Mae'r Rhwydwaith Mentora Myfyrwyr y Gyfraith yn gobeithio cynorthwyo myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y gyfraith a darparu cyngor a chymorth iddynt. 

Gan ein bod yn gyfreithwyr ein hunain, rydym yn deall y pryderon a'r ansicrwydd sy'n wynebu myfyrwyr wrth lywio'r diwydiant cyfreithiol.

Felly, nod ein rhwydwaith yw:

  • Meithrin amgylchedd cefnogol a gonest i fyfyrwyr y gyfraith
  • Rhoi'r un cyfleoedd i fyfyrwyr sydd â llai o fynediad ac adnoddau drwy eu cynorthwyo i oresgyn y rhwystrau rhag mynd i'r proffesiwn cyfreithiol
  • Gwella'r profiad i fyfyrwyr sy'n astudio'r gyfraithRhannu ein profiadau ein hunain a bod wrth law i roi cymorth a chyngor cyfeillgar
  • Cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu synnwyr o hunaniaeth yn ystod eu gradd yn y gyfraith
  • Lleihau'r nifer o fyfyrwyr sydd ddim yn cwblhau eu cwrs
A hand reaches out to ring a service bell on a desk

I'r mentoriaid

Byddwch yn cael y cyfle i gynorthwyo eich myfyrwyr ffurfio llwybr gyrfaol cliriach ac osgoi'r anfanteision a gawsoch chi.

Cofrestrwch ar gyfer dod o hyd i fentor

Os ydych yn fentor y gyfraith â'r dyhead i ddod yn gyfreithiwr cymwys drwy ba bynnag ffordd (twrnai/bargyfreithiwr/CILEX) a bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r rhaglen fel ymgeisydd, llenwch y ffurflen ar-lein.

Beth sy'n digwydd yn y rhwydwaith?

  • Bydd y myfyriwr yn paru gyda chyfreithiwr cymwys sef y Mentor
  • Bydd y Mentor yn cysylltu â'r myfyriwr drwy e-bost i gyflwyno eu hunain yn y lle cyntaf 
  • Bob mis bydd trafodaeth hyd at 30 munud ynghylch unrhyw ymholiad/cwestiwn cyfreithiol neu'r cymorth sydd ei angen
  • Bydd cyfle i fyfyrwyr gael Mentor newydd bob 6 mis oni bai eich bod yn dymuno cadw'r un presennol gan mai penderfyniad y myfyriwr yw hyd y berthynas bydi hon