Deon Cyswllt newydd ar gyfer Ymchwil wedi'i benodi ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
Dyddiad: Rhagfyr 2022
Hyrwyddo a hwyluso'r gwaith o gyflwyno ymchwil flaengar, sy'n cael effaith ystyrlon ar fywydau pobl yw'r prif ffocws ar gyfer athro blaenllaw sydd wedi ymuno â'r tîm arwain ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Mae'r Athro John Brewer wedi ymuno â'r brifysgol fel Deon Cyswllt dros dro ar gyfer Ymchwil yng Nghyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg (FAST).
Wrth gyhoeddi ei benodiad, meddai John: "Rwy'n falch iawn ac yn gyffrous wrth ymuno â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam ac yn edrych ymlaen at gefnogi myfyrwyr a chydweithwyr yn FAST a'u helpu i gyflawni eu huchelgeisiau ymchwil.
"Yn dilyn canlyniadau'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddar, mae hwn yn amser gwych i fod yn amlinellu ein huchelgeisiau a'n nodau ar gyfer y dyfodol, a sicrhau bod y brifysgol mewn lle gwych i ddarparu ymchwil flaengar sy'n cael effaith a newidiadau gwirioneddol i fywydau."
Fel rhan o'i rôl, bydd John yn cefnogi cyfleoedd ymchwil ar gyfer y Gyfadran, yn ogystal ag ar draws y brifysgol drwy sicrhau bod cydweithwyr a myfyrwyr ôl-raddedig yn cael y cyfle gorau i ddatblygu ymchwil yn eu maes.
Bydd hefyd yn canolbwyntio ar helpu'r brifysgol i weithio tuag at wneud cais am Bwerau Dyfarnu Gradd Ymchwil (RDAP), fydd yn caniatáu i'r brifysgol roi graddau ymchwil megis doethuriaethau.
Mae John yn dod â chyfoeth o brofiad ymchwil ac arweinyddiaeth gydag ef. Yn fwyaf diweddar, bu John yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Gorllewin yr Alban.
Wedi graddio mewn Gwyddor Chwaraeon ac wedi graddio ym Mhrifysgol Loughborough, rôl gyntaf John oedd Pennaeth Perfformiad Dynol y Gymdeithas Bêl-droed a oedd yn cynnwys rôl fel hyfforddwr ffitrwydd tîm Lloegr yng Nghwpan y Byd Italia 90.
Wedi hynny, roedd John yn berchen ar ac yn rheoli Anaf Chwaraeon Lilleshall a Pherfformiad Dynol yng Nghanolfan Chwaraeon Cenedlaethol Lilleshall yn Swydd Amwythig, gan weithio'n agos gyda nifer o sgwadiau cenedlaethol, yn ogystal â thimau elît ac athletwyr.
Yn dilyn hyn, gadawodd John Lilleshall i fod yn Gyfarwyddwr Gwyddor Chwaraeon i'r cwmni fferyllol rhyngwladol GlaxoSmithKline, gan gefnogi brand Lucozade Sport a chomisiynu ymchwil gan lawer o brifysgolion o bob cwr o'r byd.
Cyn hynny, mae John wedi gweithio ym Mhrifysgol Bedfordshire cyn ymuno â Phrifysgol St Mary's, Llundain fel Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymgysylltu Byd-eang, a rôl dros dro fel Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Newydd Bucks.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, John oedd Prif Weithredwr NCUK, elusen addysg sy'n darparu cymwysterau blwyddyn sylfaen i dros 3,000 o fyfyrwyr ledled y byd, i gefnogi eu dilyniant i'r brifysgol.
Meddai'r Athro Alec Shepley, Deon Y Gyfadran Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: "Rydym yn hynod falch o groesawu'r Athro John Brewer i'r brifysgol. Mae John yn dod â phrofiad ymchwil ac arweinyddiaeth sylweddol iddo, ac rwy'n gwybod y bydd yn ein helpu yn ein hymgyrch barhaus i wella ein cynnig ymchwil ac yn ei dro, profiad myfyrwyr a boddhad."