Prifysgol Wrecsam yn 1af yng Nghymru am addysgu o safon yng Nghallaw Prifsgolion Da The Times

Students laughing

Date: Dydd Llun, Medi 23, 2024

Mae ansawdd addysgu ym Mhrifysgol Wrecsam wedi’i restru ar y brig yng Nghymru – ac yn bedwerydd yn y DU yng Nghanllaw Prifysgolion Da The Times a Sunday Times 2025.

Dyma’r gydnabyddiaeth genedlaethol ddiweddaraf am addysgu yn y Brifysgol yn ystod yr wythnosau diwethaf, oherwydd yn gynharach y mis hwn roedd y sefydliad ar y brig yng Nghymru ar gyfer addysgu ac asesu – yn ogystal ag yn y 10 uchaf yn – y DU yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2025.  Fe’i graddiwyd hefyd yn ail yng Nghymru am ragoriaeth addysgu – ac eto yn y 10 uchaf ledled y DU yng Nghanllaw Prifysgolion Da The Times a Sunday Times 2025. 

Mae’r sefydliad hefyd wedi dod i’r brig am gynhwysiant cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr am y seithfed flwyddyn yn olynol yng Nghanllaw Prifysgolion Da The Times a Sunday Times 20255 – yn ogystal ag ail yng Nghymru am brofiad myfyrwyr.  

Mae tabl y gynghrair cynhwysiant cymdeithasol yn seiliedig ar gyfran y myfyrwyr o ystod o gefndiroedd amrywiol, sydd fel arfer yn cael eu cynrychioli llai mewn addysg uwch – er enghraifft, myfyrwyr aeddfed, myfyrwyr ag anableddau datganedig ac yn gyntaf yn y teulu i fynd i'r brifysgol.

Mae'r sefydliad hefyd wedi codi 54 o leoedd ar gyfer rhagolygon graddedigion o gymharu â thabl cynghrair y llynedd.

Cyflawnodd Prifysgol Wrecsam hefyd set gref o ganlyniadau yn y meysydd pwnc canlynol: 

  • Troseddeg – ar y brig yn y DU o ran ansawdd addysgu a phrofiad myfyrwyr, yn ogystal â bod ar y brig yn gyffredinol yng Nghymru ac yn y 10 uchaf yn y DU. 
  • Nyrsio – ar y brig yn y DU am ansawdd addysgu a phrofiad myfyrwyr yn – ac yn gydradd gyntaf yn y DU ar gyfer rhagolygon graddedigion. Yn gyffredinol, roedd y pwnc ar y brig yng Nghymru ac yn bumed yn y DU. 
  • Pynciau Iechyd Perthynol* – yn gyntaf yng Nghymru – ac yn y 10 uchaf yn y DU – ar gyfer ansawdd addysgu a brig ar y cyd yn y DU ar gyfer rhagolygon graddedigion. 
  • Gwaith Cymdeithasol – yn safle cyntaf yng Nghymru am ansawdd addysgu.   

Meddai’r Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Rydym yn falch iawn o fod ar y brig yng Nghymru ac yn bedwerydd yn y DU am safonnau addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da The Times a Sunday Times 2025. Mae hynny’n wych i’n myfyrwyr ac yn dangos pa mor galed y mae ein staff academaidd yn gweithio i ddarparu lefelau addysgu o ansawdd uchel. 

“Mae ein safleoedd lefel pwnc ar gyfer Troseddeg, Nyrsio, Iechyd Perthynol a Gwaith Cymdeithasol hefyd yn ddymunol, ac yn dangos yr ymrwymiad pybyr hwnnw i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr a safonau uchel o ansawdd addysgu.”