Picture of staff member

 

Graddiodd Awel yn 2013 gyda gradd mewn Nyrsio Plant ac ers hynny mae wedi datblygu diddordeb mewn nyrsio dibyniaeth fawr a gofal dwys. Mae Awel yn teimlo'n hynod ddiolchgar am y cyfleoedd mae wedi’u cael yn y gorffennol i weithio mewn ysbytai plant yn Llundain, Melbourne a Chaerdydd cyn ennill ei statws cymwys mewn arbenigedd fel nyrs Gofal Dwys Newyddenedigol.

Erbyn hyn, mae Awel wedi symud adref i Ogledd Cymru i weithio fel darlithydd Nyrsio Plant ac mae wedi cwblhau ei Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch. Wrth i Awel ddychwelyd i'w hardal leol, mae'n gobeithio parhau â'i thaith o ddysgu gydol oes ac yn ymroi i ddefnyddio ei hiaith gyntaf, y Gymraeg, drwy fabwysiadu rôl ychwanegol fel arweinydd darpariaeth Gymraeg yn y rhaglenni Nyrsio.

Gan fod Awel wedi cael profiadau diweddar fel myfyriwr ei hun, mae hyn wedi tanio ei hawydd i helpu eraill i ddysgu. Mae hi'n gobeithio yn fwy na dim y bydd hi'n cefnogi'r myfyrwyr a nyrsys y dyfodol, heb amheuaeth, mae eu hangen nawr yn fwy nag erioed o'r blaen. Yn ei hamser hamdden, mae hi'n mwynhau teithio, marchogaeth a helpu ar y fferm deuluol.