Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru yn sicrhau £803k er mwyn cryfhau llwybrau i ddysgwyr a sgiliau ar draws y rhanbarth

Dyddiad: Dydd Mercher, Chwefror 4, 2026

Mae Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru (NWTA) wedi sicrhau £803k o Gronfa Strategol Ôl-16 Medr i gyflawni menter fawr newydd er mwyn ehangu cyfranogiad, cryfhau dilyniant dysgwyr a mynd i'r afael â’r anghenion sgiliau â blaenoriaeth ar draws gogledd Cymru. Mae'r cyllid yn cefnogi dyheadau Llywodraeth Cymru am system addysg drydyddol fwy cydweithredol, sy’n rhoi’r dysgwr wrth wraidd iddi ac sy’n cyd-fynd â'r rhanbarth.
Mae’r prosiect, Llwybrau Llwyddiant, yn dwyn ynghyd Prifysgol Wrecsam, Prifysgol Bangor, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai i greu llwybrau cliriach, mwy cysylltiedig o addysg bellach i addysg uwch a chyflogaeth fedrus. Drwy weithredu cydlynol ar draws y sector trydyddol, bydd y fenter yn gwella mynediad at gyfleoedd ac yn cysylltu darpariaeth addysg a sgiliau yn well ag anghenion economaidd rhanbarthol.
Cynghrair ranbarthol gref ar gyfer gogledd Cymru
Sefydlwyd NWTA i ymateb i heriau hirsefydledig ar draws gogledd Cymru, yn cynnwys lefelau is o bobl yn mynd i addysg uwch, rhwystrau rhag dilyniant a’r angen am weithlu sy’n bodloni blaenoriaethau rhanbarthol. Drwy gydweithio yn hytrach na chystadlu, mae’r Gynghrair yn ail-lywio taith y dysgwr drwy newid y system wrth weithio mewn partneriaeth.
Mae'r prosiect hwn yn dangos effaith arweinyddiaeth ar y cyd ar draws AB ac AU, gan weithio ochr yn ochr â chyflogwyr, gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaid dinesig. Mae’n adlewyrchu gweledigaeth Medr am system drydyddol gydlynol drwy gyflawni gwaith allgymorth gydag ymgysylltiad gan y cyflogwr sy’n ysbrydoli dysgwyr, yn gwneud llwybrau dilyniant yn glir ac yn cefnogi twf mewn sectorau â blaenoriaeth, megis iechyd, peirianneg, gweithgynhyrchu uwch, adeiladwaith ac ynni gwyrdd.
Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni
Bydd Llwybrau Llwyddiant yn cyflawni rhaglen o weithgarwch allgymorth ac ymgysylltu arloesol a dwyieithog i ddysgwyr ar draws gogledd Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar gymunedau lle mae’r cyfraddau cyfranogiad ar eu hisaf.
Ymhlith y prif elfennau mae:
- Digwyddiadau yn seiliedig ar themâu i ddysgwyr gyda chyflogwyr, yn dangos y llwybrau gyrfa go iawn sydd i'w cael mewn sectorau â blaenoriaeth
- Diwrnodau agored cydweithredol rhanbarthol, yn dwyn ynghyd cyfleoedd AB ac AU mewn un cynnig cysylltiedig
- Gweithdai ymarferol, sesiynau efelychu a sgyrsiau wedi’u cyflwyno ar y cyd gan AB, AU a chyflogwyr er mwyn egluro llwybrau i gyflogaeth
- Cefnogaeth dargedig ar gyfer cymunedau dan anfantais, yn cynnwys trafnidiaeth wedi’i hariannu er mwyn chwalu rhwystrau o ran costau
- Darpariaeth ddwyieithog, yn cefnogi llwybrau iaith Gymraeg a dyheadau iaith cenedlaethol
Gyda’i gilydd, bydd y gweithgareddau hyn yn cynyddu cyfranogiad a dilyniant, yn cryfhau’r cysylltiad rhwng byd addysg a’r farchnad lafur, ac yn sefydlu model cynaliadwy, hirdymor ar gyfer allgymorth cydweithredol.
Cydweithredu dan arweiniad y sector
Dywedodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam a Chadeirydd Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru:
“Mae’r cyllid hwn yn arwydd clir o hyder yng ngalluoedd cydweithredu rhanbarthol. Drwy weithio gyda’n gilydd ar draws addysg bellach ac addysg uwch, ac ochr yn ochr â chyflogwyr, mae Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru yn creu llwybrau tecach, cliriach ar gyfer dysgwyr ac yn cefnogi’r sgiliau sydd eu hangen ar ein heconomi. Mae Llwybrau Llwyddiant yn gosod dysgwyr wrth wraidd popeth ac yn sicrhau nad yw cyfleoedd wedi’u cyfyngu gan gefndir neu ddaearyddiaeth.”
Ychwanegodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai ac Is-gadeirydd y Gynghrair:
“Pwrpas y prosiect hwn yw agor drysau a chodi dyheadau ar draws gogledd Cymru. Drwy gysylltu dysgwyr yn uniongyrchol â chyfleoedd gyrfa go iawn a dangos llwybrau clir at gyflogaeth, rydym yn cryfhau cymunedau, yn cefnogi cyflogwyr ac yn datblygu gweithlu rhanbarthol, gwydn.”
Meddai Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria:
“Mae’r arian hwn yn ein galluogi ni i chwalu rhwystrau a datblygu llwybrau clir, cysylltiedig sy’n helpu dysgwyr i bontio yn hyderus o fyd addysg i gyflogaeth fedrus. Drwy weithio fel partneriaeth ranbarthol go iawn, rydym yn rhoi dysgwyr wrth wraidd popeth ac yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion cyflogwyr.”
Dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor:
“Mae'r buddsoddiad hwn yn ein galluogi ni i wireddu uchelgais gyffredin yn gamau gweithredu ymarferol. Drwy weithio ar y cyd, gallwn ehangu cyfranogiad, cefnogi dilyniant i ennill sgiliau gwerthfawr a sicrhau bod dysgwyr ar draws gogledd Cymru yn ystyried addysg bellach ac addysg uwch fel cyfleoedd cysylltiedig, yn hytrach na phethau ar wahân.”
Model ar gyfer y dyfodol
Y tu hwnt i'w effaith uniongyrchol, bydd y prosiect yn sefydlu brand NWTA gyffredin, yn datblygu adnoddau digidol y mae modd eu hail-ddefnyddio a chynhyrchu dysg y gellir ei datblygu ar draws Cymru. Bydd partneriaid yn parhau i weithio’n agos â chyflogwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth addysg a sgiliau yn esblygu yn unol â blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol.
Creda Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru fod Llwybrau Llwyddiant yn cynrychioli cam sylweddol tuag at system drydyddol gydlynol sy’n cefnogi symudedd cymdeithasol, gwytnwch economaidd a ffyniant hirdymor ar gyfer gogledd Cymru.