Smartly dressed person making notes on a document

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

1 Fl (LlA) 3 Fl (RhA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Cynlluniwyd gan

academyddion ac arbenigwyr yn y diwydiant.

Asesiadau

arloesol sydd â ffocws ar y pwnc.

Gellir dewis

gwneud modiwl Ymarfer Uwch.

Pam dewis y cwrs hwn?

The MSc International HRM Management programme provides the foundations to achieve future management potential within the chosen business field to students who have little or no business work experience.

Mae strwythur y rhaglen yn rhoi’r cyfle i chi astudio meysydd pwnc trwy’r llwybr a ddewiswch, tra hefyd yn gwneud modiwlau craidd ar draws y rhaglen, gan roi amrywiaeth eang, cysylltiad rhwng pynciau a chyfoethogi eich astudiaethau, yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal ag yng nghymuned ehangach y myfyrwyr.

Mae’r rhaglen MSc yn cynnwys meysydd gwybodaeth penodol, sgiliau a nodweddion meddylfryd gwahanol a’r rhain oll yn cyfrannu at berfformio’n effeithiol ar lefel rheoli mewn sefydliad. Mae cynnwys y modiwlau, y dull o’u cyflwyno a’r asesu yn datblygu proffil unigol y dysgwr, gan arwain at fwy o hyder a gallu i farchnata eu hunain fel gweithiwr proffesiynol.

Codwch eich astudiaethau i lefel ôl-raddedig ac adeiladu gyrfa mewn rôl rheoli adnoddau dynol yn rhyngwladol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Dewch yn rhan o Ysgol Fusnes mewn prifysgol sy’n un o dair yn y Deyrnas Unedig a oedd ar restr fer ryngwladol Gwobrau Rhagoriaeth AMBA/BGA 2022 am y strategaeth arloesi orau ar gyfer dysgu gweithredol
  • Ymunwch ag Ysgol Fusnes sydd eisoes â chymuned ôl-raddedig ryngwladol sefydledig a llwyddiannus
  • Cewch gwrdd ag arweinwyr busnes blaenllaw yn eich dewis faes
  • Dewch i ddefnyddio ein Hystafell Efelychu Busnes newydd i ddod â phroblemau busnes go iawn yn fyw
  • Cewch ddewis gwneud modiwl ymarfer uwch – 480 awr+ o brofiad lleoliad gwaith – mewn lleoliad 12 wythnos
 
 
 

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae’r modiwlau a astudir ar y rhaglen MSc Rheoli Adnoddau Dynol Rhyngwladol yn eich annog i fynd ati’n weithredol i gymhwyso theori ac offer modelu i ddatblygu ac ehangu eich sgiliau arloesi, creadigrwydd, datrys problemau a’ch crebwyll. Byddwch yn datblygu’r sgiliau hyn er mwyn gwerthuso, asesu a rhesymu a gwneud penderfyniadau busnes ac ariannol y gellir eu cyfiawnhau mewn meysydd busnes ac adnoddau dynol allweddol, gan ganolbwyntio ar senarios byd go iawn, trafodaethau, dadleuon a heriau cymhleth.

Byddwch yn datblygu dyfnder gwybodaeth trwy ddadansoddi theori ar gyfer ymarfer, gan eich galluogi i adeiladu setiau sgiliau arbenigol y mae galw amdanynt. Byddwch yn gwneud hyn ar yr un pryd ag archwilio meysydd cyfredol a rhai’r dyfodol mewn rheoli adnoddau dynol yn rhyngwladol, gan gael yr wybodaeth a’r offer sydd eu hangen arnoch i wella eich rhagolygon a chael effaith broffesiynol ar eich gyrfa yn y dyfodol.

