Prifysgol Wrecsam yn datgelu brand “newydd a chyffrous” i bartneriaid

Date: 2 Tachwedd 2023

Mae grymuso myfyrwyr i deimlo eu bod yn gallu cyflawni unrhyw beth maent yn ei ddymuno drwy greu amgylchedd cynhwysol a chroesawgar yn ganolog i genhadaeth Prifysgol Wrecsam.
Dyna oedd neges Canghellor Prifysgol Wrecsam,Colin Jackson CBE, yn ystod dathliad cyhoeddi brand newydd y brifysgol yn allanol.

Fel rhan o’r digwyddiad arbennig, daeth Andy Williams, Maer Wrecsam, aelodau o’r gymuned a rhanddeiliaid o golegau lleol, cynghorwyr lleol, Pwyllgor Cymunedol y Gymraeg yr Is-ganghellor, y GIG a mwy, ynghyd i’r brifysgol i glywed mwy am ddiben ail-frandio’r sefydliad.

Yn ystod ei araith, dywedodd Colin: “Mae ail-frandio Prifysgol Wrecsam yn destun balchder mawr, mae'n arwydd o’r cynnydd rydym wedi'i wneud. Mae Wrecsam bellach yn ddinas adnabyddus ledled y byd, ond yn ogystal â hynny, mae ein prifysgol yn sefydliad a gydnabyddir ledled y byd. 

Canghellor y Brifysgol, Colin Jackson CBE, yn traddodi ei araith yn y Digwyddiad Lansio.

“Mae ein brand newydd a chyffrous yn allweddol wrth arddangos ein diben i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol – grymuso pob myfyriwr i deimlo ei fod yn gallu cyflawni unrhyw beth mae’n ei ddymuno drwy greu amgylchedd cynhwysol a chroesawgar. Mae hynny wrth wraidd ein holl waith yma yn Wrecsam.”

O ddechrau'r flwyddyn academaidd hon, mae’r Brifysgol bellach yn cael ei hadnabod fel ‘Prifysgol Wrecsam/Wrexham University’, gan atgyfnerthu’r cyswllt eto fyth rhwng y lleoliad a'r brifysgol.

Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, yr Is-ganghellor: “Mae ein henw a’n brand newydd yn cynrychioli ystod o ddatblygiadau cyffrous sy'n digwydd o fewn ein cymuned, lle mae ein gwreiddiau wedi’u sefydlu’n ddwfn.

“Mae’r enw newydd yn ein huno’n fwy uniongyrchol ag Wrecsam – y lle rydym yn falch iawn o'i alw'n gartref. 

“Mae’n ein helpu i gyfathrebu’n fwy effeithiol o lawer gyda chynulleidfaoedd ledled y DU, ac yn rhyngwladol, ar adeg pan mae Wrecsam yn datblygu – mae ganddi statws dinas, wedi profi llwyddiant arbennig yn ei chais Dinas Diwylliant y DU, ac wrth gwrs, llwyddiannau ein cymdogion yn y clwb pêl-droed, a'r holl sylw arbennig y mae hynny wedi’i gyflwyno. 

"Mae cymuned wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn parhau i fod yn hynod falch o’n treftadaeth a’n hanes Cymreig, a byddwn yn parhau i anrhydeddu etifeddiaeth Owain Glyndŵr.

“Rydym hefyd yn parhau i ymrwymo i ddathlu’r iaith Gymraeg, ac mae'n bleser cyhoeddi bod mwy o fyfyrwyr nag erioed yn cael cyfle i astudio'n ddwyieithog ar draws ystod o'n cyrsiau.”

Cafodd rhanddeiliaid a fynychodd y digwyddiad cyhoeddi glywed diweddariadau am gynnydd strategaeth Campws 2025 y Brifysgol, gyda datblygiadau’n cynnwys yr Ardal Arloesi Iechyd ac Addysg arloesol, sy’n cynnwys y Ganolfan Efelychu Iechyd, labordai newydd, ardaloedd dysgu cymdeithasol a mwy. 

Soniodd yr Athro Hinfelaar bod y Brifysgol bellach yn edrych i’r dyfodol, y tu hwnt i uwchgynllun Campws 2025, ac mae’n dechrau datblygu strategaeth newydd i arwain y sefydliad at 2030 a thu hwnt – a gofynnodd i’r unigolion a oedd yn bresennol gyflwyno eu barn ar gryfderau’r Brifysgol a’r cyfleoedd y gallwn eu croesawu dros y blynyddoedd nesaf.

Ychwanegodd: “Mae angen inni fod yn ystyriol o faint sydd wedi newid, lle mae cyfleoedd eraill ar gael, a sut allwn ni wella eto fyth. Bydd honno'n daith o ddarganfod, ac yn sicr, nid oes gennym yr holl atebion ein hunain – a dyma lle gall ein rhanddeiliaid ein helpu. Roedd ein digwyddiad cyhoeddi allanol yn gyfle ichi ddweud eich dweud ynghylch sut all ein strategaeth gefnogi eich amcanion, yn enwedig yr amcanion hynny sy'n effeithio ar ein cymuned. 

“Diolch o galon i bawb sydd wedi dod i ddathlu ein hail-frandio a’n cefnogi wrth inni gyflawni deilliannau arbennig i’n pobl a’n cymunedau.”

Mynychwyr y Digwyddiad Lansio

Cyflwynwyd y digwyddiad arbennig hwn ar ffurf ddwyieithog - gydag Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygiad Academaidd Cyfrwng Cymraeg, yn cyflwyno areithiau yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Rhannodd Elen Mai gynnydd y Brifysgol mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg ers cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu a Strategaeth Academaidd Cymraeg y llynedd gyda’r rhanddeiliaid.

Mae datblygiadau allweddol yn cynnwys cyrsiau gradd penodol yn cynnig opsiynau astudio Cymraeg, gan gynnwys y radd Therapi Iaith a Lleferydd ac yn fwyaf diweddar, Plismona Proffesiynol.

Dywedodd: “Mae’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig wedi'u gwreiddio yn ein gwerthoedd ac ym mhob agwedd ar ein gwaith.

“Mae’r cynnydd eisoes wedi bod yn anhygoel – ac rydym yn falch o ddweud ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i baratoi myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith, ateb y galw yng Nghymru, a chyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae cyfleoedd Cymraeg ar gael i bawb ym Mhrifysgol Wrecsam – ac mae'r iaith Gymraeg wir yn gynhwysol i bawb.”
Prif nodau ail-frandio’r sefydliad yw gwella ymwybyddiaeth, atgyfnerthu hunaniaeth, ac yn y pen draw, denu mwy o fyfyrwyr.

Daw’r ail-frandio yn sgil ymgynghoriad â myfyrwyr, staff a rhanddeiliaid allanol, er mwyn sicrhau bod y brand wir yn cynrychioli'r hyn mae’r Brifysgol yn ei gynnig a dyheadau’r Brifysgol ar gyfer y dyfodol. 

Wedi’i hadnabod fel Prifysgol Glyndŵr gynt, nod Prifysgol Wrecsam yw bod yn sefydliad dewis cyntaf ac yn gyrchfan i ddarpar fyfyrwyr – gyda'r nod o wella’r gymuned, dinas Wrecsam a’r byd drwy addysg uwch.