Graddio
Graddio
Mae'r digwyddiadau graddio presennol yn cynnwys seremoni ffurfiol lle mae graddedigion yn cerdded ar draws y llwyfan yn Neuadd William Aston i ysgwyd llaw â'r Is-Ganghellor. Dilynir hyn gan ddathliad ar ffurf gŵyl, gan ddarparu gofod awyr agored i raddedigion a'u teuluoedd ymlacio a chymysgu â'i gilydd. Mae yna adloniant byw, gemau awyr agored, ystod o wahanol gyfleoedd tynnu lluniau, dewis eang o stondinau bwyd, bar a llawer mwy i chi eu mwynhau!
Ailfyw'r uchafbwyntiau #WUGrad24 yma.
Nwynhewch yr holl luniau sy'n cofnodi'r eiliadau cofiadwy o bob tri diwrnod o seremonïau.
Cwestiynau cyffredin
Content Accordions
- Pryd fydd Graddio yn digwydd yn 2025?
Cynhelir seremonïau ym mis Ebrill 2025 ar gyfer y rhai sydd wedi derbyn canlyniadau ers ein Seremoni Graddio blaenorol ym mis Mai 2024. Byddwn yn cysylltu â'r rhai sy'n gymwys i fynychu'r seremoni hon yn uniongyrchol.
Byddwn hefyd yn cynnal ail Seremoni Raddio ym mis Hydref 2025 ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n cael canlyniadau hyd at Haf 2025.
- A fydd y cynlluniau hyn yn aros yr un fath ar gyfer Graddio wrth symud ymlaen?
O 2026, byddwn yn symud i amserlen flynyddol benodol sy'n cynnwys dau wsdsRaddiad, ond nid o reidrwydd yn yr un misoedd â'r rhai ar gyfer 2025. Bydd mwy o wybodaeth am hyn yn cael ei rhannu maes o law.
- Pryd fyddaf yn gallu cofrestru ar gyfer Graddio?
Cysylltir yn uniongyrchol â graddedigion cymwys pan fydd cofrestru ar agor.
Bydd y dasg gofrestru yn cael ei hanfon i'ch cyfeiriad e-bost personol ar gofnod a'ch cyfeiriad e-bost myfyriwr. Sicrhewch fod eich cyfeiriad e-bost a gofnodwyd yn gyfredol trwy gysylltu â studentadministration@wrexham.ac.uk.
- A fyddai’n rhaid i mi wneud cais am VISA newydd i fynychu fy seremoni Raddio?
Os ydych chi yn y DU o fewn amodau eich fisa presennol ar adeg y Graddio, yna nid oes angen unrhyw gamau pellach, gallwch fynychu graddio. Os ydych wedi dychwelyd adref ac nad oes gennych unrhyw hawl i fod yn y DU, bydd angen i chi wneud cais am fisa ymwelwyr i deithio i'r DU a mynychu graddio. I wneud hyn, mae angen i chi ddilyn canllawiau ar wefan UKVI.
Gallwn ddarparu llythyrau VISA unwaith y bydd y gwahoddiadau Graddio cychwynnol wedi'u hanfon at fyfyrwyr cymwys.
Unwaith y byddwch wedi derbyn eich gwahoddiad, gallwch gysylltu â'r Tîm Graddio i ofyn am eich llythyr VISA. Sylwch, ni allwn anfon llythyrau VISA nes bod myfyrwyr wedi derbyn eu gwahoddiad fel prawf o gymhwysedd.
- Sut ydw i'n gwybod a ydw i'n gymwys ar gyfer y naill Seremoni Raddio neu'r llall?
Pennir cymhwysedd gan y dyfarniad a dderbyniwyd a dyddiad rhoi'r dyfarniad, ar yr amod nad oes unrhyw faterion ariannol heb eu datrys ar gyfrif y myfyriwr.
- A allaf gael llythyr VISA ar gyfer fy nheulu neu ffrindiau?
Nid ydym yn darparu llythyrau gydag enwau aelodau'r teulu arnynt. Bydd hwn yn lythyr gwahoddiad i chi fel y Graddedig yn dangos y rheswm pam yr hoffech ddod i'r DU.
Gall eich teulu ddefnyddio hwn hefyd i ddangos pam eu bod yn dymuno ymweld â'r DU. Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais am fisas ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.
- Sut ydw i'n newid fy nghofnodion?
Sicrhewch fod eich enw, cyfeiriad a chyfeiriad e-bost yn gyfredol. I newid eich cofnodion, bydd angen i chi gysylltu â myfyriwr-weinyddol@wrecsam.ac.uk.
