Profiad Diwrnod Agored Cadarnhaol yn agor byd newydd i fyfyriwr PGW
Date: 2021
Mae myfyriwr Wrecsam Glyndŵr wedi rhannu ei stori am gael eu hysbrydoli i fynd i'r brifysgol diolch i'w profiad mewn Diwrnod Agored.
I ddarpar fyfyrwyr, er eu bod yn gyfleoedd i weld a dysgu mwy am brifysgol, gall Diwrnodau Agored fod yn frawychus.
Efallai bod y brifysgol mewn lle rydych chi'n anghyfarwydd ag ef, lle nad ydych chi'n adnabod neb. Neu os ydych yn dychwelyd i addysg ar ôl cyfnod hir, gall y byd academaidd ei hun ymddangos ychydig yn llethol.
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ymfalchïo mewn hygyrchedd a chynhwysiant, sy'n nodwedd allweddol o Ddiwrnodau Agored yn y Brifysgol, ac yn rhywbeth a greuodd argraff ar fyfyriwr presennol Chris Fielding ychydig flynyddoedd yn ôl.
Mae Chris, o Rochdale yn Sir Gaerhirfryn, yn fyfyriwr ar y cwrs Gradd Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, ac yn dweud nad oedden nhw'n siŵr a oedd y Brifysgol yn iawn iddyn nhw tan eu hymweliad â Glyndŵr.
Dywedodd: "Es i i Ddiwrnod Agored yn 2018 ac roeddwn i'n ei hoffi'n fawr.
"Roeddwn i'n hoffi maint y campws. Doeddwn i ddim eisiau mynd i brifysgol ar draws y ddinas gan fod gen i broblemau symudedd, felly roeddwn i'n hoffi hygyrchedd y campws.
"Roeddwn i'n hoffi'r bywyd natur, yr ardd graig fach o flaen bloc 'K', y coed, y cilfachau planhigion.
"Roedd y staff yn gyfeillgar a chefais siarad ag arweinydd fy nghwrs ac ni wnaeth fy rhuthro o gwbl, atebodd fy holl gwestiynau. Roedd hi'n gysur mawr i fy mam hefyd gan fod fy mam yn poeni am i mi fynd i'r brifysgol."
"Ro'n i wedi bod i Glyndŵr cwpl o weithiau o'r blaen i Comic Con felly roedd gen i syniad o'r cynllun yn barod, ond roedd yn wahanol i fynd yno ac edrych arno fel rhywle y gallwn i fynd am addysg."
Ychwanegodd Chris fod cyfeillgarwch ac agosrwydd Llysgenhadon Myfyrwyr Glyndŵr wedi chwarae rhan allweddol yn eu profiad cadarnhaol ar y diwrnod.
Dywedodd: "Fe wnaeth Llysgenhadon Myfyrwyr fy helpu i ddod o hyd i ble'r oedd pethau. Gallai fod wedi bod yn llethol gan fod gennych yr holl raglenni yn y Ganolfan Chwaraeon, felly sylwodd Llysgennad Myfyrwyr fy mod wedi drysu a gwirio fy mod yn iawn ac yn dangos i mi waith ieuenctid.
"Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n cŵl iawn bod Yna Lysgenhadon Myfyrwyr. Roeddwn wedi bod i Ddiwrnod Agored mewn Prifysgol arall ac nid oeddwn yn ei fwynhau o gwbl, roedd yn fasnachol iawn.
Mae natur gynhwysol Glyndŵr a lefel y cymorth a gawsant wedi bodloni'r disgwyliadau.
Ychwanegodd Chris: "Rwy'n credu bod cynhwysiant yn dda iawn ym Mhrifysgol Glyndŵr. Fel myfyriwr anabl, rwy'n credu mai dyma'r brifysgol berffaith i fynd iddo oherwydd, mae gennyf fy Nghynllun Dysgu, efallai ychydig mwy o diwtorialau gyda'm tiwtoriaid nag y byddai myfyriwr rheolaidd efallai'n ei wneud.
"Mae wedi bod yn brofiad dysgu cadarnhaol iawn sydd wedi gwneud i mi fwynhau addysg gan nad oeddwn o'r blaen – doeddwn i ddim yn mwynhau ysgol uwchradd, roeddwn i wir yn cael trafferth gyda TGAU, doeddwn i ddim eisiau gwneud Lefel A oherwydd doeddwn i ddim yn meddwl ei fod i mi.
"Fe wnes i bedair blynedd mewn coleg galwedigaethol, yna penderfynais fy mod am wneud Gwaith Ieuenctid a Gwaith Cymunedol, felly dechreuais edrych o gwmpas ac fe'm calonogwyd i edrych ar Radd Prifysgol ac fe wnes i ddod o hyd i hwn. Does gen i ddim difaru, rwy'n hapus iawn."
I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnodau Agored ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, ewch i’n dudalen Diwrnodau Agored.