Byddwch yn cael y cyfle i gynorthwyo eich myfyrwyr ffurfio llwybr gyrfaol cliriach ac osgoi'r anfanteision a gawsoch chi.

Byddwch yn rhan o dorri rhwystrau mynediad i fyfyrwyr sydd â llai o adnoddau drwy rannu'r profiad a gwybodaeth amhrisiadwy rydych wedi ei gasglu, ac felly'n ehangu'r mynediad i'r diwydiant cyfreithiol. Fel cyfreithiwr eich hun, byddwch yn cofio pa mor ddryslyd a brawychus y gall dysgu'r gyfraith a chamu i'r diwydiant cyfreithiol fod.

Mae hwn yn gyfle i gael effaith ystyrlon ar fywyd cyfreithiwr awyddus a rhoi rhywbeth yn ôl.

Beth yw Mentor

Bydd ein rôl yn ganolbwynt/cymorth i fyfyriwr y gyfraith ofyn unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynghylch maes y gyfraith. Mae mentora un i un yn ffordd wych i gynorthwyo myfyrwyr y gyfraith yn enwedig y rhai sy'n fyfyrwyr prifysgol cenhedlaeth gyntaf. Dylai mentoriaid fod yn amyneddgar, dibynadwy, cyfeillgar, parchus, ac yn deall anghenion eu myfyrwyr. 

Gellir disgrifio mentor cymwys i fyfyriwr y gyfraith fel un â'r rhinweddau canlynol:

  • Rhywun sy'n onest, ymrwymedig, dibynadwy a pharchus
  • Rhywun sy'n gallu ymrwymo i gyfarfod 30 munud gyda myfyriwr y gyfraith bob mis
  • Rhywun sydd â sgiliau cyfathrebu da ac sy'n hygyrch a chyfeillgar
  • Rhywun sy'n dda am osod nodau ac sydd â'r gallu i hyfforddi myfyriwr y gyfraith i'w cyflawni (hyd yn oed drwy gefnogi'n unig)
  • Rhywun sy'n fodel rôl
  • Rhywun sy'n dymuno rhoi rhywbeth yn ôl

Dod yn fentor

os ydych yn gyfreithiwr/twrnai/bargyfreithiwr/Barnwriaeth ac â diddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen fel Mentor, yna llenwch y ffurflen.