- Pryd fyddaf yn gwybod mwy am docynnau, gynau a ffotograffiaeth?
Nid yw gwybodaeth am docynnau, gynau a ffotograffiaeth ar gael eto a bydd yn cael ei rhannu gyda myfyrwyr maes o law.
Gwybodaeth Deithio
Cynhelir y seremoni yng Nghampws Plas Coch y Brifysgol yn Wrecsam yn Neuadd William Aston.
Prifysgol Glyndŵr, Campws Plas Coch, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW
Teithio mewn car – Bydd nifer gyfyngedig o lefydd parcio ar y safle yn ystod y Seremonïau Graddio ond bydd rhywfaint o lefydd parcio ar gael i’r rheiny sydd angen cymorth arbennig. Siaradwch gya stiward parcio ar ôl cyrraedd os oes angen cymorth arbennig arnoch.
Teithio ar drên – yr orsaf agosaf at gampws y Brifysgol yw Gorsaf Ganolog Wrecsam sydd oddeutu 5-10 munud ar droed o’r campws.
Gwestai – Mae gwestai gerllaw yn cynnwys:
- Gwesty Premier Inn Canol Tref Wrecsam
- Gwesty Ramada Wrecsam
Mae’r ddau westy yma yn ddim ond 5-10 munud ar droed o gampws y Brifysgol.
Rhowch Lyfrau Fel Rhodd!
Wrth i chi ddychwelyd i’r campws ar gyfer eich Seremoni Raddio hoffem hefyd groeaswu dychwelyd unrhyw lyfrau llyfrgell a allai fod gennych o hyd. Ni waeth pa mor hwyr ydynt, byddwn yn hapus i’w gweld yn cael eu dychwelyd. Bydd dirwyon yn cael eu hepgor ar lyfrau a ddychwelir a gellir eu gadael yn y mannau gollwng mewn gwahanol leoliadau neu eu rhoi i Farsial ar y diwrnod.
Tystysgrifau Graddio
Nodwch y caiff eich tystysgrif ei hanfon atoch trwy’r post yn y misoedd sy’n dilyn gan y bwrdd dyfarnu a gadarnhaodd eich dyfarniad.
Os oedd eich man astudio yn y DU, neu eich bod yn fyfyriwr PG Ar-lein, anfonir y dystysgrif at y cyfeiriad ‘cartref’ sydd gennym ar ein ffeil ar hyn o bryd.
Os oeddech wedi astudio yn un o’n sefydliadau partner y tu allan i’r DU, anfonir eich tystysgrif i swyddfa ganolog eich Prifysgol, a’ch Prifysgol fydd yn gyfrifol am drefniadau anfon/casglu eich tystysgrif. Ar ôl anfon tystysgrifau, gall gymryd hyd at fis i’w danfon trwy’r Post Brenhinol, ar gyfer myfyrwyr yn y DU, a hyd at ddau fis i’w danfon trwy wasanaethau cludo post rhyngwladol i fyfyrwyr y tu allan i’r DU.
Manylion cyswllt myfyrwyr
A wnewch chi sicrhau fod gennym y manylion cyswllt cywir ar eich cyfer fel myfyriwr, gan gynnwys cyfeiriad cartref, e-bost personol a rhif ffôn symudol. Gwiriwch eich manylion cyswllt yma.
- Mewngofnodwch i myuni.wrexham.ac.uk
- Dewiswch ‘Cofnod Myfyriwr’
- Mewgofnodwch i borth e:Vision gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair myfyriwr
- Dewiswch ‘gwybodaeth bersonol’ o’r bar llywio ar frig y dudalen, ac yna gallwch weld eich ‘Manylion Personol’ a’ch ‘Manylion Cyswllt’
- Fe welwch opsiwn i ddiweddaru eich manylion islaw pob adran
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau yn ymwneud â Graddio, danfonwch e-bost i: graduation@wrexham.ac.uk
Gwobrau i Fyfyrwyr
Pob blwyddyn mae Prifysgol Wrecsam yn cydnabod llwyddiannau ei myfyrwyr drwy gyfres o wobrau.
Mae gwobrau yn adlewyrchu gwaith eithriadol, o lefel gradd sylfaen i PhD, ar draws ystod lawn portffolio academaidd y brifysgol.
Mae gwerth ariannol i rai gwobrau, ac maent oll yn adlewyrchu ymrwymiad Prifysgol Wrecsam i adnabod gwaith caled a lefelau uchel o gyflawniad ymysg ein myfyrwyr.
Darganfod mwy am ein gwobrau myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr.