
Cwynion Allanol
Gweithdrefn Cwynion Allanol
Mae Prifysgol Wrecsam yn croesawu adborth adeiladol ar ei gweithgareddau, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, ac mae bob amser yn ceisio gwella. Rydym yn deall, o bryd i'w gilydd, y gall pobl neu sefydliadau y tu allan i’r Brifysgol deimlo nad yw’r Brifysgol, ei staff neu ei myfyrwyr wedi bodloni eu disgwyliadau.
Bwriad y weithdrefn hon yw darparu dull o ymchwilio i gwynion allanol, delio â nhw ac ymateb iddynt yn effeithiol ac yn effeithlon, a datrys cwynion allanol yn anffurfiol lle bo’n bosibl. Mae hefyd yno i gynorthwyo’r Brifysgol i ddysgu o achosion o’r fath, pan fo’n briodol.