Modiwlau a addysgir

  • Strategaeth Gorfforaethol a Rheolaeth Ryngwladol (craidd): Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ffurfio a gweithredu strategaethau mewn amgylchedd busnes rhyngwladol, gan ystyried ffactorau busnes ac amgylcheddol mewnol ac allanol a heriau sy’n effeithio ac yn dylanwadu ar strategaethau ac arweinyddiaeth, a sut mae hyn yn trosi i reolaeth a gweithrediadau.
  • Cyllid a Chyfrifyddu ar gyfer Busnes (craidd): Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno gwybodaeth ynghylch llunio a dadansoddi datganiadau ariannol yn ogystal â hanfodion cyllid ac adrodd ariannol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Mae hefyd yn ystyried strwythur y marchnadoedd ariannol a’r amgylcheddau y maent yn gweithredu ynddynt.
  • Brandio Sefydliadau yn Rhyngwladol (craidd): Mae’r modiwl hwn yn eich galluogi i fynd ati’n strategol i ystyried brandio sefydliadau a strategaethau brandio sy’n dylanwadu ar enw da, y gweithlu, cynnyrch a’r rheolaeth ar amrywiol swyddogaethau sefydliad er mwyn sylweddoli gwerth brandio a rheoli brand yn y tirwedd busnes.

Modiwlau penodol i’r pwnc

  • Rheoli AD mewn Cyd-destun Rhyngwladol (llwybr pwnc craidd): Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddod i ddeall yn fanwl sut y caiff adnoddau dynol eu rheoli mewn cyd-destun rhyngwladol, ynghyd â dysgu am theori ac ymarfer rheoli AD yn rhyngwladol. Byddwch yn dysgu am brosesau AD rhyngwladol a’r heriau cysylltiedig o safbwynt byd-eang, yn ogystal â sut y bydd globaleiddio, datblygiadau technolegol ac economïau datblygol yn newid arferion AD wrth i amgylcheddau ddod yn fwy cymhleth.
  • Rheolaeth a Pherfformiad Pobl a Sefydliadau Byd-eang (llwybr pwnc craidd): Mae’r modiwl hwn yn mynd ati mewn manylder i astudio dimensiynau perfformiad sefydliadau trwy’r rheolaeth ar y bobl ynddynt mewn theori ac yn ymarferol. Byddwch yn dysgu sut y gall rheoli ar gyfer perfformiad effeithio ar gynhyrchiant a llwyddiant sefydliadol. Trwy gydol y modiwl bydd ffocws ar gymhwyso theori i ymarfer, a bydd dysgu yn cael ei gefnogi trwy enghreifftiau ac astudiaethau achos o amrywiaeth o gefndiroedd a senarios.

Modiwlau Opsiynol

  • Entrepreneuriaeth Ryngwladol (opsiwn): Cewch archwilio gwahanol brosesau a chysyniadau entrepreneuraidd, modelau damcaniaethol, a’r rôl y mae diwylliant yn ei chwarae o ran sut i ddechrau, datblygu a rheoli menter fyd-eang. Byddwch hefyd yn astudio’r ffactorau amgylcheddol sy’n effeithio ar entrepreneuriaeth ryngwladol, gan ganfod sut mae entrepreneuriaid yn gwneud dewisiadau ar lefel ddomestig a rhyngwladol, gan gynnwys ehangu’n rhyngwladol a’r amgylchedd ariannol byd-eang.
  • Globaleiddio a Materion Cyfoes mewn Busnes Rhyngwladol (opsiwn): Cewch ymchwilio ac archwilio tueddiadau mewn busnes rhyngwladol ac ystyried sut y maent yn cyfrannu at fwy o gyd-ddibyniaeth ymhlith economïau, marchnadoedd rhyngwladol newydd a datblygol, technolegau a datblygiadau gwleidyddol.
  • Egwyddorion ac Arferion Busnesau Rhyngwladol (opsiwn): Cyfle i archwilio arferion ac egwyddorion busnesau a sefydliadau rhyngwladol mewn cyd-destun byd-eang, gan annog datblygiad ac ymgysylltiad drwy ddealltwriaeth feirniadol o’r maes pwnc hwn o safbwynt rheolaeth. Byddwch yn mynd ati’n feirniadol i edrych ar arferion busnes cyfoes, a byddwch yn ymchwilio ac yn astudio effaith y rhain ar yr amgylchedd busnes ehangach trwy ddadansoddi yn seiliedig ar theori, yn ogystal ag edrych ar ba arferion ac egwyddorion busnes fydd yn llywio dyfodol economïau a chymdeithasau busnes yn fyd-eang.

