Myfyrwyr Nyrsio Prifysgol Wrecsam yn Serennu yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru

Dyddiad: Dydd Gwener, Rhagfyr 5, 2025
Mae’n bleser gan Brifysgol Wrecsam ddathlu llwyddiannau dau fyfyriwr nyrsio yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn Cymru y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN), a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghaerdydd. Mae'r gwobrau blynyddol yn cydnabod cyfraniadau rhagorol i nyrsio a gofal iechyd ledled Cymru, gan ddathlu arloesedd, arweinyddiaeth a rhagoriaeth mewn gofal cleifion.
Cafodd Alwen Sayer, Myfyriwr Nyrsio (Oedolion) ei henwi’n Enillydd Gwobr Myfyrwyr Nyrsio, ac enillodd Abbie Sanders, Myfyriwr Nyrsio (Plant) yr ail wobr yn yr un categori. Dangosodd y ddwy fyfyrwraig broffesiynoldeb, tosturi ac ymrwymiad rhagorol i ymarfer seiliedig ar dystiolaeth drwy gydol eu hastudiaethau a’u lleoliadau gwaith clinigol.
O’r chwith i’r dde: Helen Whyley: Cyfarwyddwr Gweithredol RCN Cymru, Lisa Llewellyn: Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Proffesiynau Iechyd a Ansawdd yn HEIW, Alwen Sayer, Jason Mohammad: Meistr Seremonïau.
Mae’r Gwobrau Nyrsio RCN Cymru yn dod â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ynghyd o bob cwr o’r wlad i anrhydeddu cyflawniadau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion, teuluoedd a chymunedau. Mae categorïau’n cynnwys rhagoriaeth clinigol, arweinyddiaeth, addysg ac arloesedd, gan bwysleisio rhan allweddol nyrsys yn y broses o siapio dyfodol gofal iechyd.
O’r chwith i’r dde: Helen Whyley: Cyfarwyddwr Gweithredol RCN Cymru, Lisa Llewellyn: Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Proffesiynau Iechyd a Ansawdd yn HEIW, Abbie Sanders, Jason Mohammad: Meistr Seremonïau.
Dywedodd yr Athro Paul Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Rydym yn eithriadol o falch o Alwen ac Abbie ar eu llwyddiant rhagorol yn yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru. Mae eu llwyddiannau’n enghraifft o’r ymroddiad, y tosturi a’r proffesiynoldeb sy’n diffinio nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam.
Nid yn unig y mae’r gwobrau hyn yn dathlu eu rhagoriaeth fel unigolion, ond maent hefyd yn pwysleisio cryfder ein rhaglenni nyrsio ac ymrwymiad ein staff i siapio dyfodol gofal iechyd. Llongyfarchiadau i’r ddwy fyfyrwraig am gynrychioli ein prifysgol mor wych ar lwyfan cenedlaethol.”
Dywedodd Alison Lester-Owen, Prif Ddarlithydd ac Arweinydd Proffesiynol Nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam, “Mae’r tîm nyrsio cyn cofrestru cyfan yn eithriadol o falch o Alwen ac Abbie. Nid yn unig y mae eu llwyddiant yn adlewyrchu eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a’u hymrwymiad nhw i nyrsio, ond hefyd, mae’n cynrychioli safonau uchel addysg nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam.
Astudiodd Alwen ac Abbie ar ein campws Llanelwy, ac rydym wrth ein boddau fod eu gwaith caled wedi cael ei gydnabod ar lwyfan mor flaenllaw ag RCN Cymru, sy’n cael cydnabyddiaeth yn fyd-eang.
Mae'r gwobrau hyn yn arddangos yr effaith mae nyrsys yn ei chael bob dydd, yn gofalu am bobl yng Nghymru a thu hwnt. Mae gweld ein myfyrwyr yn cael cydnabyddiaeth ar y lefel hon, gan amlygu Prifysgol Wrecsam yn flaenllaw ym maes darpariaeth addysg nyrsio, wirioneddol yn ysbrydoledig.”
Dywedodd Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo yn Grŵp Llandrillo Menai, “Mae Alwen yn enghraifft ddisglair o’r ffordd y mae Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru yn trawsnewid addysg yn ein hardal.
Trwy’r dull cydweithredol hwn, llwyddodd Alwen i gyflawni’r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Iechyd yn y coleg, gan greu llwybr cynnydd clir a hygyrch i addysg uwch. Diben y cynghrair hwn yw agor drysau, cynyddu cyfranogiad a sicrhau y gall dysgwyr fel Alwen gael mynediad at y sgiliau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ffynnu.”
Dywedodd Angela Wood, Prif Gyfarwyddwr Nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Unwaith eto, mae Gwobrau RCN wedi dangos cryfder nyrsio ar draws Gogledd Cymru. Llongyfarchiadau i bob enillydd ac enwebai - mae eich gwaith yn adlewyrchu'r gwerthoedd a’r safonau yr ydym yn anelu tuag atynt bob dydd.
“Mae myfyrwyr nyrsio’n chwarae rhan hanfodol yn ein gwasanaethau a gweithlu ein dyfodol. Diolch am eich uchelgais, eich proffesiynoldeb a’ch ymrwymiad i gleifion. Rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â chi, a hoffem longyfarch holl dderbynwyr gwobrau eleni ar draws ein bwrdd iechyd.”
Yn ghynharach eleni, dathlodd y Brifysgol y newyddion ei bod wedi'i rhestru ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr yn gyffredinol yn y Canllaw, yn ogystal â chydradd drydydd yn y DU ar gyfer yr un metrig - allan o 130 o sefydliadau addysg uwch.
Dymuna Prifysgol Wrecsam longyfarch y ddwy fyfyrwraig, ganbedrych ymlaen at barhau â’i chenhadaeth i ddatblygu nyrsys medrus, tosturiol sydd ar flaen y gad o ran gofal cleifion.