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y rhaglen MSc Peirianneg Deunyddiau Cyfansawdd yn rhoi gwybodaeth am weithgynhyrchu a nodweddion deunyddiau cyfansawdd a dylunio peirianneg. Soniwyd llawer am y defnydd a wneir o ddeunyddiau cyfansawdd yn y diwydiant awyrofod gydag Airbus A350XWB a Boeing Dreamliner yn y prif newyddion.
- Byddwch yn dysgu cylch bywyd llawn cydrannau sydd wedi’u dylunio a’u gweithgynhyrchu â chyfansoddion. O’r egwyddorion cyntaf, byddwch yn dysgu elfennau gwahanol ddeunyddiau cyfansawdd ac yn deall y rhesymau dros ddewis pob deunydd. Oddi yno bydd methodolegau gweithgynhyrchu yn cael eu deall. Bydd dylunio drwy ddefnyddio cyfansoddion yn cael ei addysgu ar ôl dangos y gwahanol fathau o fecanweithiau methu. Yn olaf, bydd atgyweirio, ailgylchu a gwaredu deunyddiau cyfansawdd yn cael eu trafod yn fanwl.
- Mae Prifysgol Wrecsam yn rhannu Canolfan ar gyfer Hyfforddiant a Datblygiad ym maes Uwchgyfansoddion (ACT&DC) ag Airbus ar y safle ym Mrychdyn. Caiff y labordy arbenigol hwn sy’n llawn offer ei ddefnyddio trwy gydol y rhaglen MSc Peirianneg Deunyddiau Cyfansawdd.
- Mae’r darlithwyr yn dod o gefndiroedd diwydiannol ac ymchwilio ac fe gewch eich addysgu ganddynt drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, sesiynau labordy a dosbarthiadau cyfrifiadurol.
- Mae’r Brifysgol mewn lleoliad perffaith gan fod sawl gwneuthurwr cyfansoddion o fewn 30 milltir iddi, sef Solvay, Sigmatex ac Exel Composites.
- Yn ogystal, mae rhai cwmnïau peirianneg bychain a mawr gerllaw sy’n defnyddio deunyddiau cyfansawdd ar gyfer eu dyluniadau a’u cydrannau. Mae’r rhaglen wedi cael ei datblygu i alluogi myfyrwyr sydd â gwahanol gymwysterau israddedig (o gefndiroedd STEM) i astudio ar gyfer gradd meistr.
Prif nodweddion y cwrs
- Mae'r brifysgol yn rhannu Canolfan Datblygu a Hyfforddi Cyfansoddion Uwch, (ACTaDC) gydag Airbus ar safle Brychdyn, defnyddir labordy cyfansoddion arbenigol llawn-offer ar gyfer tiwtorialau labordy trwy gydol y rhaglen a hefyd ar gyfer prosiect traethawd hir y myfyriwr os bydd angen.
- Mynediad at y meddalwedd dylunio â chymorth cyfrifiadur, dadansoddi ac efelychu diweddaraf, gan gynnwys ANSYS, Abaqus, MATLAB a Simulink, ayb.
- Y cyfle i ychwanegu arbenigedd i'ch set sgiliau
- Mae'r brifysgol mewn safle perffaith gan fod nifer o weithgynhyrchwyr cyfansawdd o fewn 30 milltir iddi, sef Solvay, Sigmatex ac Excel. Yn ogystal, mae nifer o gwmnïau peirianegol bach a chanolig eu maint a chwmnïau peirianegol mawr sy'n defnyddio deunyddiau cyfansawdd yn eu dylunio a'u cydrannau.
Beth fyddwch chin ei astudio
MODIWLAU
- Dulliau Ymchwil Peirianneg ac Astudiaethau Ôl-radd
- Dylunio ac Arloesedd mewn Peirianneg
- Gweithgynhyrchu, Cydosod ac Atgyweirio Cyfansoddion
- Dylunio gyda Chyfansoddion – Theori ac Ymarfer
- Dadansoddi, Profi a Sicrhau Ansawdd Cyfansoddion
- Agweddau Amgylcheddol a Chynaliadwy Cyfansoddion
- Traethawd Hir
Gofynion mynediad a gwneud cais
Y gofynion mynediad arferol ar gyfer cael eich derbyn i astudio’n llawn amser neu’n rhan amser fydd un o’r canlynol:
- d) Gradd Anrhydedd Baglor mewn Peirianneg, neu Radd Baglor arall, fel arfer gydag o leiaf dosbarthiad 2:2 neu gyfwerth mewn disgyblaeth beirianneg briodol.
- e) Gellir derbyn ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r gofynion mynediad ond sydd â phrofiad proffesiynol sylweddol mewn maes arbenigol perthnasol, yn amodol ar gyfweliad a geirda.
- f) Cymwysterau cyfatebol o wlad dramor a ystyrir yn foddhaol gan dîm y rhaglen.
Fel arfer, bydd gofyn i ymgeiswyr sy’n gwneud cais trwy bwyntiau mynediad (b) ac (c) fynychu cyfweliad. Nid yw hyn bob amser yn bosibl, e.e., myfyrwyr tramor, ac os felly defnyddir y ffurflen gais ac argymhellion y tiwtor ‘cartref’ i benderfynu a ydynt yn addas; gellir defnyddio ffôn, y rhyngrwyd a fideo-gynadledda hefyd. Bydd lle ar y rhaglen yn cael ei gynnig yn seiliedig ar gymwysterau cefndir yr ymgeiswyr a, lle bo’n briodol, eu profiadau.
