Mannau dysgu newydd ar gyfer cyrsiau Addysg yn PGW i'w dadorchuddio mewn digwyddiad arbennig
Bydd mannau dysgu newydd sbon ar gyfer cyrsiau Addysg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) yn cael eu dadorchuddio mewn digwyddiad arddangos sy'n cael ei gynnaf wythnos nesaf.
Mae'r cyfleusterau newydd, sy'n cynnwys dwy ystafell ddosbarth safonol broffesiynol a gardd wyddoniaeth sydd â'r nod o wella profiadau dysgwyr a staff ymhellach, wedi'u cwblhau yn ystod yr wythnosau diwethaf i wella darpariaeth Addysg y sefydliad ymhellach.
Meddai Karen Rhys Jones, Prif Ddarlithydd Addysg ac Arweinydd Addysg Gychwynnol i Athrawon yn WGU, y byddai'r cyfleusterau newydd yn "gwella profiad myfyrwyr ac ansawdd dysgu ymhellach" ar ystod o raglenni Addysg y brifysgol.
Meddai: "Rydym wrth ein bodd gyda'n cyfleusterau newydd. Mae'r ystafelloedd dosbarth wedi'u modelu ar ystafelloedd dosbarth addysg gynradd, sydd â'r adnoddau i ddarparu'r brofiad ystafell ddosbarth dilys gyda'r cyfle i weld y broses ddysgu yn cael ei modelu.
"Mae ein gardd wyddoniaeth yn ofod dysgu awyr agored gwych, a fydd yn ein galluogi i adeiladu ymhellach ar ein cynnig. Mae'n ein galluogi i arwain a chysylltu'n ddi-dor sesiynau - er enghraifft, yn gysylltiedig â chynaliadwyedd a'r dyniaethau, yn ogystal â chyfrannu'n gadarnhaol at iechyd a lles
"Mae ein myfyrwyr, sydd wedi dechrau defnyddio'r lleoedd newydd, wrth eu boddau gyda nhw ac yn bendant yn teimlo eu bod wedi gwella eu profiad dysgu yn PGW."
Ddydd Llun 3 Gorffennaf, mae tîm Addysg PGW yn gwahodd partneriaid lleol i ddod i weld y mannau addysgu newydd drostynt eu hunain.
Daw wrth i'r brifysgol hefyd ddechrau cynnig ei TAR mewn Addysg Gynradd fel llwybr rhan-amser.
Meddai Karen: "Bydd unrhyw un sydd wedi astudio ar gyfer TAR yn llawn amser yn tystio i'r ffaith ei bod yn flwyddyn hynod o gyflym a heriol. Felly, teimlwn fod ein TAR rhan-amser newydd mewn Addysg Gynradd yn ddatblygiad hynod gyffrous.
"Mae'n gynnig unigryw yn yr ardal leol ac yn rhoi hyblygrwydd i gydbwyso'r daith i ddod yn athro gyda gofynion gyrfa a bywyd cartref.
"Mae'n golygu y bydd y rhai a allai fod â chyfrifoldebau eraill - boed yn magu teulu, gofalu neu hyd yn oed yn gweithio, yn gallu cynnal y rheiny, ochr yn ochr â'u hastudiaethau.
"Er bod y rhaglen yn rhoi cyfle i astudio'r un modiwlau â'r rhaglen amser llawn, mae'r llwybr rhan-amser wedi'i gynllunio ar gyflymder mwy hylaw. Mae myfyrwyr yn cwblhau eu cymhwyster mewn 15 mis, sy'n dal i fod yn gyfnod cymharol fyr, ond mae'n bosibl y bydd yn rhoi'r hyblygrwydd i fyfyrwyr gydbwyso eu taith i ddod yn athro gyda gofynion gyrfa a chartref."