Chwaraewr Ifanc y Tymor Tîm Merched Clwb Pêl-droed Wrecsam i rannu ei thaith mewn digwyddiad 'mewn sgwrs' arbennig ym Mhrifysgol Wrecsam
Dyddiad: Dydd Mawrth, Tachwedd 12, 2024
Bydd aelodau o gynulleidfa sy'n siarad Cymraeg yn gallu clywed Chwaraewr Ifanc y Tymor Tîm Merched Clwb Pêl-droed Wrecsam yn rhannu ei thaith i lwyddiant oherwydd yr wythnos nesaf, bydd yn sgwrsio mewn digwyddiad arbennig wedi ei drefnu gan Brifysgol Wrecsam.
Bydd Lili Mai Jones yn cael ei chyfweld drwy gyfrwng y Gymraeg yn Theatr Nick Whitehead yn y Brifysgol ddydd Llun, Tachwedd 18 gan ddechrau am 6.30pm, wrth iddi drafod ei gyrfa mewn pêl-droed, beth sydd ar y gweill iddi yn y dyfodol - ar ac oddi ar y cae, yn ogystal â’r effaith wedi i’r actorion o Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney gymryd Clwb Pêl-droed Wrecsam drosodd.
Yn gynharach eleni, enwyd y chwaraewr canol cae Lili yn Bêl-droediwr Ifanc y Tymor Genero Adran yr Uwch Gynghrair yng Ngwobrau Gêm Genedlaethol Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC).
Roedd Lili, sy’n 18 oed ac yn enedigol o Wrecsam yn rym dylanwadol yn y gynghrair y tymor diwethaf, gyda thîm Merched Clwb Pêl-droed Wrecsam yn gorffen yn drydydd yn eu tymor cyntaf ar y lefel uchaf.
Mae hi hefyd yn wyneb adnabyddus oherwydd ei hymddangosiad ar y gyfres 'Croeso i Wrecsam' sydd wedi ennill gwobrau.
Cyn y digwyddiad, dywedodd Lili: "Rwy'n falch iawn o gael fy ngwahodd i rannu fy stori a'm profiadau gyda chynulleidfa yn Wrecsam.
"Mae'r tair blynedd diwethaf wedi bod yn gorwynt llwyr i'r clwb pêl-droed ac mae'n anhygoel bod yn rhan ohono ond mewn sawl ffordd mae'n teimlo'n hollol swreal.
"Mae hefyd yn teimlo'n eithaf rhyfedd y byddai gan unrhyw un ddiddordeb yn yr hyn sydd gen i i'w ddweud, heb sôn am gynulleidfa – yn fy marn i, dim ond rhywun sydd wedi bod yn wirion o lwcus gyda’r cyfleoedd rydw i wedi eu cael gan y clwb ydw i, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am hynny.
"Ar lefel bersonol, rydw i wedi cael fy nhrafferthion fy hun dros y blynyddoedd diwethaf, felly rydw â’r agwedd bod rhaid i chi fod yn onest am eich profiadau a'ch heriau oherwydd os yw'n golygu y gallwch helpu un person arall yn unig, yna mae'r cyfan yn werth chweil."
Dywedodd Lili ei bod yn "teimlo'n hynod falch" ei bod yn cael ei chyfweld yn Gymraeg ar gyfer y digwyddiad.
"Fel rhywun Cymraeg iaith gyntaf, mae'n wych cael fy ngwahodd i gael fy nghyfweld yn Gymraeg - rwy'n angerddol am ddathlu'r iaith a'n treftadaeth Gymreig. Mae'n amser hynod gyffrous i siarad a dysgu Cymraeg," meddai.
Dywedodd Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygu Cymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam, a fydd yn cyfweld Lili ar y noson: "Ein braint yw cael cynnal sgwrs gyda'r ysbrydoledig Lili Mai Jones - a'r hyn sy'n arbennig o gyffrous yw'r ffaith y bydd hi'n cael ei chyfweld yn Gymraeg.
"Dyma'r digwyddiad Cymraeg cyntaf o'i fath yn y Brifysgol ac mae'n gyfle gwych i ni ddathlu llwyddiannau Lili fel cyn-ddisgybl lleol, Cymraeg yn Ysgol Morgan Llwyd ac i ddenu ymwelwyr Cymraeg eu hiaith i'r Brifysgol, yn ogystal â sefydliadau fel yr Urdd, Menter Iaith Fflint a Wrecsam ac wrth gwrs, Clwb Pêl-droed Wrecsam."
Ychwanegodd Sara Hilton, Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddor Pêl-droed a Hyfforddi ym Mhrifysgol Wrecsam, a fu'n hyfforddi Lili yn flaenorol fel rhan o Lwybrau Datblygu Chwaraewyr Cymdeithas CBDC: "Rydym wrth ein bodd bod Lili wedi cytuno i fod yn rhan o'r digwyddiad arbennig hwn, yma yn y Brifysgol.
"Bydd siwrne a mewnwelediadau Lili'n taro tant yn arbennig gyda chwaraewyr, hyfforddwyr a phobl ifanc yn gyffredinol. Mae hi wedi cyflawni a goresgyn cymaint - a bydd yn rhoi trosolwg hynod ddiddorol ar sut mae hi wedi llwyddo i gyflawni cymaint hyd yma, gan gynnal gwytnwch a bydd hefyd yn ateb cwestiynau gan ddarpar chwaraewyr a hyfforddwyr."
Mae lleoedd ar gyfer y digwyddiad yn gyfyngedig. Archebwch eich lle ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yma.