 Modiwlau Traethawd Hir

  • Dulliau Ymchwil a Thraethawd Hir: Byddwch yn dysgu am natur a chynnwys methodolegau ac ymchwil academaidd sy’n cyd-fynd â fframweithiau ymchwil wrth gael eich cyflwyno i dechnegau dadansoddi, dulliau samplu a moeseg ymchwil, cyn cwblhau cynnig ymchwil ym maes pwnc eich rhaglen astudio. Byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil a llunio traethawd hir gan ddilyn y cwestiwn ymchwil a gynigiwyd gennych yn y modiwl Dulliau Ymchwil. Yn ystod y modiwl, byddwch yn: cynllunio eich dull ymchwil; sicrhau sêl bendith; casglu data; dadansoddi data; ac ysgrifennu eich ymchwil.

Lleoliad Ymarfer Uwch

Mae pob rhaglen MSc busnes yn cynnig modiwl ymarfer uwch ychwanegol sy’n rhoi’r cyfle i chi gael mwy o gredydau trwy wneud interniaeth 3 mis mewn cwmni. Mae hyn yn helpu i roi cyfleoedd gwych i chi o ran cyflogadwyedd yn y dyfodol a’r cyfle i ddefnyddio’r wybodaeth o’ch astudiaethau mewn prosiectau bywyd go iawn.

(Nid yw’r Brifysgol yn trefnu lleoliadau a’ch cyfrifoldeb chi yw hyn.)

 
 
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Fel arfer disgwylir i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd gyntaf dda (2:2 neu uwch mewn unrhyw bwnc), neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol. Derbynnir cymhwyster nad yw’n radd, os yw’r Brifysgol yn barnu ei fod o safon foddhaol at ddiben derbyn ôl-raddedig. Gall ymgeiswyr fod wedi graddio’n ddiweddar, wedi cael eu gradd anrhydedd, ac sy’n dymuno mynd yn eu blaenau i astudiaethau ôl-raddedig er mwyn gwella eu cyfleoedd gyrfa. Lle bo angen, neu fel rhan o bolisïau a phrosesau’r Brifysgol, gall ymgeiswyr fod yn destun meini prawf dethol ychwanegol.

Mae’r ffigurau hyn wedi’u bwriadu i fod yn ganllaw cyffredinol. Ystyrir pob cais yn unigol.

Amlinellir cymwysterau mynediad rhyngwladol ar wefan Canolfan Wybodaeth Cydnabyddiaeth Academaidd Cenedlaethol y DU (NARIC) gan ddangos yr hyn sy’n gyfatebol i gymhwyster mynediad o’r DU.

Yn ogystal â’r gofynion mynediad academaidd, rhaid i bob ymgeisydd nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt ddangos hyfedredd yn yr iaith Saesneg.

Mae myfyrwyr Ewropeaidd yn gallu darparu’r dystiolaeth hon mewn nifer o ffyrdd (gweler https://glyndwr.ac.uk/International-students/academic-entry-requirements/ i gael manylion), gan gynnwys IELTS.

Rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gael Prawf Iaith Saesneg Diogel a Gymeradwywyd gan UKVI (sef SELT) (gweler https://glyndwr.ac.uk/International-students/English-language-requirements/ i gael manylion).

