Nifer y graddedigion PGW mewn cyflogaeth llawn amser yn uwch na chyfartaledd y DU 

WGU tower

Date: Dydd Llun Mehefin 19

Mae nifer y graddedigion newydd o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) sydd mewn cyflogaeth llawn amser yn fwy na chyfartaledd y DU, yn ôl ffigyrau newydd. 

Mae PGW hefyd yn ail allan o brifysgolion yng Nghymru ar gyfer cyfran y graddedigion sydd mewn cyflogaeth â thâl. 

Mae data arolwg myfyrwyr newydd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn dangos bod 83.8% o raddedigion PGW o flwyddyn academaidd 2020/21 mewn cyflogaeth â thâl - sy'n uwch na chyfartaledd y DU o 81.5% a chyfartaledd Cymru o 79.4%. 

Roedd cyfanswm o 86.9% o raddedigion PGW mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach, gan gynyddu o 84.5% o raddedigion PGW o'r flwyddyn academaidd 2019/20. Cyflogaeth lawn-amser yw'r gweithgaredd mwyaf o hyd i raddedigion PGW, gan gyfrif am 55.6% o ymadawyr 2020/21.  

Meddai Lucy Jones, Rheolwr Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn PGW: "Mae'r ffigurau newydd hyn yn wych i'w darllen ac maent wir yn dangos pa mor galed y mae cydweithwyr academaidd yn gweithio yn y brifysgol i arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r wybodaeth berthnasol i sicrhau eu bod yn ffynnu ac yn symud ymlaen yn y gweithle. 

"Mae hefyd yn wir yn dyst i wytnwch a gwaith caled graddedigion, sydd nid yn unig wedi cwblhau eu hastudiaethau yn llwyddiannus - ar adeg o her go iawn yn ystod anterth y pandemig - ond wedyn wedi mynd ymlaen i sicrhau cyflogaeth. 

"Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod gradd yn rhoi hwb i ragolygon cyflogaeth, er gwaethaf yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni. 

"Mae hefyd yn bwysig pwysleisio bod manteision mynd i'r brifysgol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ganlyniadau cyflogaeth. Yn dilyn eu hastudiaethau, mae llawer o raddedigion yn sicrhau swyddi, sy'n hanfodol i'n heconomi ac yn gwneud cyfraniad pwysig i'n rhanbarth. Yma yn PGW, rydym yn falch o helpu i ddatblygu sgiliau ac arbenigedd myfyrwyr ac yn ei dro, cyfrannu'n gadarnhaol at ein cymuned." 

Mae'r Arolwg Hynt Graddedigion, a weinyddir gan HESA, yn arolygu ymadawyr o sefydliadau addysg uwch y DU 15 mis ar ôl iddynt raddio.