Comisiynydd yn rhoi mewnwelediad i blismona yng Ngogledd Cymru i fyfyrwyr

Date: Dydd Mercher Hydref 25

Rhoddodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru gipolwg ar ei waith, yn ogystal â phlismona yn y rhanbarth, tra'n cyflwyno sgwrs â myfyrwyr Plismona ym Mhrifysgol Wrecsam. 

Clywodd myfyrwyr Plismona Proffesiynol ar draws y tri grŵp blwyddyn gradd ym Mhrifysgol Wrecsam/Wrecsam gan Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. 

Bu'n trafod y rôl a'i gyfrifoldebau fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, yn ogystal â Chynllun Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru. Rhoddodd hefyd gipolwg ar blismona yn yr ardal. 

Dywedodd Joshua Taylor, myfyriwr Plismona yn ei drydedd flwyddyn, fod sgwrs Mr Dunbobbin yn rhoi "persbectif gwahanol ond pwysig" ar blismona. 

"Roedd yn wych cael Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i siarad â ni. Fel arfer, mae gennym sgyrsiau gan y rhai sydd â chefndir plismona uniongyrchol, tra mai gwleidyddiaeth yw ei gefndir - felly roedd yn sicr yn rhoi persbectif gwahanol ond pwysig i ni," meddai. 

"Roedd yn ddiddorol clywed ei fewnwelediadau gan fod ei swyddfa'n darparu cyfeiriad strategol i'n heddlu lleol a'r Prif Gwnstabl. Roedd hefyd yn atgof da o'r holl asiantaethau amrywiol rydyn ni'n gweithio gyda nhw." 

Meddai Andy Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Plismona Proffesiynol: "Roedd yn wych croesawu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i'r brifysgol ac i'n myfyrwyr o'r tri grŵp blwyddyn gyfarfod ag ef, er mwyn deall pwysigrwydd ei rôl o fewn plismona yng Ngogledd Cymru. 

"Rhoddodd drosolwg rhagorol i sut mae ein cymuned yn cael ei chefnogi drwy amlinellu ei gyfrifoldebau. Bu hefyd yn trafod Cynllun yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gogledd Cymru, ac atebodd unrhyw gwestiynau a oedd gan ein myfyrwyr. Diolch yn fawr iawn i Andy am ei amser gyda ni." 

Mr Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn bleser siarad â myfyrwyr ym Mhrifysgol Wrecsam ar fy rôl fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu, fy nghynllun ar gyfer plismona yng Ngogledd Cymru, a sut y gallant fod yn rhan o fy ngwaith a gwaith Heddlu Gogledd Cymru, yn enwedig o ystyried bod nifer o'r myfyrwyr yn astudio am radd mewn Plismona Proffesiynol. 

"Mae'n bwysig ymgysylltu â phobl ifanc ynglŷn â phlismona, yn enwedig y rhai a allai fod â diddordeb mewn dod yn Swyddogion Heddlu yfory, i glywed eu barn am blismona ac i bwysleisio pwysigrwydd heddlu effeithiol a chynhwysol i holl bobl a chymunedau Gogledd Cymru.

"Rwy'n ddiolchgar i Brifysgol Wrecsam am fy ngwahodd i siarad ac i weld y cwrs a'r cyfleusterau trawiadol y maent yn eu cynnig yn y ddinas."