Mae'r campws ar gau oherwydd toriad pŵer y bore yma (dydd Iau). Bydd gwasanaethau arferol yn ailddechrau yfory (dydd Gwener).

Beccy Davis

Uwch Ddarlithydd mewn Nyrsio

Picture of staff member

Cwblheais fy ngradd nyrsio Oedolion yn 2005. Unwaith roeddwn wedi cymhwyso, fe es i weithio i’r GIG. Fy rôl gyntaf oedd nyrs staff ar ward feddygol, yna es ymlaen i fod yn brif nyrs yn yr Adran Achosion Brys lle’r enillais nifer o sgiliau ym maes nyrsio o fân anafiadau, gofal critigol a Phediatreg.


Fy rôl fwyaf diweddar oedd fel Ymwelydd Iechyd a Chydlynydd CONI, a dilynais y cwrs Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol ym Mhrifysgol (Wrecsam yn 2016. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn iechyd cyhoeddus a hyrwyddo iechyd ac rwyf wedi gweithio gyda theuluoedd bregus o fewn y gymuned ac wedi ennill gwybodaeth a phrofiad o fewn diogelu plant ac oedolion fel ei gilydd.


Yn fy rolau clinigol rwyf wedi bod yn fentor ac yn oruchwyliwr/aseswr arfer ar gyfer myfyrwyr. Rwyf wedi gweithio o fewn y GIG am 20 mlynedd ac wedi penderfynu dilyn fy angerdd a fy niddordeb mewn addysg a gweithio gyda myfyrwyr nyrsio a’u cefnogi yn eu taith nyrsio. Rwyf wedi gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam ers 2022, fel Hwylusydd Addysg Arfer (PEF) a nawr fel Uwch Ddarlithydd yn y tîm nyrsio Rhag-gofrestru Oedolion. 


Oddi allan i’r gwaith rwy’n mwynhau chwarae pêl rwyd a threulio amser gyda fy nheulu.

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeitha Ariennir gan Hyd/O
Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth PSRB 10/09/2005

Diddordebau Addysgu

Rwy’n dysgu iechyd cyhoeddus a hyrwyddo iechyd, iselder ôl-enedigaeth, diogelu a sgiliau clinigol. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn addysgu arweinyddiaeth a rheolaeth ac adeiladu ar hyder myfyrwyr i drawsnewid o fod yn fyfyriwr i fod yn nyrs. 

Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Fast Track Towards Nursing NUR420
Leading and Managing Nursing Care NUR621
Return to Nursing Practice NHS6A7
Leading and Managing Nursing Care NUR705