Lansiad swyddogol mannau newydd o safon diwydiant gan Y Canghellor Colin Jackson

Date: Dydd Llun, Gorffennaf 1, 2024

Mae cyfleusterau newydd sbon sy'n arwain y diwydiant wedi cael eu lansio'n swyddogol ym Mhrifysgol Wrecsam, fel rhan o'i datblygiadau Campws 2025 parhaus.

Roedd y Canghellor, Colin Jackson CBE ar y campws yn Wrecsam yr wythnos hon fel rhan o nifer o ddigwyddiadau arddangos yr un diwrnod sy'n cael eu cynnal i ddadorchuddio llu o gyfleusterau a thechnoleg arloesol, gan gynnwys y Labordy Biomecaneg a Gwyddorau Perfformiad newydd, yr Academi Arloesi Seiber (CIA), a’r cam diweddaraf yn natblygiad Chwarter Arloesi Iechyd ac Addysg y Brifysgol (HEIQ).

Ymunodd partneriaid a phobl bwysig o bob rhan o'r rhanbarth â staff a myfyrwyr y brifysgol i ddathlu dadorchuddio'r cyfleusterau hyn sydd gyda’r gorau sydd ar gael.

Yn gyntaf, cafwyd agoriad ffurfiol a thaith o gwmpas cam diweddaraf y datblygiadau HEIQ, sy'n cynnwys nifer o fannau arbenigol gan gynnwys ystafell gyfweld blismona – mae'r ystafell aml-swyddogaethol hon yn cefnogi  myfyrwyr Plismona gydag astudiaeth sy’n seiliedig ar senario, yn ogystal â nifer o feysydd pwnc eraill. Mae gan yr ystafell 360 o gamerâu, sy'n ffilmio’r cyfweliadau efelychiadol rhwng myfyrwyr a throseddwyr posib, y gellir eu gwylio yn ôl i helpu i ddatblygu sgiliau ac arddulliau cyfweliad.

Mae hefyd yn cynnwys ystafelloedd cwnsela - crëwyd y mannau bach, cyfrinachol hyn i fodloni gofynion y rhaglen Gwnsela i ddarparu'r amgylchedd priodol i gynnal ymarferion sesiynau cwnsela. Gellir defnyddio'r mannau hyn hefyd gan nifer o feysydd eraill ar gyfer ystod o gyfleoedd dysgu efelychiadol, gan gynnwys sgyrsiau Gwaith Cymdeithasol, cyfarfodydd gyda thiwtoriaid personol a chyfarfodydd un i un â staff.

Y rhan nesaf o’r digwyddiad oedd dadorchuddio’r Labordy Biomecaneg a Gwyddorau Perfformiad newydd. Bydd y Labordy yn cefnogi myfyrwyr ar raglenni gradd Chwaraeon, Pêl-droed ac Adsefydlu yn dilyn Anaf y sefydliad, yn ogystal ag academyddion, ymchwilwyr a chlybiau chwaraeon i archwilio sut y gall ymarfer corff helpu i ddeall sut mae'r corff dynol yn gweithio, gyda'r nod o wella perfformiad a lleihau'r risg o anaf.

Mae yn y Labordy lu o dechnolegau arloesol, gan gynnwys melin draed Alter-G, Dynamomedr Iso-cinetig a System Recordio Symudiad Qualisys.

Bydd clybiau chwaraeon hefyd yn gallu elwa o gyfleusterau'r Labordy, yn ogystal ag arbenigedd aelodau o staff y brifysgol drwy  dîm arbenigol Canolfan Perfformiad Wrecsam, sy'n darparu cymorth mewn nifer o feysydd gan gynnwys datblygiad pellach o ran perfformiad, iechyd, ymarfer corff a maeth. Gall timau gael mynediad at gyllid drwy dîm Menter y Brifysgol i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

Dadorchuddiad olaf y dydd oedd y CIA. Wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad â Seiber Cymru, nod y CIA yw cryfhau ymhellach gyrsiau Seiberddiogelwch a Chyfrifiadureg y sefydliad, yn ogystal â darparu canolfan seiberddiogelwch arloesol ar gyfer y rhanbarth. Mae'r gofod hefyd yn cynnwys ystafell ddianc seiber, a fydd nid yn unig ar gael i fyfyrwyr ond hefyd i staff o'r lluoedd arfog, yr heddlu, y GIG ac awdurdodau lleol ar gyfer eu dysgu.

Wrth siarad yn y digwyddiad lansio, dywedodd Colin: "Mae'n bleser o’r mwyaf i mi agor yn swyddogol y cyfleusterau newydd hyn sydd o'r radd flaenaf ac sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i fyfyrwyr. Mae hefyd yn wych gweld y cynnydd cyflym rydym yn ei wneud mewn perthynas â'n datblygiadau Campws 2025.

"Mae'r mannau hyn yn efelychu lleoliadau proffesiynol yn y byd go iawn, sy'n golygu y bydd gan fyfyrwyr y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y proffesiynau y byddant yn eu dewis."

Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam: "Rwy'n hynod falch ein bod wedi dadorchuddio ein cyfleusterau newydd sbon o safon diwydiant i'n myfyrwyr, staff, partneriaid a rhanddeiliaid.

"Mae'r cynnydd rydym wedi'i wneud drwy ein uwchgynllun Campws 2025 wedi bod yn aruthrol ac mae'n braf clywed sut mae ein myfyrwyr eisoes yn elwa o'r lleoedd a'r offer newydd hyn.

"Rydym yn falch iawn o fod ar flaen y gad o ran profiadau dysgu a arweinir gan dechnoleg ac i fod yn hyfforddi gweithlu'r rhanbarth yn y dyfodol i fod yn arbenigwyr yn eu meysydd dewisol. Mae’r cyfan o’r cyfleusterau newydd â chymwysiadau y gellir eu defnyddio’n ymarferol yn y byd go iawn, sy'n golygu y bydd ein graddedigion mewn sefyllfa dda ar gyfer y byd gwaith unwaith y byddant wedi graddio."

Dywedodd Dr Simon Stewart, Deon Cyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Wrecsam: "Roeddem yn falch o lansio ac arddangos ein mannau mwyaf newydd yn swyddogol, yn ogystal â pheth o'r dechnoleg anhygoel a ymgorfforir fel rhan o'r datblygiadau hyn.

"Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn gwthio'r ffiniau yn barhaus i ddarparu addysg arloesol, sy'n cael ei gyrru gan dechnoleg, yn ogystal â darparu profiadau dysgu gwerthfawr, sy'n efelychu lleoliadau proffesiynol, er mwyn paratoi ein myfyrwyr i fod y genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus proffesiynol yn ein rhanbarth."

Ychwanegodd Matt Clark, Rheolwr Cymorth Cydweithredu Menter Prifysgol Wrecsam: "Roedd y digwyddiad lansio yn gyfle gwych i arddangos i'r mynychwyr y cyllid a'r mentrau sydd ar gael iddynt. Mae hyn yn cynnwys opsiynau fel ein Talebau Trosglwyddo Gwybodaeth a Phartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth a all sybsideiddio mynediad i'n cyfleusterau a'n harbenigedd academaidd sydd gyda’r gorau yn y byd, gan alluogi cydweithio i gefnogi anghenion busnes."

I gael rhagor o wybodaeth, gall timau chwaraeon gysylltu â'r tîm Menter drwy e-bostio: enterprise@wrexham.ac.uk