“Mae fy mhrofiad o fod mewn gofal yn fy helpu i ddeall effaith gweithwyr cymdeithasol” - myfyriwr Gwaith Cymdeithasol
Dyddiad: Dydd Llun, Gorffennaf 28, 2025
Mae myfyriwr Gwaith Cymdeithasol, sydd ond wythnosau i ffwrdd o ennill ei gradd, wedi trafod ei huchelgais i fod “y gweithiwr cymdeithasol sy’n newid safbwynt person ifanc o’r system ofal”.
Mae Alisha Carrington, sydd ar ei blwyddyn olaf yn astudio ei gradd israddedig Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Wrecsam ac sy’n ymadawr gofal, yn y broses o wneud cais am swyddi fel gweithiwr cymdeithasol ar hyn o bryd, ac mae hi’n dweud bod ei phrofiadau personol yn ei helpu i ddeall y gweithiwr proffesiynol yn ogystal â'r person ifanc.
Meddai: “Fel rhywun sydd wedi bod dan ofal gwasanaethau cymdeithasol yn rheolaidd ers imi fod yn 11 oed, mae gennyf ddealltwriaeth unigryw o’r ddwy ochr - rwyf wedi bod yn sefyllfa'r person ifanc mewn gofal ond rwyf hefyd wedi astudio a hyfforddi fel oedolyn i gyflawni fy nod personol o ddod yn weithiwr cymdeithasol.”
Dywedodd Alisha, 23, mai un o’i dyheadau yw newid barn pobl am y proffesiwn er gwell.
“Yn gyffredinol, mae dehongliadau a barn pobl o’r proffesiwn ar y teledu yn dueddol o ganolbwyntio ar y pethau negyddol, ond mewn gwirionedd, mae digonedd o weithwyr cymdeithasol anhygoel yn y byd, sy’n gweithio’n ddiflino bob dydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau’r rhai y maent yn eu cefnogi,” dywedodd.
“Fel rhywun sydd â phrofiad o fod mewn gofal, rwy’n gwybod fy hun fod hyn yn wir. Rwyf wedi cael gweithwyr cymdeithasol anhygoel drwy gydol fy mywyd, sydd wirioneddol wedi bod ar fy ochr i - o fy ngweithiwr cymdeithasol cyntaf, Kerry, a oedd yn wych yn ystod fy arddegau, ac yna Nicky yn ystod fy arddegau hwyrach i fy ngweithiwr cymdeithasol presennol, Adie. Mae pob un ohonynt wedi fy nghefnogi mewn ffyrdd arbennig a gwahanol.”
Mae Alisha yn annog mwy o bobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal i ystyried gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol.
Meddai: “Pan y gwnes gais i fynd i’r brifysgol yn gyntaf, roeddwn yn poeni y byddai fy nghefndir yn gweithio yn fy erbyn - ond nid felly yr oedd pethau o gwbl. Mae fy mhrofiad o fod mewn gofal wedi fy ngalluogi i fod hyd yn oed yn fwy parod am yrfa ym maes Gofal Cymdeithasol - gan ei fod wedi fy ngwneud i’n wydn, ond hefyd yn fwy empathig.
“Buaswn yn sicr yn annog unrhyw berson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal sy’n ystyried gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol, i fynd amdani.
“Bydd y sector yn elwa’n fawr iawn o’ch profiad - mae gennych bersbectif unigryw yn sgil i'ch taith eich hunan, ac fe gewch eich cefnogi’n eithriadol o dda yma ym Mhrifysgol Wrecsam. Rwy’n llawn gwerthfawrogiad i fy narlithwyr am eu cefnogaeth drwy gydol fy nhair blynedd o astudio.”
Ychwanegodd Nick Hoose, Uwch Ddarlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Wrecsam: “Mae pawb ohonom yn y Brifysgol yn eithriadol o falch o Alisha a phopeth mae hi wedi ei gyflawni wrth astudio gyda ni.
“Mi fydd hi’n weithiwr cymdeithasol ardderchog, oherwydd ei hempathi, ei gwydnwch a’i mewnwelediad - rhinweddau sy’n hanfodol mewn Gwaith Cymdeithasol. Mae hi wedi dangos ymrwymiad mawr i’w hastudiaethau, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd hi’n mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth ystyrlon a pharhaol i fywydau pobl ifanc a theuluoedd.
“Rwyf innau hefyd yn ategu barn Alisha am yr angen i fwy o bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ystyried gyrfa mewn Gwaith Cymdeithasol - rwy’n credu’n gryf iawn y gall y rheiny sydd â’u profiad eu hunain o'r system ofal gynnig mewnwelediadau amhrisiadwy. Yn aml, mae'r myfyrwyr hynny’n meddu ar allu cryf i greu cysylltiadau â defnyddwyr y gwasanaethau, ar ôl cael eu profiadau eu hunain o’r systemau.”
Mae gradd Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Wrecsam wedi dod i’r brig yng Nghymru ac yn ail yn y DU am foddhad myfyrwyr yn y tabl cynghrair meysydd pwnc ar gyfer maes pwnc Gwaith Cymdeithasol yn y Complete University Guide 2026.
- Mae amser o hyd i wneud cais i ddechrau gradd Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Wrecsam ym mis Medi 2025, gallwch ddysgu mwy am y rhaglen yma.