Myfyriwr Glyndŵr yn canfod cariad am theatr gymhwysol
Mae actor wedi canfod pasiwn am theatr gymhwysol ar ôl ailgynnau ei gariad am y celfyddydau perfformio yn dilyn ymweliad i ddiwrnod agored ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Mae Kenneth John Griffiths, 31, o Blas Madoc, wedi portreadu popeth o feiciwr modur gydag anaf ymennydd i ddeliwr cyffuriau llofruddiog yn ystod ei hastudiaethau - ac wedi canfod mwynhad o theatr gymhwysol, yn aml yn chwarae rhannau i helpu gweithwyr proffesiynol delio gyda senarios y byddant yn gwynebu yn y dyfodol.
Ymysg y prosiectau mae Kenneth wedi cymryd rhan ynddynt yn cynnwys ysgol haf i ddatblygwyr meddalwedd ‘e-iechyd’ sesiwn hyfforddi meddygon Gogledd Cymru, a digwyddiad sîn troseddol a ddyfeisiwyd gan ddarlithwyr Glyndŵr fel ffordd o brofi’r sgiliau myfyrwyr plismona a gwyddoniaeth fforenisg.
Paratôdd Kenneth am bob rhan trwy gwrdd â’r trefnwyr ymlaen llaw i gael gwybodaeth am ei gymeriad a’u disgwyliadau i’r digwyddiad.
Meddai Kenneth: “Yr ysgol haf oedd fy mhrofiad theatr gymhwysol gyntaf, ac mi wnes i feddwl yn galed am beth roeddwn i’n gwneud ymlaen llaw er mwyn cael … ohoni.
“Roeddwn i’n actio rhan rhywun gydag anaf ymennydd - dywedodd y brîff bod fy nghymeriad wedi’i hanafu mewn damwain beic modur, ac yn profi effeithiau’r ddamwain. Wnes i feddwl am hynna a sylweddoli gymaint y byddai bod yn analluog yn effeithio ar rywun fel yna.”
Rhoddodd profiad meddygol arall cyfle i Kenneth rhyngweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol wrth weithio gyda grŵp o fyfyrwyr i fod yn ‘efelychwyr claf’ i fod yn rhan o raglen hyfforddi Meddygon Teulu Arbenigol.
Meddai: “Roedd gan un o’n cymeriadau broblemau anadlu roedd yn rhad i’r staff meddygol eu harchwilio.
“Yn yr efelychiad, ges i sgan ac roedd gan fy nghymeriad cancr yr ysgyfaint - roedd gosod fy hun mewn sefyllfa fel yna’n anodd iawn ac yn anghyfforddus, ond mae wir yn helpu’r meddygon fydd yn rhaid rhoi newyddion fel yna yn ystod eu cyrfaoedd.
“Roedd un ohonyn nhw yn benodol yn gwybod yn union beth i’w gwneud a dweud i wneud i mi, fel ei glaf, teimlo’n well - roedd yn ddiddorol go iawn.”
Roedd rhan theatr gymhwysol nesaf Kenneth yn hollol wahanol.
Gan weithio gyda chyn-swyddogion Heddlu Gogledd Cymru sydd bellach yn ddarlithwyr Plismona yn Glyndŵr, wnaeth Kenneth a’i gyd-actorion ail-greu ymosodiad - a chafodd ei weld gan gyd-fyfyrwyr yn ystod diwrnod sîn troseddol.
“Pan gawsom ni wybod am hynna a beth roedd yn mynd i ddigwydd, roedd yn deimlad cyffrous iawn - dyma rywbeth newydd a gwahanol; y cyntaf o’i fath,” ychwanegodd Kenneth.
“O’r foment dywedodd ein darlithydd Andrew Crawford am y cymeriadau, roeddwn i eisiau chwarae’r un a ddrwgdybir - roedd yn teimlo fel y rôl iawn i fi. A dweud y gwir, dim ond ychydig o weithiau aethom ni drwy’r scenario.
“Yn amlwg, roedd yn rhaid cynllunio scenario er mwyn ei ffilmio, ond i gael y dilysrwydd roeddem yn chwilio amdani fel actorion, roedd yn rhaid addasu byrfyfyr wrth fynd ymlaen hefyd.
“Rhoddodd Andrew leoliadau amrywiol o gwmpas y campws i adael eitemau neu greu twrw yn ystod y digwyddiad. Casglwyd hyn fel ‘tystiolaeth’ nes ymlaen.
Wrth i’r scenario mynd yn ei flaen, daeth y digwyddiad yn ymholiad llofruddiaeth - gyda Kenneth yn cuddio yn nhŷ safle trosedd y brifysgol, a gafodd ei baratoi gan ddarlithwyr Gwyddor Fforensig o flaen llaw.
Perswadiwyd Kenneth I ddod allan o’r tŷ cyn iddo gael ei ‘harestio’ gan fyfyrwyr - gan aros mewn cymeriad trwy gydol y digwyddiad.
Ychwanegodd: “Dywedodd Andrew Crawford wrtha i pe byddai’r sefyllfa’n un go iawn, mi fuasai wedi meddwl am ddefnyddio taser arna i achos roeddwn i mor ddychrynllyd!”
Mae pob profiad wedi cryfhau cariad Kenneth tuag at theatr gymhwysol - maes nad oedd yn gwybod ei fod ar gael i actorion cyn dod i Glyndŵr.
“Wnes i orffen coleg yn 2008 ar ôl gwneud cwrs celfyddydau perfformio tair blynedd. Ar y pryd roeddwn i’n cynllunio astudio yn RADA yn Llundain, ond wnes i sylweddoli y byddai fyw yn Llundain yn ddrud iawn. Yn y diwedd, mi es i o swydd i swydd am naw mlynedd,” meddai Ken.
“Yn y diwedd, wnes i raglen gwaith ynn Awst 2017, a dywedodd y dyn oedd yn arwain y cwrs fod yn rhaid i mi ganfod swydd neu fynd i astudio. Edrychodd ar fy CV a dywedodd ‘Dw i’n gweld eich bod chi wedi astudio’r celfyddydau perfformio, ydych chi erioed wedi meddwl am astudio’r pwnc ym mhrifysgol?
“Wnes i ddod i ddiwrnod agored yn Glyndŵr a wnes i siarad gydag un o’r darlithwyr ar y cwrs am astudio yma. Y peth pwysicaf i mi oedd bod ‘na gymaint mwy i’w gwneud na dim ond action ar y llwyfan - fel mae fy mhrofiadau’n dangos!”
Meddai Elan Mai Nefydd, Arweinydd Rhaglen Teledu, Theatr a Pherfformiad: “Rydym yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i’n myfyrwyr defnyddio eu sgiliau perfformio - nid dim ond trwy action theatr a theledu, ond hefyd trwy dechnegau fel theatr gymhwysol.
“Rydym wedi ffurfio cynghreiriau gyda phob math o sefydliadau ac mae hyn yn golygu bod myfyrwyr fel Ken yn derbyn hyfforddiant trylwyr, ac sydd weithiau’n agoriad llygaid, mewn sut i weithredu eu sgiliau yn eu gyrfaoedd ar ôl graddio. Mae Ken wedi dangos gwir ddawn mewn theatr gymhwysol - ym mhob math o sefyllfaoedd - ac mae’n ddiddorol tu hwnt i’w weld yn gweithio.”