Dathlu Rhagoriaeth: Dau Fyfyriwr yn Ennill Prif Wobrau gan CIOB ac ICE

Dyddiad: Dydd Mercher, Rhagfyr 10, 2025
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Wrecsam wedi derbyn cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB) a Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) Cymru am eu rhagoriaeth.
Derbyniodd Maya Waud, myfyrwraig Rheoli Adeiladu a raddiodd fis Hydref eleni gydag anrhydedd dosbarth cyntaf, y Dystysgrif Rhagoriaeth gan y CIOB am gael y sgôr gradd uchaf yng ngharfan 2025 ar y rhaglen achrededig CIOB.
Yn y gorffennol, bu Maya yn gweithio i gymdeithas dai. Cychwynnodd y radd yn cael ei hariannu gan ei gweithle ac yn astudio rhan amser. Mae bellach yn gweithio i Anwyl Homes fel Prynwr Tir, ac maent wedi parhau i ariannu ei gradd.
Pan ofynnwyd iddi am dderbyn y wobr, dywedodd: “Roeddwn mor falch pan glywais. Mae gallu astudio ar gyfer fy ngradd wrth weithio yn y diwydiant wedi bod mor werthfawr. Mae wedi fy ngalluogi i gymhwyso’r hyn yr wyf yn ei ddysgu yn y dosbarth i brosiectau go iawn a dod â mewnwelediadau ymarferol yn ôl i fy astudiaethau.”
Maya Waud (Chwith) yn derbyn ei gwobr gan yr Athro Anne Nortcliffe
Cyflwynwyd y wobr gan yr Athro Anne Nortcliffe, Deon Cyfadran y Celfyddydau, Cyfrifiaduron a Pheirianneg, a ddywedodd: “Mae cael cydnabyddiaeth i’n myfyrwyr Amgylchedd Adeiledig am eu galluoedd, p’un a ydynt yn astudio’n llawn amser, rhan amser neu brentisiaeth gradd, yn amlygu eu cryfderau a chryfderau ein tîm academaidd yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yng Ngogledd Cymru.
Dros y ddeng mlynedd nesaf, bydd buddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth yn Wylfa, Y Ganolfan AI a HyNet yn cael ei ategu gan brosiectau sifil ac adeiladu mawr. Mae’r myfyrwyr hyn yn cynrychioli’r doniau medrus ar gyfer y mentrau hyn a byddant yn chwarae rolau hanfodol yn eu llwyddiant.
Fel Athro Peirianneg, Technoleg a Dylunio Cynhwysol, rwy’n falch o weld ein myfyrwyr Amgylchedd Adeiledig a’n tîm academaidd yn cynyddu mewn amrywiaeth. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn darparu datrysiadau a seilweithiau cynhwysol er lles pob cymuned ar hyd a lled Gogledd Cymru.”
Roedd y cyflwyniad nesaf i Fyfyriwr Peirianneg Sifil Jack Whitehouse, sy’n astudio yn Wrecsam ar hyn o bryd, a fo enillodd Wobr Israddedig ICE Cymru .
Mae Jack yn astudio’r cwrs drwy’r rhaglen brentisiaeth gradd, yn ogystal â gweithio i MPH Construction, cwmni lleol wedi’i leoli yn yr Wyddgrug, Gogledd Cymru.
Dywedodd Jack Whitehouse: “Rwy’n falch iawn o dderbyn y wobr hon gan sefydliad mor uchel ei barch. Mae’n adlewyrchu’r gwaith heriol yr wyf wedi ei roi i fy astudiaethau a’r cymorth anhygoel a dderbyniais ac yn dal i’w dderbyn gan fy narlithwyr a fy nghyfoedion ym Mhrifysgol Wrecsam.”
Cyflwynwyd y wobr i Jack gan Stella Brookes, Peiriannydd Sifil Siartredig yn Binnies, Cadeirydd Cangen Gogledd Cymru o ICE Cymru ac Is-gaderirydd ICE Cymru. Mae’r Wobr Myfyriwr ICE yn dathlu myfyrwyr sy’n dangos perfformiad arbennig yn ystod eu cwrs gradd peirianneg sifil israddedig.
Chwith i’r Dde: Gareth Ellis: MPH Construction, Jack Whitehouse, Stella Brooks: ICE, Yr Athro Anne Nortcliffe.
Dywedodd Stella Brookes: “Mae ymrwymiad Jack i ragoriaeth a’i angerdd tuag at beirianneg sifil yn amlwg yn ei gyflawniadau. Rydym wrth ein bodd yn cydnabod ei ddawn ac yn edrych ymlaen at weld ei gyfraniadau i’r proffesiwn yn y dyfodol.”
Ymunodd Gareth Ellis o MPH Construction â Jack ar gyfer y seremoni gyflwyno a gynhaliwyd yn y Brifysgol. Ychwanegodd: “Rydym yn hynod falch o Jack a phopeth y mae wedi’i gyflawni. Mae ei ymroddiad i ddysgu a’i frwdfrydedd dros beirianneg sifil wedi bod yn amlwg drwy gydol ei amser gyda ni.
Mae’r wobr hon yn dyst o’i waith caled a’i ymrwymiad, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’n parhau i dyfu a chyfrannu i’r diwydiant.”
Roedd cydnabyddiaethau Maya a Jack yn ffurfio rhan o’r Gwobrau Corff Proffesiynol, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Wrecsam yn y CanfodAu sydd newydd agor: Canolfan Peirianneg ac Arloesi.
Mae’r gyfres o raglenni Amgylchedd Adeiledig ym Mhrifysgol Wrecsam wedi’u dylunio i ddarparu myfyrwyr â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i fynd i’r afael â heriau seilwaith y byd go iawn. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn amlygu ymrwymiad y brifysgol i gynhyrchu graddedigion sy’n barod am ddiwydiant, sy’n rhagori yn eu maes.
Am ragor o wybodaeth am gyrsiau amgylchedd adeiledig Prifysgol Wrecsam, ewch i raddau Amgylchedd Adeiledig - Prifysgol Wrecsam