Joanna Knight OBE

Cymrawd Anrhydeddus

Joanna Knight OBE

Arweinydd busnes a hyrwyddwr cymunedol yw Joanna Knight OBE, ac mae ei gwaith wedi cael effaith barhaus ar Wrecsam a thu hwnt. Wedi ymrwymo’n llwyr i’r lle mae’n ei alw’n gartref, mae Joanna wastad wedi dangos sut y gall llwyddiant masnachol arwain at fudd sylweddol i’r gymuned. 

Mae ei gyrfa yn ynnwys uwch swyddi arwain ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, yn fwyaf nodedig fel Prif Swyddog Gweithredol Moneypenny. Yn ystod ei chyfnod, roedd yn cael ei hystyried yn allweddol i dwf anhygoel y cwmni, gan helpu i ehangu’r busnes wrth ddiogelu ei werthoedd a’i ddiwylliant pobl yn gyntaf. Dan ei harweinyddiaeth, daeth Moneypenny yn gwmni llwyddiannus oedd yn cael ei gydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan barhau â’i wreiddiau yn ddwfn yn Wrecsam ac yn cyfrannu’n sylweddol i’r economi leol. 

Ochr yn ochr â’i chyflawniadau busnes, mae Joanna yn parhau i chwarae rhan ddylanwadol wrth lywio dyfodol Wrecsam. Mae’n Gadeirydd cais Wrecsam ar gyfer Dinas Diwylliant y DU, gan arwain y bwrdd WCCT sy’n gyfrifol am ddatblygu cais nesaf y ddinas a hyrwyddo ei huchelgais ddiwylliannol ar lwyfan cenedlaethol. Hi hefyd a yrrodd y cais gwreiddiol ar gyfer Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint, ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd y bwrdd strategol - yn cefnogi ymdrechion i ddenu buddsoddiad, creu swyddi o ansawdd a chryfhau cyfleoedd economaidd hirdymor ar gyfer y rhanbarth. 

Yn adnabyddus am ei haelioni, mentora ac uniondeb, mae Joanna yn parhau i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Cafodd ei phenodi’n Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) mewn cydnabyddiaeth o’i chyfraniad eithriadol i fywyd cymunedol a busnes.