Myfyrwyr Glyndŵr yn datblygu gemau cyfrifiadurol i daclo trosedd seiber
Defnyddiwyd gemau a ddatblygwyd gan fyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam - mewn partneriaeth â swyddogion cyrchlu arbenigol - i addysgu pobl ifanc am drosedd seiber.
Rhoddwyd y myfyrwyr mewn cysylltiad â Ditectif Cwnstabl William Farrell o Uned Troseddu Drefnedig Rhanbarthol y Gogledd Orllewin - sydd yn gweithredu yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr - gan eu darlithiwr, Nathan Roberts.
Meddai Nathan: “Cwrddais â William wrth hyrwyddo’r Brifysgol a’n gwaith mewn technoleg Gemau Difrifol gan arddangos prosiect blaenorol yn Rali Cymru.
“Roedden ni’n awyddus i weithio gyda’n gilydd gyda myfyrwyr Glyndŵr ar brosiect ‘byd go iawn’. Un o’r pryderon oedd gan Will oedd bod ceisio addysgu a chefnogi pobl ifanc mewn ardaloedd gwahanol o Gymru am ddiogelwch seiber wedi bod yn anodd oherwydd natur wledig y wlad.
“Awgrymais y gallen ni helpu mewn dwy ffordd: yn gyntaf trwy osod problem byd go iawn i’r myfyrwyr yn ceisio ateb problemau addysgu unigolion am seiber diogelwch, ac yn ail, wrth gynnal arddangosiad daeth ag ysgolion a cholegau i leoliad canolog - yn helpu’r heddlu i ganolbwyntio adnoddau yn ogystal â helpu’r brifysgol arddangos unrhyw beth rydym yn ei datblygu.
“Gyda hynny mewn golwg, daethom ni â phopeth at ei gilydd ar gampws Plas Coch Glyndŵr - ac arweiniodd hyn at ddigwyddiad CyberTech cyntaf y brifysgol eleni.”
Wrth i’r digwyddiad agosáu, fel rhan o fodiwl penodedig ar gemau difrifol a thechnoleg ymdrochol, gweithiodd myfyrwyr gyda heddweision i gynllunio gêm gyfrifiadurol fyddai’n apelio at blant 12-14 oed. Cynlluniwyd y gemau gan fod swyddogion eisiau denu sylw pobl ifanc am faterion drosedd seiber mewn ffordd hwyl a deniadol.
Trefnodd Nathan y modiwl mewn cyfnodau a aeth â thimau o gysyniad i ddatblygiad, gyda thîm o swyddogion yn gwirio’n rheolaidd i sicrhau fod y cynnwys yn addas.
Ychwanegodd Nathan: “Cafodd y gemau eu datblygu’n sgil sesiwn cyflwyniad tebyg i Dragon’s Den - cyflwynodd myfyrwyr y syniadau i banel a chynulleidfa, a chynhaliwyd pleidlais lle'r oedd gan yr heddweision y bleidlais fwrw.
“Oherwydd maint y dasg, gweithiodd myfyrwyr mewn chwe grŵp i greu gemau - gyda bwriad i arddangos y goreuon i’r cyhoedd yn ystod y digwyddiad CyberTech. Ar y diwrnod, cafodd y gemau eu dangos i gannoedd o fyfyrwyr o ysgolion a cholegau ledled Gogledd Cymru - cynulleidfa darged y timau.
“Cynhyrchwyd gêm wych gan bob tîm a chymerodd rhan - a safodd dwy gêm yn benodol yn arbennig. Cydnabuwyd y timau am eu cyfraniad amlwg ac mi fydd yr heddlu’n defnyddio eu gemau mewn ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth.”
Y ddau dîm a ddewiswyd oedd Titantic Games, a wnaeth gêm o’r enw Data Defence lle mae chwaraewyr yn defnyddio strategaethau i amddiffyn systemau gwahanol rhag amrywiaeth o ymosodiadau seiber; a Grym Games, a greuodd Hypernet Case, gêm Realiti Rhithwir wedi’i ddylanwadu gan Tron lle mae chwaraewyr yn teithio trwy system sydd wedi’i heintio gan adnabod a niwtraleiddio ymosodiadau seiber.
Mynychodd Ditectif Cwnstabl y digwyddiad Cybertech - gan roi cyflwyniad am waith y NWROCU i daclo trosedd seiber - cyn dod yn ôl i’r brifysgol i gyflwyno tystysgrif i bawb a gymerodd rhan yn y prosiect er mwyn cydnabod eu gwaith.
Meddai: “Oed cyfartalog rhywun sydd yn cael ei harestio am drosedd seiber yw dim ond 17. Nid yw pobl ifanc sydd â sgiliau TG weithiau’n gwybod y gall eu gweithredu fod yn anghyfreithlon. Er enghraifft, mae’n drosedd o dan Ddeddf Camddefnydd Cyfrifiaduron 1990 os yw unigolyn yn defnyddio meddalwedd maleisus i roi ffrind all-lein o gêm gyfrifiadurol ar-lein (a elwir yn Ymosod Gwrthod Gwasanaeth. Fy rôl i yw atal unigolion rhag cyflawni trosedd ac mae addysg yn allweddol.”
“Mae ymchwil yn dangos y gallai chwarae gemau ar-lein arwain at drosedd seiber. Rydym yn darparu addysg sydd yn canolbwyntio ar helpu unigolion i wneud penderfyniadau gwybodus a’u helpu deal oblygiadau eu hymddygiad.”
“Yr her ydi creu ymwybyddiaeth o gyfraith a moeseg gyfrifiadurol i bobl ifanc mewn ffordd greadigol, hwyl ac ymgysylltiol. Mae gweithio gyda phartneriaid yn cynnwys Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ffordd bwysig o gyrraedd y nod hyn.
“Mae wedi bod yn bleser i weithio gyda Nathan i ddarparu’r Digwyddiad CyberTech llwyddiannus - rydym wedi derbyn adborth positif iawn gan yr ysgolion. Mae myfyrwyr ar y Prosiect Gemau Difrifol yn glod i’r brifysgol. Maen nhw wedi darparu’n llwyddiannus fy amlinelliad i ymgorffori negeseuon atal troseddau seiber yn eu gemau. Edrychaf ymlaen at weld pobl ifanc o Ogledd.