Ganed Aled yn 1961 ym Machynlleth yn fab i Lewis a Iola, ac mae ganddo ddwy chwaer Rhian a Gwenan. Fe’i magwyd yn Llandudno a’r Bermo, ble’r oedd ei dad yn bostfeistr. Wrth symud i Wrecsam yn 1971 fe’i addysgwyd yn Ysgol Bodhyfryd ac yna Ysgol Morgan Llwyd. Aeth ymlaen i Brifysgol Cymru Bangor i astudio’r Gymraeg a Saesneg, ac yn ddiweddarach Ddiwinyddiaeth yn Aberystwyth.

Cyhoeddwyd Tonnau, ei gasgliad cyntaf o gerddi, gan Barddas yn 1989, y cyntaf o saith cyfrol unigol yng nghyfnod Alan Llwyd. Hefyd casgliadau o straeon byrion, a thair cyfrol fwy swmpus o ryddiaith: “Rhwng dau lanw Medi”, “Y Caffi”, ac yn ddiweddar “Tre Terfyn”. Profodd llyfr yn ymwneud â mannau o heddwch yng Nghymru “Llwybrau Llonyddwch” yn boblogaidd hefyd.

Bu'n darlledu am ddegawd ar radio lleol Sain y Gororau. Yna'n athro Cymraeg, Saesneg a Chyfryngau yn Ysgol Morgan Llwyd, gan ddatblygu Astudiaethau Cyfryngau drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at lefel A.

Gwobrwywyd ef deirgwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1991 am ei Gyfrol o Gerddi i Bobl Ifanc, ym 1998 am Fonolog ac ym 1999 am Flodeugerdd o gerddi addas i'r oedran 12-14. Bu’n ysgrifennydd Cymdeithas Owain Cyfeiliog, ac yn arwain sawl grŵp trafod, darllen ac ysgrifennu yn Wrecsam, y Rhyl a’r Wyddgrug yn ystod cyfnod llawrydd.

Daeth yn Weinidog i Gapel y Groes ac Ebeneser, Wrecsam yn 2019 a Chapel Cymraeg Caer. Yn 2019 derbyniodd Wobr Oes o Gyfraniad i fyd cyhoeddi Cymraeg, a oedd yn fraint fawr. Gweithiodd hefyd ar ddramâu gwreiddiol ar gyfer Theatr y Stiwt Rhosllannerchrugog – yn eu plith “Teulu Trefeca” a “Mari’r Golau” a gwaith ar gyfer Cwmni Theatr yr Ifanc yn y Stiwt.