decorative

Anerchiad i Hwb Amlddiwylliannol Gogledd-ddwyrain Cymru

Mae Hwb Amlddiwylliannol Gogledd-ddwyrain Cymru yn cael eu gwobrwyo gyda Chymrodoriaeth Anrhydeddus ar y cyd i gydnabod ymdrechion y sefydliad i ddathlu a chefnogi cymunedau bywiog, amrywiol gogledd-ddwyrain Cymru. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r hwb wedi rhoi llwyfan i ystod o ddigwyddiadau diwylliannol, sesiynau dysgu a chyfleoedd ymgysylltu sy’n ymestyn ar draws cenedlaethau a diwylliannau, gan arwain at ddealltwriaeth well o wahanol draddodiadau. Mae’r Hwb wedi cyfrannu at dwf sylweddol mewn balchder yn yr ardal, gan gryfhau cyd-ymrwymiad i'w dyfodol.

Mae’r Brifysgol yn falch o gydnabod gwaith yr Hwb Amlddiwylliannol i ddod â phobl o bob cefndir ynghyd drwy dreftadaeth a rennir a chyfnewid diwylliannol. Nid gwobr yn unig yw'r Gymrodoriaeth, mae’n ddilysiad i gyfraniadau hanfodol ein cymunedau amrywiol i gyfoeth gogledd-ddwyrain Cymru.

Mae’r gydnabyddiaeth arwyddocaol hon yn atgyfnerthu ein cred bod cymuned gref yn cael ei hadeiladu ar sylfaen o gyd-barch a dealltwriaeth. Mae dyfodol ei bartneriaeth â’r Brifysgol yn destun cyffro i’r Hwb ac mae’n edrych ymlaen at barhau â’r gwaith hwn o greu cymdeithas fwy cynhwysol a theg i bawb.