 
 
 

Addysgu ac Asesu

Sut y byddwch yn dysgu

  • Dysgu cyfunol sy’n defnyddio’r Fframwaith Dysgu Gweithredol
  • Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol (Fframwaith Dysgu Gweithredol)
  • Sesiynau wedi’u haddysgu wyneb yn wyneb
  • Trafodaeth wedi’i hwyluso
  • Rhoi eich barn a chynnal dadl
  • Herio
  • Paratoi deunydd a chyflwyno testun i gyd-fyfyrwyr
  • Astudio annibynnol – darllen ac ymchwilio
  • Dehongli
  • Cwblhau asesiadau
  • Adborth i aseiniadau

Mae strategaeth dysgu ac addysgu’r rhaglenni yn seiliedig ar ddatblygu ac ennill gwybodaeth, ymddygiadau, sgiliau, a gwerthoedd newydd neu wedi’u haddasu, a’r rhain yn arwain at rymuso dysgwyr â’r hyder i gymryd rhan, yn feirniadol ac yn greadigol, wrth astudio eu maes pwnc. Cefnogir hyn drwy bynciau llosg busnes sy’n codi er mwyn i fyfyrwyr i gael profiad uniongyrchol o’r deunydd pwnc mewn modd sy’n perthyn yn agos i arferion busnes a rheolaeth.

Bydd yr addysgu yn digwydd drwy gymysgedd o ddulliau ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys darlithoedd, tiwtorialau, dadleuon grŵp, a dysgu drwy brofiad a fydd yn cael eu hintegreiddio a’u cefnogi drwy ddefnyddio datblygiadau technolegol i roi mwy o hyblygrwydd ac amrywiaeth, ynghyd â mynediad at ystod ehangach o adnoddau a deunyddiau sy’n cefnogi Fframwaith Dysgu Gweithredol y Brifysgol.

Oriau cyswllt y rhaglen fydd darlithoedd ffurfiol a thiwtorialau o tua 3 awr y modiwl bob wythnos.

Sut y cewch eich asesu

Byddwch yn cael eich asesu trwy amryw o ddulliau cyfoes megis traethodau, adroddiadau, cynlluniau strategaeth, portffolios, adfyfyrion, blogiau fideo, posteri, a chyflwyniadau sydd â’r nod o greu dysgwyr hyderus pan fyddant yn symud i’r gweithle.

Rhoddir cyngor, arweiniad ac adborth o asesu ffurfiannol a chrynodol a defnyddir hyn yn ffordd i ddatblygu ac ennill sgiliau dysgu a dod i ddeall arferion academaidd cadarn, gan ddefnyddio, lle bynnag y bo modd, yr amgylchedd dysgu rhithwir traws-raglen.

 
 
 

Rhagolygon gyrfaol

Meistr y Gwyddorau (MSc) neu Meistr y Gwyddorau (MSc) gydag Ymarfer Uwch

Ar gyfer yr holl lwybrau MSc Rhyngwladol, mae’r canlynol yn berthnasol mewn perthynas â dyfarniadau ymadael:

  • Mae’r Dystysgrif Ôl-radd mewn Rheolaeth yn ddyfarniad ymadael sydd ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau 60 credyd ar lefel 7 ac sy’n dewis peidio â pharhau â’r rhaglen.
  • Mae’r Diploma Ôl-radd yn ddyfarniad ymadael sydd ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau 60 credyd ar lefel 7 ond sy’n dewis peidio â pharhau â’r rhaglen: Diploma Ôl-radd Rheoli Adnoddau Dynol Rhyngwladol

Bydd myfyrwyr sydd â 120 credyd a 60 credyd o’u modiwl ymarfer uwch ond sy’n dewis peidio â pharhau â’r rhaglen yn gadael gyda’r dyfarniad canlynol:

  • Diploma Ôl-radd Rheoli Adnoddau Dynol Rhyngwladol gydag Ymarfer Uwch

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae'r cwrs yn eich cyfarparu â gwybodaeth drylwyr a sgiliau mewn peirianneg sydd ar flaen y gad pan ddaw i dechnolegau newydd a'r rhai sy'n dod i'r amlwg. Bydd gan raddedigion y fantais o ddod yn arbenigwyr yn y diwydiant neu i fynd ar drywydd gyrfaoedd ymchwil yn y byd academaidd.

 
 
 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

 
 
 

Rhyngwladol

Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.

I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.