Cyfleoedd Cymraeg yn cael eu harddangos yn ystod ymweliad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Date: Dydd Mawrth Tachwedd 7

Cafodd y cyfleoedd di-ri i fyfyrwyr a staff Prifysgol Wrecsam/Prifysgol Wrecsam i siarad Cymraeg a bod yn rhan o addysg cyfrwng Cymraeg eu harddangos yn ystod ymweliad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Croesawodd y brifysgol Dr Aled Eirug, Cadeirydd; a Dr Dylan Phillips, Uwch Reolwr Academaidd, y ddau o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol - y sefydliad sy'n gweithio gyda phrifysgolion a cholegau i ddatblygu a hyrwyddo addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru. 

Roedd yr ymweliad, a gynhaliwyd yr wythnos hon, yn gyfle i'r sefydliad dynnu sylw at ei waith yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff ddefnyddio'r Gymraeg a dathlu eu diwylliant a'u treftadaeth, wrth astudio a gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam.

Yn ystod y dydd, ymwelodd Dr Eirug a Dr Phillips â gwahanol dimau ledled y brifysgol i gael dealltwriaeth o sut mae'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cynyddu, yn enwedig ers i Strategaeth a Chynllun Gweithredu Academaidd Cymraeg y sefydliad gael ei gymeradwyo tua diwedd y llynedd. 

Dechreuon nhw eu hymweliad drwy fynychu 'Coffi a Chlonc' – bore coffi misol a gynhelir ar y campws i alluogi staff i gwrdd ac ymarfer eu sgiliau Cymraeg mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar. 

Yn ddiweddarach yn y dydd, ymwelodd Dr Eirug a Dr Phillips â'r Ardal Arloesi Iechyd ac Addysg newydd (HEIQ) i siarad â myfyrwyr a staff Nyrsio ac Iechyd Perthynol am weithio rhyngbroffesiynol a'r defnydd o'r Gymraeg mewn lleoliadau gofal iechyd. 

Fe wnaethant hefyd gwrdd â myfyrwyr Therapi Iaith a Lleferydd i glywed am sut y daeth y cwrs gradd y cyntaf yn y brifysgol i gynnig opsiynau astudio dwyieithog o ddechrau'r flwyddyn academaidd hon, ar ôl i'r darlithydd Cymraeg ei hiaith, Ffion Roberts gael ei recriwtio i gyflwyno'r pwnc. 

Meddai Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygiad Academaidd Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Wrecsam/Prifysgol Wrecsam: "Roedd yn bleser pur croesawu Dr Aled Eirug a Dr Dylan Phillips o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i weld y cynnydd rhagorol rydym yn ei wneud mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chyfleoedd i fyfyrwyr a chydweithwyr. 

"Mae eu hymweliad yn dangos ein hymrwymiad fel prifysgol i weithio mewn partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

"Roedd Coffi a Chlonc yn ffordd wych o ddangos pa mor gefnogol yw'r brifysgol fel gweithle o ran annog a galluogi staff i ddysgu a siarad Cymraeg mewn amgylchedd cyfeillgar ac agored. 

"Tra, roedd hefyd yn fuddiol i Dr Eirug a Dr Phillips gyfarfod â myfyrwyr ar ein cyrsiau Nyrsio ac Iechyd Perthynol i glywed sut y gallant siarad eu hiaith gyntaf a sut maen nhw'n ymwybodol o fanteision siarad iaith gyntaf cleifion, tra'n derbyn gofal yn yr ysbyty a lleoliadau iechyd eraill. Diolch yn fawr iawn i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu hamser gyda ni." 

Meddai Rhodd Hughes, myfyriwr Ffisiotherapi ail flwyddyn: "Mae cymaint o waith gwych yn digwydd yn y brifysgol o ran y Gymraeg. 

"I mi, tra roeddwn i ar leoliad y llynedd yn Ysbyty Gwynedd, roedd mwyafrif y cleifion yn siaradwyr Cymraeg, felly gwelais i wir bwysigrwydd gallu cyfathrebu â chleifion yn eu mamiaith. Pan mae pobl yn mynd trwy gyfnod anodd, mae gallu sgwrsio yn yr iaith maen nhw fwyaf cyfforddus yn ei siarad yn gwneud gwahaniaeth go iawn." 

Ychwanegodd Dr Eirug: "Roedd yn wych ymweld â myfyrwyr a chydweithwyr ym Mhrifysgol Wrecsam/Prifysgol Wrecsam i glywed popeth am y cynnydd y maent yn ei wneud mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg a gweld manteision diriaethol hynny. 

"Yn benodol, roedd hi'n wych siarad gyda myfyrwyr Nyrsio ac Iechyd Perthynol  i ddeall sut mae'r ddarpariaeth hon o fudd iddyn nhw, a sut mae'r brifysgol yn ymateb i anghenion y bwrdd iechyd lleol - mae hynny'n hynod bwysig. 

"Roedd gweld y gwaith hwn ar waith yn Wrecsam yn wych ac yn ddefnyddiol i ni sicrhau ein bod ni yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cefnogi'r sefydliad i rymuso myfyrwyr i roi'r hyder iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg wrth hyfforddi, astudio a gweithio."