Prifysgol Wrecsam i gynnal Pencampwriaethau Codi Pŵer Prydain eleni

Dyddiad: Dydd Gwener, Tachwedd 8, 2024

Mae Prifysgol Wrecsam yn croesawu cynnal Pencampwriaethau Prydeinig Cynghrair Codi Pŵer Rhyngwladol eleni, gyda chodwyr pŵer ar fin cystadlu o bob cwr o'r wlad.

Bydd y gystadleuaeth, a gynhelir yn Neuadd Chwaraeon y Brifysgol ddydd Sul, 1 Rhagfyr, yn croesawu 70 o gystadleuwyr, gan gynnwys Dr Chelsea Batty, Prif Arweinydd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff a'r Gwyddorau Cymhwysol ym Mhrifysgol Wrecsam.

Mae'r Brifysgol hefyd yn noddwr swyddogol y digwyddiad. 

Meddai Dr Batty, a oedd hefyd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Codi Pŵer Amatur Prydain y llynedd, bod y digwyddiad yn argoeli i fod yn "ddiwrnod llawn cyffro a gwefr". 

“Rydym wrth ein bodd ac yn falch iawn o fod yn cynnal Pencampwriaethau Prydeinig Cynghrair Codi Pŵer Rhyngwladol eleni, a fydd yn gweld codwyr pŵer yn cystadlu o bob rhan o'r wlad – ac ar nodyn personol, rwy'n hynod gyffrous i fod yn cystadlu ar dywarchen gartref gyfeillgar a chyfarwydd,” meddai hi.

“Rydym hefyd yn falch y bydd ein myfyrwyr Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon yn cefnogi cystadleuwyr ar y diwrnod trwy ddarparu asesiad anafiadau, yn ogystal â chynnig tylino chwaraeon. Bydd yn brofiad gwych iddyn nhw.”

Meddai Dr Batty y bydd y digwyddiad yn ddiwrnod allan gwych “i'r holl deulu”. 

Meddai: “Rydym yn awyddus i weld gwylwyr o bob rhan yn gwneud eu ffordd draw atom, yma yng Ngogledd Cymru i brofi awyrgylch trydan gornest codi pŵer genedlaethol. Mae’n ddiwrnod allan gwych a chyffrous i’r teulu cyfan.

"Fel rhan o'r diwrnod, rydym hefyd yn falch iawn o groesawu amrywiaeth o fusnesau lleol, a fydd yn gwerthu bwyd, diod ac atchwanegiadau i gadw cyflenwad pŵer i ni gael digon o danwydd a bod gwylwyr yn cael eu bwydo a'u hydradu'n dda."

Ychwanegodd Dayle Langford, Llywydd Cynghrair Codi Pŵer Rhyngwladol y DU: “Bydd yn wych cynnal Pencampwriaethau Prydeinig Cynghrair Codi Pŵer Rhyngwladol y DU ym Mhrifysgol Wrecsam. 

“Gan fy mod yn dod o Ogledd Cymru fy hun, rwy’n hapus i weld cystadleuwyr yn dod o bob rhan o’r wlad i gystadlu yn yr ardal. Rydym yn edrych ymlaen at y Pencampwriaethau eleni a gobeithio gweld rhai recordiau yn cael eu torri.”

Mae'r gystadleuaeth yn dechrau am 9yb a bydd yn rhedeg drwy'r dydd tan 5yp b  . Mae croeso i wylwyr ddod i wylio am £5 - gyda chyfradd gostyngol o hanner pris i fyfyrwyr ac aelodau staff Prifysgol Wrecsam.