Meini prawf ansafonol i gael mynediad
Yn ôl y Rheoliadau ar gyfer ‘Graddau Meistr a Addysgir’ Prifysgol Wrecsam, mae’n bosibl i berson heb radd gael eu derbyn i ymgeisio, ar yr amod:
- c) Bod ganddynt gymhwyster nad yw’n radd y mae Prifysgol Wrecsam wedi barnu ei fod o safon foddhaol at ddiben derbyn i gwrs ôl-radd, a
- d) bod ganddynt swydd gyfrifol sy’n berthnasol i’r rhaglen, a’u bod wedi bod yn y swydd honno am o leiaf dwy flynedd o fewn y pum mlynedd diwethaf.
Waeth beth fo cymwysterau mynediad ymgeisydd, rhaid i’r myfyriwr ddangos tystiolaeth sy’n bodloni’r panel cyfweld o’u gallu i gwblhau gwaith academaidd i’r safon ofynnol i gwblhau’r cynllun astudio arfaethedig yn llwyddiannus.
Addysgu ac Asesu
Mae’r dulliau dysgu ac addysgu yn adlewyrchu disgrifyddion nodweddion gradd Meistr yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) yn y ffyrdd canlynol
- e) Defnyddir darlithoedd i rannu gwybodaeth allweddol a dangos ffyrdd newydd o weithio a fydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o egwyddorion eu maes astudio yn ogystal â chanfod ffyrdd newydd o weithio.
- f) Bydd astudiaethau achos, chwarae rôl, a gweithio mewn grŵp yn cael eu defnyddio i gynorthwyo wrth roi’r egwyddorion ar waith yn ehangach. Byddant hefyd yn cael eu defnyddio i ysgogi trafodaeth ac ymarfer sgiliau datrys problemau. Bydd hyn hefyd yn galluogi myfyrwyr i werthuso pa mor briodol yw gwahanol ddulliau o ddatrys problemau.
- g) Mae defnyddio portffolios yn ysgogi adfyfyrio ar y rhinweddau sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, a hynny’n gofyn am ysgwyddo cyfrifoldeb personol a gwneud penderfyniadau. Yn ogystal, maent yn galluogi myfyrwyr i nodi terfynau eu gwybodaeth a’u sgiliau a nodi strategaethau ar gyfer datblygu.
- h) Defnyddir asesiadau i hybu dysgu yn ogystal â rhoi syniad am gyflawniad y myfyriwr.
Mae cyfleoedd yn y rhaglen i gael adborth ffurfiannol, diagnostig a chrynodol. Defnyddir dulliau asesu sy’n adlewyrchu anghenion y grŵp myfyrwyr ac yn rhoi modd profi gwybodaeth a deilliannau dysgu’r rhaglen yn ogystal â galluogi datblygu ac asesu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy.
Pan wneir gwaith grŵp wedi’i asesu, bydd disgwyl i chi greu nodiadau am gyfarfodydd a llunio cynlluniau gweithredu, a thrwy’r rheiny ddangos eich bod wedi cyfrannu’n gyfartal at y dasg. Yr elfen hon o gyfraniad personol fydd yn pennu asesiad eich modiwl yn gyffredinol. h.y., ni ddylai pob myfyriwr o fewn grŵp ddisgwyl cael yr un marc.
Cewch eich asesu trwy gydol eich cwrs drwy amryw o ddulliau gan gynnwys portffolios, cyflwyniadau ac, ar gyfer rhai pynciau, arholiadau.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Mae'r dulliau addysgu'n cynnwys darlithoedd, sesiynau labordy, seminarau a arweinyr gan fyfyrwyr ac ymchil gan gyfarwyddyd.
Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig o bob modiwl, gan ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pwnc-benodol a'u sgiliau allweddol.
Mae dysgu annibynnol yn cael ei hyrwyddo drwy astudio dan arweiniad neu'r adborth a roddir i fyfyrwyr.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae'r cwrs yn eich cyfarparu â gwybodaeth drylwyr a sgiliau mewn peirianneg sydd ar flaen y gad pan ddaw i dechnolegau newydd a'r rhai sy'n dod i'r amlwg. Bydd gan raddedigion y fantais o ddod yn arbenigwyr yn y diwydiant neu i fynd ar drywydd gyrfaoedd ymchwil yn y byd academaidd.
Mae’r rhaglen MSc Peirianneg Deunyddiau Cyfansawdd yn ateb anghenion ystod o ddiwydiannau amrywiol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, wrth sicrhau darpar weithwyr o’r radd flaenaf iddynt yn y dyfodol. Mae’r rhaglen wedi’i llunio i roi cyfleoedd i chi ddangos eich arbenigedd technegol perthnasol, eich arloesedd, eich ymrwymiad a’ch crebwyll, gan felly gynhyrchu myfyrwyr sy’n weithwyr Peirianneg proffesiynol ac yn ased y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr y dyfodol. Mae cyn-fyfyrwyr naill ai mewn cyflogaeth amser llawn neu wrthi’n astudio am PhD.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.