Disgyblion coleg swydd Amwythig yn cael rhagflas o’r diwydiannau creadigol yn ymweld â’r campws
.jpg)
Disgyblion coleg yn swydd Amwythig yn cael rhagflas o’r diwydiannau creadigol yn ymweld â’r campws.
Croesawyd grŵp o ddisgyblion Coleg Ellesmere i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam am ddiwrnod blasu cyfryngau creadigol.
Yn ystod y ddiwrnod, a gynhalwyd ar ddydd Llun, cafodd 10 disgybl o’r ysgol yn Sir Amwythig cyfle I brofi rywfaint o’r technoleg sydd ar gael i fyfyrwyr sydd yn astudio cyrsiau cyfryngau creadigol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam – ac i’w defnyddio i greu cynhyrchiadau eu hunain.
Rhoddwyd cyflwyniad i’r grŵp i fyd effeithiau digidol gan darlithiwr Steve Jarvis, a dangosodd iddyn nhw sut mae cynhyrchiadau ffilm a theledu’n cael eu trawsnewid gan dechnoleg.
Cawsant hefyd y cyfle i ddefnyddio ystafelloedd cynhyrchu teledu o safon y BBC yn Adeilad y Cyfryngau Creadigol o dan arweiniad y darlithydd Steffan Owens, a helpodd y disgyblion i ffilmio a golygu cyfweliadau gyda’u hathrawon i arddangos y defnydd o gamerâu’r cyfleuster, cynhyrchu desg a mwy.
Ychwanegodd Karen McGowan, Swyddog Recriwtio a Chydgysylltu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Mae myfyrwyr ar gyrsiau cyfryngau creadigol Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cael defnyddio peth o’r dechnoleg ddiweddaraf ar eu cyrsiau – gyda graddau newydd, fel ein BSc diweddar mewn effeithiau gweledol, yn cael eu hychwanegu drwy’r amser.
“Roedd yr ymweliad hwn yn gyfle i fyfyrwyr cyfryngau Ellesmere College gael blas ar rai o’r profiadau hynny eu hunain – ac i glywed mwy am rai o’r ffyrdd y mae ein myfyrwyr yn cael defnyddio eu hastudiaethau mewn gyrfaoedd ym myd ffilm, teledu a mwy.
“Roedd yn fore llawn o weithgareddau, a’r ymweliad cyntaf gan fyfyrwyr o Ellesmere College i’r brifysgol. Rydym yn gobeithio eu bod wedi cael diwrnod gwych, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r coleg dros y misoedd nesaf i helpu i ddatblygu diddordeb eu disgyblion mewn astudio tuag at yrfa yn y diwydiannau creadigol. “