Myfyrwyr Wrecsam yn dathlu eu llwyddiannau yn seremonïau graddio 2024
Date: Dydd Gwener, Mai 31, 2024
Bu mwy na 1,700 o fyfyrwyr yn dathlu eu llwyddiannau gyda’u teuluoedd, eu cyfeillion a’u darlithwyr yn seremonïau graddio Prifysgol Wrecsam 2024.
Camodd y myfyrwyr ar draws llwyfan Neuadd William Aston i gyfeiliant cymeradwyaeth i dderbyn eu graddau, ar ôl blynyddoedd o ymroddiad a gwaith caled.
Ganghellor Prifysgol Wrecsam, Colin Jackson CBE a’r Is-Ganghellor, yr Athro Maria Hinfelaar
Y seremonïau graddio eleni oedd y rhai olaf i’r Is-ganghellor, yr Athro Maria Hinfelaar, eu mynychu, gan ei bod yn ymddeol ddiwedd yr haf.
Yn ôl yr Athro Hinfelaar: “Llongyfarchiadau fil i’n graddedigion, sy’n ymuno â chymuned gynyddol cynfyfyrwyr Prifysgol Wrecsam. Da iawn chi.
“Braint enfawr fu cael dathlu ymroddiad a llwyddiannau ein graddedigion diweddaraf. Rydym yn hyderus y bydd yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiad a gawson nhw tra’n astudio gyda ni yn cael effaith hynod gadarnhaol ar ein cymunedau.
“Ar nodyn personol, mae’r wythnos hon wedi bod yn un eithriadol o arbennig i mi, oherwydd dyma’r wythnos olaf y byddaf yn dathlu llwyddiannau sawl cenhedlaeth o fyfyrwyr. Cafodd y seremoni raddio gyntaf y bûm wrth ei llyw fel arweinydd sefydliad ei chynnal yn Limerick yn 2004 – a’r seremonïau hyn yn Wrecsam yr wythnos hon fu fy seremonïau olaf cyn imi ymddeol yn ddiweddarach yn yr haf.
“Dros y ddau ddegawd diwethaf, rydw i wedi llongyfarch ac ysgwyd llaw oddeutu 50,000 o unigolion anhygoel sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau a chychwyn ar y cam nesaf yn eu bywydau. Dyna filoedd o beirianwyr, cyfrifwyr, marchnadwyr, rheolwyr, nyrsys, artistiaid, gwyddonwyr cyfrifiadurol, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, a llawer mwy o broffesiynau.
“Mae nifer ohonyn nhw wedi mynd yn eu blaen i weithio yn eu priod feysydd, mae nifer wedi sefydlu eu busnesau eu hunain ac mae rhai wedi aros yn y byd academaidd fel ymchwilwyr, staff academaidd neu staff proffesiynol. Gyda’u gwybodaeth a’u sgiliau, maen nhw’n esgor ar werth eithriadol i’n cymunedau ar hyd a lled y byd.”
Hanesion llwyddiant oedd yr edefyn aur a redai trwy’r wythnos, gyda graddedigion a’u hanwyliaid yn rhannu uchafbwyntiau eu hamser tra buont yn astudio yn Wrecsam.
Roedd Karen Williams, 42, ymhlith y graddedigion. Enillodd Karen radd dosbarth cyntaf mewn Iechyd Meddwl a Lles a dywedodd fod y brifysgol wedi newid ei bywyd a’i safbwynt yn llwyr.
Yn ôl Karen: “Rydw i’n eithriadol o falch o’r hyn a gyflawnais yn y brifysgol. O sefydlu menter gymdeithasol (sef Fideos Cyfarwyddo) tra oeddwn i’n astudio, i gynorthwyo’r prosiect ‘Outside In’ – profiad anhygoel.
“Pan oeddwn i’n iau, wnes i erioed feddwl y byddai modd imi fynd i’r brifysgol. Wnes i ddim llwyddo’n dda iawn yn fy arholiadau TGAU a wnes i ddim mynd i’r coleg, ond tra oeddwn i’n gwirfoddoli i elusen iechyd meddwl, sylweddolais fy mod eisiau datblygu mwy ar fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o’r materion iechyd meddwl a oedd yn wynebu defnyddwyr y gwasanaeth. Dyna pryd y meddyliais am fynd i’r brifysgol.
“Roedd sylweddoli hynny yn drobwynt mawr i mi. Mae fy nghyfnod yn y brifysgol wedi bod yn wirioneddol wych – mae wedi agor fy llygaid ac wedi fy helpu i weld y byd trwy lens gwahanol, a bu fy narlithwyr yn gefnogol dros ben. Mae graddio gyda gradd dosbarth cyntaf yn goron ar y profiad.”
Yn ôl Karen, sydd bellach yn bwriadu astudio Gradd Meistr mewn Iechyd Meddwl a Lles, ni fyddai wedi llwyddo i gwblhau ei hastudiaethau heb gefnogaeth ddiysgog ei hanwyliaid, yn enwedig ei gŵr Gary, a yrrodd Karen yn ôl a blaen i bob darlith ac a arhosodd amdani yn y car bob tro i wneud yn siŵr ei bod yn cyrraedd adref yn ddiogel.
Wrth sôn am ei ymroddiad a’r cymorth a roddodd i Karen, dyma a ddywedodd Gary: “Mae’r hyn y mae Karen wedi’i gyflawni yn y brifysgol wedi bod yn syfrdanol. Mae hi wedi datblygu cymaint – yn enwedig ei hyder. Ac mae hynny’n rhywbeth anhygoel i’w weld. Rydw i ar fin beichio wylo – rydw i mor falch ohoni.”
Yn ôl Nhlanhla Ncube, a raddiodd yr wythnos hon gyda Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) ac sy’n gweithio ar hyn o bryd fel Nyrs yn Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Dwyrain Sussex: “Rydw i wrth fy modd fy mod wedi ennill gradd MBA, ond rydw i wedi cyffroi mwy fyth ynglŷn â chymryd y camau nesaf yn fy ngyrfa, oherwydd rydw i’n gobeithio mynd i’r afael â rôl reoli yn y sector iechyd.
“Rydw i’n credu bod y craffter, yr wybodaeth a’r hyder a enillais yn ystod fy astudiaethau wedi fy mharatoi ar gyfer y bennod nesaf honno.”
Mae Chris Owen, a raddiodd mewn Nyrsio ac sydd bellach yn gweithio i’r GIG yn Uned Arennol Ysbyty Maelor Wrecsam, yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod wedi graddio o’r brifysgol.
“Teimlad gwych – ond hefyd braidd yn swreal – yw graddio ar ôl tair blynedd anhygoel yn Wrecsam. Roedd fy nghwrs yn wych a chefais gefnogaeth ragorol drwy’r adeg gan fy narlithwyr a’m cyfoedion. Hefyd, cefais gyfleoedd i ddysgu a datblygu trwy fynd ar leoliadau – ac roedd y rheini’n wych hefyd.
“Rydw i’n falch nawr fy mod mewn swydd sydd wrth fy modd yn Uned Arennol Wrecsam. Rydw i’n falch o allu gwneud swydd sydd mor agos at fy nghalon, swydd sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau cleifion bob diwrnod.”