Hyfforddiant
Hyfforddiant Diogelwch Gwybodaeth
Mae'r cwrs Ymwybyddiaeth am Ddiogelwch Gwybodaeth yn rhoi trosolwg i'r holl staff ac ôl-raddedigion ymchwil o'r prif faterion sy'n ymwneud â dal a defnyddio data'n ddiogel.
am Ddiogelwch Gwybodaeth yn rhoi trosolwg i'r holl staff ac ôl-raddedigion ymchwil o'r prif faterion sy'n ymwneud â:
- Y rhesymau pam y mae angen inni ddiogelu gwybodaeth
- Diogelwch corfforol ac arferion da
- Cael a rhannu gwybodaeth
- Bygythiadau ac amddiffyniad
- Gweithio i ffwrdd oddi wrth eich desg
- Eich cyfrifoldebau
Mae Diogelwch Gwybodaeth ar gyfer Ymchwil Data yn fodiwl hyfforddi atodol ar gyfer ôl-raddedigion ymchwil a staff sy'n gweithio gyda data ymchwil. Mae'r hyfforddiant 15 munud yn cynnwys pynciau gan gynnwys:
- Prosesu data personol yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data
- Materion cytundebol ynghylch sut mae data ymchwil i gael ei brosesu a'i gadw, gan gynnwys ystyriaethau technegol
- Ystyried sut y byddwch yn casglu, prosesu a chadw data (gan gynnwys copïau wrth gefn)
Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth
Mae'r gweithdy hwn yn edrych ar oblygiadau ymarferol Diogelu Data (gan gynnwys y Rheoliadau Gwarchod Data Cyffredinol newydd sy'n dod i rym ym mis Mai 2018) a'r ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.
Yn ystod y gweithdy byddwn yn trafod prif egwyddorion y gyfraith ac yn eich annog i'w cymhwyso i'ch gwaith.Nod y gweithdy yw cynyddu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth a rhoi cyngor ymarferol ar sut i gydymffurfio. Mae'r cwrs yn weithdy rhagarweiniol sy'n esbonio elfennau allweddol y ddeddfwriaeth a'r goblygiadau allweddol ar gyfer eich gwait.
Ar ddiwedd y sesiwn hwn, bwriedir y byddwch wedi:
- Datblygu dealltwriaeth sylfaenol o'r ddeddfwriaeth berthnasol.
- Cynyddu eich ymwybyddiaeth o'r hawl mynediad at wybodaeth.
- Datblygu eich gwybodaeth ar ba reolau sy'n ymwneud ag ymdrin â gwybodaeth da.
- Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o rai technegau syml i helpu i reoli gwybodaeth.
Hyfforddiant Pwrpasol
Os oes angen penodol am sesiwn hyfforddi i'ch swyddfa neu adran, gellir trefnu hyn, cysylltwch â dpo@glyndwr.ac.uk neu ein hadran Adnoddau Dynol ali.bloomfield@glyndwr.ac.uk
i drafod eich anghenion.
Gellir trefnu sesiynau pwrpasol ar gyfer y Swyddfa Academaidd, staff Academaidd, Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig, yr Adran Gyllid, y Gwasanaethau Cofrestru a'r Adran Cyfatbrebu, Marchnata a Recriwtio a'r Swydfa Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. Mae cynnwys sesiynau hyfforddi yn cael ei newid ar gyfer pob sesiwn i sicrhau ei bod yn berthnasol i'r mynychwyr.
Rydym hefyd yn fodlon mynychu cyfarfodydd tîm/coleg/adran i drafod materion penodol a darparu canllawiau perthnasol.
Dyma'r meysydd y gallwn eu cynnwys:
- Diogelu Data a'r ddeddfwriaeth newydd a ddaw i rym ym mis Mai 2018, y Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR)
- Rhyddid Gwybodaeth
- Diogelwch Gwybodaeth (cysylltwch â TG ar gyfer diogelwch technegol)
- Preifatrwydd o'r cychwyn a sicrhau bod eich prosiect yn cydymffurfio'n gyfreithiol