Sioe Gradd Feistr Ysgol Gelf Prifysgol Wrecsam ar agor i’r cyhoedd ei gweld

Dyddiad: Dydd Lau, Awst 21, 2025

Mae myfyrwyr Meistr Ysgol Gelf Prifysgol Wrecsam yn gwahodd aelodau o’r gymuned i ddod draw i weld eu harddangosfa derfynol fel rhan o’u hastudiaethau.

Yn arddangos amrywiaeth o ffurfiau celf gweledol, mae'r arddangosfa’n cynnwys gwaith myfyrwyr ar y rhaglenni MA Ffotograffiaeth, MA Paentio, MA Y Celfyddydau mewn Iechyd, MA Ymarfer Rhyngddisgyblaethol Celf ac MA Ymarfer Rhyngddisgyblaethol Dylunio.

Cynhelir yr arddangosfa yn Ysgol Gelf Prifysgol Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw yn Wrecsam tan ddydd Gwener, 29 Awst.

Mae’r ffurfiau celf sy’n cael eu harddangos yn cynnwys cerfluniau, gosodiadau, paentiadau, ffotograffiaeth, darluniadau, graffeg, tecstilau, celf amgylcheddol ac ymarfer cysylltiol yn gymdeithasol.

Mae Huw Davies, sy’n astudio ar y rhaglen MA Ymarfer Rhyngddisgyblaethol Celf, ymhlith y myfyrwyr sy’n arddangos eu gwaith.

Mae ei waith yn canolbwyntio ar nifer o ddarluniadau canoloesol a gafodd eu darganfod yn gyntaf gan ei ferch, a oedd yn saith oed ar y pryd, ar wal yn dyddio’n ôl 700 o flynyddoedd yng ngogledd Cymru. Darluniadau oeddent gan deithwyr tlawd, sydd nawr yn ddienw, a oedd yn dod ar daith beryglus draw i Gymru.

Huw Davies

Wrth drafod ei waith, dywedodd Huw: “Tynnodd fy merch ieuengaf fy sylw at y darluniadau a oedd yn weledol iddi hi, er nad oedd eu gweld yn hawdd. Mae fy holl ymchwil a fy ymarfer wedi deillio o’r darganfyddiad lwcus hwnnw.

“Mae fy arddangosfa’n cynnwys 24 darluniad a cherflun wedi’u gwneud yn gyfan gwbl o ddeunyddiau a ganfuwyd ger y môr yng ngogledd a de Cymru.

“Mae’r darluniadau gwreiddiol yn sgil-gynnyrch gwladychiad Cymru a’r mudiad gwladychol i'r gorllewin a arweiniodd at gyfoeth a dioddefaint sylweddol y fasnach gaethweision drawsatlantig.

“Mae’n debyg mai dyma'r unig arwydd sydd gan y bobl dlawd yma ar ôl o’u hamser ar y ddaear - ac mae’r dystiolaeth hon o’r daith beryglus yr un mor berthnasol heddiw, wrth i ni barhau i weld pobl fregus ar ddisberod mewn cychod bach.”

Myfyriwr arall sy’n arddangos ei gwaith yn Ysgol Gelf y Brifysgol yw Jenny Thomas (yn y llun, ar y dde), sydd wedi bod yn astudio ar y rhaglen MA Ymarfer Rhyngddisgyblaethol Dylunio.

Printiau wedi’u hysbrydoli gan dirweddau Cymru yw gwaith Jenny, gan ddefnyddio technegau gwneud printiau fel print leino a thorluniau pren.

Meddai: “Rwyf wrth fy modd yn cael arddangos fy ngwaith fel rhan o’r arddangosfa Sioe MA. Rwyf yn eithriadol o falch o’r hyn yr wyf wedi ei gyflawni ar y rhaglen Feistr, ac yn enwedig, y ffaith fy mod wirioneddol wedi dod o hyd i fy arddull fy hun yn ystod y cyfnod hwn - dyna oedd fy mhrif amcan ar ddechrau'r rhaglen.

“Mae’r gwaith yr wyf yn ei arddangos yn dod â llawer o hapusrwydd imi gan ei fod yn dangos arfordir Cymru - yn enwedig Abermaw, sef fy lle hapus ers oeddwn i’n blentyn bach - ond hefyd, gan ei fod yn datgelu fy mhroses o gerfio cain gydag arbrofi chwareus, yn cynnwys haenau o liwiau llachar yn gymysg ag effaith gwead.

“Rwyf wirioneddol yn gobeithio y bydd pobl yn dod draw i weld ein gwaith - ac y bydd yn dod â’r un llawenydd iddynt hwy ag y mae wedi ei roi i ni yn ystod y broses greadigol.”

Ychwanegodd Dr Karen Heald, Darllenydd mewn Ymarfer Celf Rhyngddisgyblaethol ac Arweinydd Rhaglen y Brifysgol ar gyfer y Gyfres MA Celf a Dylunio: “Mae ein Sioe MA yn gipolwg bendigedig ar y 12 mis diwethaf i’n myfyrwyr, sy’n dangos pa mor bell maent wedi dod a sut y maent wedi datblygu’n artistig.

“Rwy’n eithriadol o falch o bob un wan jac ohonynt, a buaswn yn sicr yn annog pawb i ddod draw i Ysgol Gelf Prifysgol Wrecsam i weld eu gwaith ac i siarad â’r myfyrwyr, mae’n arddangosfa wirioneddol ysbrydoledig.”

  • Mae Sioe MA Ysgol Gelf Prifysgol Wrecsam ar agor i’r cyhoedd o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am-4pm tan ddydd Gwener, 29 Awst. Noder - bydd yr arddangosfa wedi cau ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, 25 Awst.