Mae Huw Jones MBE wedi bod yn allweddol yn y broses o siapio Jones Bros Civil Engineering UK am hanner canrif, wedi treulio 40 mlynedd fel rheolwr gyfarwyddwr a’r degawd diwethaf fel cadeirydd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, chwaraeodd ran ganolog yn y broses o arwain twf a chyfeiriad y cwmni sy’n eiddo teuluol. Yn wir, mae gan Jones Bros drosiant blynyddol o £155 miliwn ac mae’n gweithredu un o’r fflydoedd peiriannau eiddo preifat mwyaf yn y DU.

Mae Huw hefyd wedi dangos ymrwymiad diwyro i ddatblygu talent ifanc drwy gynllun brentisiaeth y cwmni, sydd wedi ennill gwobrau ac wedi darparu tua 40 y cant o’i dîm cryf o 550.

Diolch i’w weledigaeth, mae Jones Bros wedi sefydlu enw da wrth gyflawni prosiectau isadeiledd sylweddol ar draws y DU gan gynnwys priffyrdd, gwarchodaeth forol ac atal llifogydd, ynni adnewyddadwy a rheoli gwastraff.

Mae hyn yn cynnwys datblygiadau mawr fel Havant Thicket Reservoir yn Hampshire - y gronfa stori dŵr gyntaf ar raddfa fawr yn y DU ers y 1980au.

Yn cael ei barchu ar draws y sector peirianneg sifil a chymuned fusnes ehangach Gogledd Cymru, mae Huw yn Gymrawd o Sefydliad y Peirianwyr Sifil ac mae’n gwasanaethu ar bwyllgorau CECA Cymru a CBI Cymru.

I gydnabod ei gyflawniadau, mae ef wedi derbyn nifer o freintiau, gan gynnwys MBE yn 2020.