Bryn Williams
Cymrawd Anrhydeddus
.jpg)
Yn hanu o Ddinbych yng Ngogledd Cymru, datblygodd Bryn Williams werthfawrogiad cynnar am fwyd a’i darddiad. Mae ei yrfa wedi mynd ag ef i rai o geginau enwocaf Llundain, gan gynnwys swyddi dan Marco Pierre White yn The Criterion a Michel Roux yn Le Gavroche, cyn gweithio fel uwch gogydd sous yn The Orrery am bedair blynedd.
Daeth Bryn yn Gogydd a Pherchennog Odette yn Llundain yn 2008, gan arwain y bwyty nes iddo ei werthu yn 2024. Mae bellach yn bennaeth Porth Eirias, bwyty, caffi a bar ar lan y traeth ar arfordir Gogledd Cymru, sy’n cynnig lle bwyta modern, hamddenol gyda golygfeydd arfordirol godidog ac yn arddangos cynnyrch gorau Cymru, wedi'u caffael yn lleol lle bo'n bosibl.
Mae ei waith rhyngwladol yn cynnwys agor bwyty yn The Cambrian Hotel yn Alpau’r Swistir yn 2020, ac yna’r Touring Club yng Nghaerdydd yn 2023. Mae Porth Eirias a’r Touring Club wedi derbyn y Michelin Bib Gourmand.
Yn 2025, sefydlodd Bryn ei bumed bwyty yn yr eiconig Theatr Clwyd yng Ngogledd Cymru, gan barhau i hyrwyddo cynnyrch lleol a choginio modern wedi’u harwain gan gynhwysion.
Mae Bryn wedi cyhoeddi tri llyfr, gan rannu rhai o’i hoff ryseitiau, ac mae wedi ymddangos yn eang ar y teledu a’r radio, gan ennill cydnabyddiaeth gyntaf ar Great British Menu, BBC Two, ble enillodd y rownd ranbarthol ddwywaith a bu’n coginio yng ngwledd pen-blwydd y frenhines Elizabeth II yn 80 oed. Yn siaradwr Cymraeg rhugl, mae wedi ymddangos yn helaeth ar S4C. Hefyd cafodd Bryn ei anrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2013 yn Ninbych, ei dref enedigol, drwy gael ei ddewis yn aelod o Orsedd Derwyddon yr Eisteddfod.